Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Croeso nol

19 Medi 2023
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr sy’n dychwelyd ar 19 Medi.

Helo

Gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau’r haf.

A minnau’n Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, bydda i mewn cysylltiad â chi drwy gydol y flwyddyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am bynciau pwysig sy’n effeithio ar eich bywyd academaidd a bywyd y myfyrwyr yn gyffredinol.

Mae’r flwyddyn academaidd newydd ar ein gwarthaf a chan fod rhai ohonoch chi eisoes ar y campws, ac eraill ar fin cyrraedd, hoffwn i estyn croeso cynnes i bob un ohonoch chi, gan ddymuno’r gorau ichi ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cyflwyno Is-Ganghellor newydd y Brifysgol

Ar 1 Medi ymunodd Is-ganghellor newydd â’r Brifysgol, sef yr Athro Wendy Larner, yr Is-Ganghellor benywaidd cyntaf yn hanes Prifysgol Caerdydd sy’n ymestyn yn ôl 140 mlynedd. Cyn hynny yr Athro Larner oedd Profost Te Herenga Waka – Prifysgol Victoria, Wellington, Seland Newydd, yn ogystal ag yn Athro Daearyddiaeth Ddynol am 10 mlynedd ym Mhrifysgol Bryste. Dewch i adnabod Wendy a’r hyn sy’n ei gyrru yn y fideo byr hwn.

Gwneud y gorau o’n llyfrgelloedd

Mae timau llyfrgell y Brifysgol wedi ennill gwobr Rhagoriaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid am y ddegfed flwyddyn yn olynol; cydnabyddiaeth yw hon i’r cymorth y byddan nhw’n ei roi i fyfyrwyr a staff yn ogystal â’r gwelliannau i’r gwasanaethau y maen nhw’n eu gwneud i ddiwallu ein hanghenion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwasanaethau llyfrgell sydd ar gael ichi wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys dod i adnabod eich llyfrgellydd pynciol a defnyddio sgwrs y llyfrgell i’ch helpu gyda’ch astudiaethau.

Gwnewch gais i astudio iaith yn rhad ac am ddim

Os ydych chi’n awyddus i ddysgu iaith newydd neu loywi iaith rydych chi eisoes yn gyfarwydd â hi, mae rhaglen Ieithoedd i Bawb y Brifysgol yn rhoi’r cyfle ichi wella eich sgiliau ieithyddol ar y cyd â’ch astudiaethau. Ar hyn o bryd, cynigir cyrsiau mewn naw iaith a gallwch chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas ichi, a hynny mewn dosbarthiadau wythnosol, sesiynau dwys neu drwy ddysgu annibynnol. Cofrestrwch ar gyfer cwrs sy’n rhad ac am ddim cyn 22 Medi.

Y Boicot Marcio ac Asesu

Rwy’n cydnabod, ac yn deall, y bydd rhai ohonoch yn dychwelyd i Gaerdydd ac yn dal i deimlo effaith y boicot marcio ac asesu gan aelodau’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU). Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol bod UCU bellach wedi dod â’r boicot hwn i ben a’n bod bellach yn gweithio i gasglu a phrosesu unrhyw farciau a thrawsgrifiadau sy’n weddill. I’r nifer fechan ohonoch sy’n aros o hyd i gael marciau byddwch yn eu derbyn erbyn diwedd mis Hydref fan hwyraf. I bob un ohonoch yr effeithiwyd arnoch yn ystod y cyfnod hwn o weithredu diwydiannol, ymddiheurwn unwaith eto a hoffwn ddiolch yn bersonol ichi am eich amynedd parhaus wrth inni gwblhau eich trawsgrifiadau.

Bydda i mewn cysylltiad â chi unwaith eto yn ystod yr wythnosau nesaf. Cadwch olwg am ebost Newyddion Myfyrwyr a diweddariadau pwysig eraill yn y cyfamser, ac os oes gennych chi gwestiynau cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr.

Dymuniadau gorau
Claire