Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 15 Medi 2014

15 Medi 2014
  • Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Undeb y Myfyrwyr Gyflwyniad Ysgrifenedig Myfyrwyr 2014 i’r Cyngor. Ynddo, nodwyd eu strategaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15. Trafodwyd ymateb drafft y Brifysgol gan y Bwrdd, a chaiff ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Hydref 2014. Nodwyd bod ymateb y Brifysgol, am y tro cyntaf, yn cynnwys crynodeb o’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn y gweithredoedd y cytunwyd arnynt y llynedd.
  • Nododd y cyfarfod fod Voyager, y system rheoli llyfrgell, yn tynnu at ddiwedd ei hoes. Mae’r Brifysgol wedi arwain prosiect prynu i weithredu system newydd ac arloesol yn y cwmwl fel rhan o gonsortiwm gyda phob prifysgol arall yng Nghymru ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cafodd yr achos cychwynnol hwnnw i ddisodli’r system rheoli llyfrgell yng Nghaerdydd ei gymeradwyo gan Fwrdd Gweithrediadau’r Brifysgol ym mis Tachwedd 2011 a’i ategu ag achos busnes diweddarach heddiw o blaid prynu drwy gonsortiwm. Bydd Caerdydd yn gweithredu’r system newydd yn 2016/17, ochr yn ochr â llyfrgelloedd y GIG ledled Cymru (sydd ar hyn o bryd yn rhannu system Voyager gyda’r Brifysgol). Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r cyllid cyfalaf i weithredu’r system newydd yn 2016/17 ar gost o £1.25m dros gyfnod o saith mlynedd. Rhagwelir y bydd y prosiect yn arbed arian sylweddol dros gyfnod y contract o’i gymharu â’r costau cynnal-a-chadw presennol.
  • Trafodwyd cynnig i greu rhwydwaith ymchwil i’r Brifysgol, sef STATcog, a fyddai’n croesawu aelodau gwirfoddol – o unrhyw Ysgol neu Goleg – sy’n ymddiddori mewn ystadegaeth. Cytunwyd y byddai Dirprwy Is-Gangellorion y Colegau yn cynnwys y gweithgaredd traws-prifysgol hwnnw yn eu trafodaeth ar Ddata Mawr i benderfynu ar y camau nesaf.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd gynnig i ddefnyddio papur a gawsai ei ailgylchu 100%. Cawsai defnyddio papur sydd wedi’i ailgylchu 100% ym musnes beunyddiol y Brifysgol ei gynnwys ymhlith amcanion a thargedau Grŵp Systemau Rheoli’r Amgylchedd ar gyfer 2013/14. Nodwyd bod y Brifysgol wedi cymryd rhan yn y prosiect, y “Prosiect Cwtogi ar Bapur”: fe’i rheolwyd gan Rwydwaith Amgylchedd Ewrop ac fe gefnogai ymhellach y symudiad i ddefnyddio rhagor ar bapur sydd wedi’i ailgylchu. Cawsai profion dall eu cynnal ar lungopiwyr ac argraffwyr y llyfrgell heb i unrhyw broblem weithredol godi. Cytunwyd i gymeradwyo’r symudiad i ddefnyddio rhagor ar bapur sydd wedi’i ailgylchu.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu
  • Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol
  • Adroddiad ar Weithgareddau Ymchwil ac Arloesi