Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 1 Rhagfyr 2014

1 Rhagfyr 2014
  • Cafodd y Bwrdd ddiweddariad o’r achos busnes dros y Fframwaith Diogelwch Gwybodaeth (yr ISF). Cytunodd y Bwrdd i ariannu’r cais am gyllid cyfalaf ychwanegol a chytunodd y byddai angen rhoi’r cronfeydd refeniw busnes-fel-arfer ar waith drwy’r rownd nesaf o gynllunio, perfformio a chyllidebu.
  • Cytunwyd ar gyflwyniad y Brifysgol i CCAUC ynghylch Ymgysylltu â Chynllunio Strategol. Nodwyd mai o ddogfennau Y Ffordd Ymlaen y cymerwyd y testun ac iddo roi gwybod i CCAUC am ein cynnydd tuag at gyflawni’n dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs).
  • Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd, a chytunwyd arno. Caiff yr adroddiad ei argymell i’r Cyngor yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr.
  • Nododd y Bwrdd bapur a roddai grynodeb o’r trefniadau presennol, a’r rhai sydd ar y gweill, ar gyfer gweithio ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Cytunwyd bod angen cynnwys agendâu ehangach o ran arloesi ac ymchwil glinigol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad mis Tachwedd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Adroddiad mis Tachwedd y Prif Swyddog Gweithredu
  • Dogfen Cynllunio at y Dyfodol, Rhagfyr 2014 – Ionawr 2015