Neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
5 Rhagfyr 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd heddiw, 5 Rhagfyr 2023.
Helo fyfyriwr,
Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich semester cyntaf.
Cyn i wyliau’r Nadolig gyrraedd, hoffwn ddiolch i chi am eich holl adborth am y brifysgol a/neu eich rhaglen ach atgoffa pa mor bwysig yw eich adborth i ni.
Bob blwyddyn, mae Undeb y Myfyrwyr yn ysgrifennu ‘Barn y Myfyrwyr‘, sy’n dweud wrthym beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Eleni, mae Barn y Myfyrwyr yn ymdrin â phynciau academaidd megis asesu a chael adborth, ond hefyd pynciau newydd megis tai a deallusrwydd artiffisial. Mae hefyd yn dweud wrthym fod angen i ni weithredu ar eich adborth yn well wrth feddwl am adeiladau a chyfleusterau newydd.
Yn y cyfamser, mae’n bleser gennyf ddweud ein bod wedi gwneud cynnydd da wrth ymateb i’ch adborth o Barn y Myfyrwyr y llynedd (2022/23). Dyma rai enghreifftiau:
- Mwy o fannau astudio mewn ysgolion ar gael i gadw ar Resource Booker
- Mwy o nodweddion yn Ap y Myfyrwyr, gan gynnwys hysbysiadau gan eich ysgol a chofrestru eich presenoldeb
- Capsiynau Adnabod Llais yn Awtomatig (ASR) ar gyfer recordiadau darlithoedd Panopto
- Mwy o gymorth ariannol a gwiriwr cymhwysedd
- 150+ o gliniaduron ar gael i’w bethyg ar draws ein llyfrgelloedd.
Mae llawer yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni i wrando ar eich llais myfyriwr a sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i weithredu. Yn ogystal â newidiadau ledled y brifysgol, gallwch hefyd weld sut mae eich ysgol yn ystyried eich adborth wrth wneud newidiadau.
Gwyliau Nadolig
Mae gennym lond sach o ddigwyddiadau Nadoligaidd i chi, ac os ydych chi yng Nghaerdydd yn ystod yr egwyl (18 Rhagfyr – 7 Ionawr 2024) cadwch lygad gan y bydd rhagor yn cael eu hychwanegu. Os oes angen cymorth arnoch chi neu rywun i siarad â nhw yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni dal yma i’ch helpu. Gallwch chi naill ai gysylltu â Cyswllt Myfyrwyr ar-lein neu ymweld â ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Bydd y brifysgol ar gau o ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr 2023, a bydd yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024. Pan fydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar gau, gallwch gael cymorth ar-lein o hyd .
Gan ddymuno gwyliau Nadolig pleserus a diogel ichi a Blwyddyn Newydd Dda iawn. Gwelwn ni chi yn 2024!
Cofion gorau,
Claire
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014