Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cardiff Futures

5 Tachwedd 2014

Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd, rwyf wedi cael fy nharo gan yr amser a’r ymdrech a roddir i ddatblygiad staff. Un o amryw fanteision y rhaglenni hyn yw’r cyfle i gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol. Roedd hyn yn sicr yn wir yng nghinio nos Cardiff Futures ar ddydd Mercher 5 Tachwedd. Cafodd Cardiff Futures ei sefydlu gan yr Is-Ganghellor wedi iddo gyrraedd Caerdydd ac mae’n gyfle i staff academaidd ddatblygu eu gyrfaoedd ac i ddarganfod ac archwilio sut y gallent gyfrannu at lunio dyfodol Prifysgol Caerdydd. Mae’r ciniawau gyda’r nos yn galluogi cyfranogwyr i ddod i adnabod ei gilydd yn well ac fe’u mynychir gan aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB). Mwynheais y polisi o gylchredeg aelodau’r UEB ar draws gwahanol fyrddau. Golygydd fy mod wedi cwrdd ag amrywiaeth anhygoel o bobl, o athronydd/mynyddwr i ffisegydd entrepreneuraidd. Wedi hynny rwyf wedi cael nifer o wahoddiadau trwy Linked In ac yn edrych ymlaen at fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.