Skip to main content

Newyddion Aelodau’r BwrddY Ffordd Ymlaen

Deall ein heriau

5 Rhagfyr 2014

Roedd fy nghyd-aelodau ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi dweud wrthyf fod cynnal un o weithdai‘r Ffordd Ymlaen – Gwneud iddo Ddigwydd, yn llawn hwyl. Fodd bynnag, yr oeddwn yn dal i fod ychydig yn nerfus. Ar ôl dim ond chwe mis yng Nghaerdydd roeddwn yn ofni na fyddai gennyf y wybodaeth sefydliadol angenrheidiol i sicrhau bod y digwyddiad yn un llwyddiannus. Doedd dim rhaid i mi boeni, wrth gwrs. Gwnaeth y gweithdy ddwyn ynghyd grŵp o gydweithwyr o ar draws y Brifysgol i siarad am eu syniadau ar gyfer Y Ffordd Ymlaen, sut y gallant gyfrannu, a sut oedd hwn yn berthnasol iddynt hwy yn ôl mewn bywyd Prifysgol. Roedd pawb wedi cynnig i fynychu a dangoswyd hyn. Llifodd y syniadau a’r sgwrs.

Roedd rhwydweithio yn uchel ar agenda pawb ac fe ddatblygwyd nifer o gysylltiadau ymhlith cydweithwyr, yn ogystal â dealltwriaeth o heriau pobl eraill. Un peth a’m tarodd oedd didwylledd y grŵp i gofleidio newid a’r brwdfrydedd i ddychwelyd i’w mannau gwaith priodol gyda syniadau ac awgrymiadau.

Un peth a gymerais i ffwrdd o’r drafodaeth oedd dealltwriaeth well o’r heriau a wynebir gan gydweithwyr. Cefais fwynhad wrth glywed y manylion am negodi contractau ymchwil, sut yr ydym yn hyfforddi fferyllwyr, sut mae rheoli’r prosiect yn gweithio… roedd yr amrywiaeth yn enfawr. Cafwyd hefyd rhannu syniadau o’r mannau gwaith blaenorol. Cefais wybod gan un cydweithiwr a arferai weithio i un o ddarparwyr mawr y cyfleustodau yng Nghymru fod “ffilm Gwener” wedi bod yn boblogaidd. Roedd y ffilmiau bychain yn rhoi’r cyfle i unigolion ar draws y sefydliad i rannu eu gwaith, eu diwrnod neu eu syniadau. Mae hyn yn sicr yn syniad ar gyfer y dyfodol.

Byddem yn eich annog chi i fynychu gweithdy – rhagor o wybodaeth yma.