Skip to main content

Y Ffordd Ymlaen

Y Ffordd Ymlaen – Gwneud iddo Ddigwydd

12 Tachwedd 2014

Hyd yn hyn, mae ychydig dros 300 o aelodau o staff wedi bod yng ngweithdai Y Ffordd Ymlaen – Gwneud iddo Ddigwydd. Gan fod yr adborth ar sesiynau 2013/14 wedi bod mor gadarnhaol, mae’r Brifysgol wedi penderfynu rhedeg rhaglen debyg yn ystod 2014/15. Y gwahaniaeth mawr eleni yw bod gwahoddiad i chi gyd wneud cais, os dymunwch.

Hwylusir y gweithdai gan hwylusydd proffesiynol ac aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Fe’u cynhelir ar ddau ddiwrnod olynol ac maent yn cynnwys arhosiad dros nos. Mae dewis o ddyddiadau. Dylai aelodau o’r staff ddewis y tri dyddiad sydd orau ganddynt a’u rhestru yn ôl eu hwylustod.

I sicrhau bod cynifer o’r staff â phosibl yn gwybod am y rhaglen, anogir rheolwyr llinell i drafod y cyfle hwn gyda’u tîm ac annog staff ar bob lefel i gynnig eu henwau. Wrth i chi’ch enwebu’ch hun, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n trafod gyda’ch rheolwr(aig) llinell y dyddiadau yr ydych chi wedi’u dewis.

Rhedir y gweithdai ar y dyddiadau hyn:

  • 3-4 Rhagfyr 2014
  • 21-22 Ionawr 2015
  • 25-26 Chwefror 2015
  • 4-5 Mawrth 2015
  • 22-23 Ebrill 2015
  • 6-7 Mai 2015

E-bostiwch eich enw a’ch dewis o ddyddiadau at  Rachel James (JamesR29@caerdydd.ac.uk) yn yr adran adnoddau dynol.