Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dydd Gŵyl Dewi hapus

26 Chwefror 2024
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 26 Chwefror.

Gobeithio eich bod chi’n setlo i mewn i semester y gwanwyn.

Dydd Gwener 1 Mawrth yw Dydd Gŵyl Dewi, sy’n cael ei ddathlu ledled Cymru. Mae’n amser i ddysgu mwy am dreftadaeth Cymru, dathlu traddodiadau, a dod at eich gilydd fel cymuned sy’n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd.

Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi gyd. Un o’r themâu eleni yw ‘gwna’r pethau bychain’. Mae astudio yng Nghaerdydd yn cynnig digon o gyfleoedd i brofi diwylliant Cymru – o ddysgu Cymraeg, bwyta pice ar y maen, ymweld ag un o’r amgueddfeydd neu un o fy ffefrynnau – gwylio gêm rygbi! Fe wnes i fwynhau darllen mwy o syniadau gan eich Hyrwyddwyr Myfyrwyr. Ymunwch â digwyddiadau dathlu yn eich ysgol ac o gwmpas y campws.

Yn ystod semester y gwanwyn, rydym yn parhau i siarad â myfyrwyr a staff am sut olwg fydd ar Brifysgol Caerdydd yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfle i feddwl yn fawr a bod yn wahanol. Wrth edrych ar adborth Y Sgwrs Fawr hyd yn hyn, rydych chi wedi dweud eich bod am i’r brifysgol fod yn gynhwysol, yn gefnogol, yn amrywiol ac yn gynaliadwy. Mae ein paneli myfyrwyr wedi pwysleisio gwerth y profiadau personol a gewch o’r campws, a’ch bod hefyd eisiau gweld mwy o ddysgu rhithwir a chyfunol ar gael pan fydd yn gyfleus i chi.

Mae eich adborth wedi helpu i ddatblygu 3 dyfodol posibl ar gyfer ein prifysgol ac, ym mis Mawrth, byddwn yn camu i’r flwyddyn 2035 ac yn archwilio sut olwg allai fod ar brifysgol y dyfodol. Cadwch lygad allan am y cyfleoedd i gymryd rhan – bydd arddangosfa yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, mae’r Is-ganghellor, Wendy Larner, yn cynnal cyfres o seminarau, a bydd digwyddiad panel mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr lle cewch roi eich adborth ac ymuno yn y drafodaeth. .

Nawr fy mod i wedi gwneud ichi feddwl am y dyfodol, mae’n amser da i roi gwybod ichi fod y cyfleoedd interniaeth â thâl ar y campws bellach yn fyw. Dyma gyfle gwych i gael profiad gwaith gyda rhai o’n staff anhygoel ar draws amrywiaeth enfawr o dimau.

Cofion gorau,
Claire