Diweddariad gweithredu diwydiannol, Mis Pride ac oriau agor yr haf
13 Mehefin 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 13 Mehefin.
Helo fyfyriwr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Wrth i ni gyrraedd diwedd y flwyddyn academaidd, roeddwn i eisiau anfon neges fer atoch cyn gwyliau’r haf.
Fel y gwyddoch, mae rhai staff sy’n aelodau o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) yn cymryd rhan mewn boicot marcio ac asesu. Hoffwn roi sicrwydd i chi ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y gweithredu diwydiannol hwn arnoch chi. Gan y bydd yr effaith yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr (mewn rhai achosion ni fydd unrhyw effaith o gwbl), bydd eich ysgol yn cysylltu â chi yr wythnos hon gyda mwy o wybodaeth am y camau rydym yn eu cymryd i’ch cefnogi’n benodol.
Bydd llawer ohonoch yn dychwelyd adref dros yr wythnosau nesaf, ond os ydych chi’n aros yng Nghaerdydd cofiwch efallai y bydd rhai o’n hadeiladau a’n gwasanaethau – gan gynnwys ein llyfrgelloedd, ein cyfleusterau chwaraeon a Cyswllt Myfyrwyr – ar agor ac ar gael ar amseroedd gwahanol i’r arfer. Mae’n werth gwirio ymlaen llaw os ydych yn bwriadu defnyddio’r gwasanaethau hyn dros yr haf. Os ydych yn newid llety neu’n symud i ffwrdd, dilynwch ein cynghorion ar symud allan, cofiwch ddychwelyd eich llyfrau llyfrgell a ble bynnag yr ydych chi, cofiwch ofalu amdanoch chi’ch hun a’ch eiddo bob amser.
Mae graddedigion Caerdydd ymhlith rhai mwyaf cyflogadwy y DU
Roeddwn yn falch iawn o weld canlyniadau’r arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf sy’n dangos bod graddedigion Prifysgol Caerdydd yn hynod gyflogadwy ym marn cyflogwyr y DU, a bod galw mawr amdanynt ymysg y cyflogwyr hynny. Er gwaethaf heriau’r blynyddoedd diwethaf, mae’n galonogol gwybod bod mwy o’n myfyrwyr yn sicrhau gwaith sy’n gofyn am sgiliau uchel, nag erioed.
Os ydych chi i fod yn graddio eleni, defnyddiwch ein cymorth Dyfodol Graddedigion. Rydyn ni’n cynnig adnoddau, cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i ddeall eich opsiynau, cyflawni eich potensial a sicrhau swydd, mynd ymlaen i astudio ymhellach neu unrhyw gyfleoedd eraill yr hoffech chi eu dilyn.
Mis Balchder
Mis Balchder yw mis Mehefin – mis ar gyfer dathlu cymunedau LHDTC+ ledled y byd. Rwy’n gyfaill sy’n Aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr LHDTC+ ac mae’n rôl rwy’n hynod falch ohoni. Mae gennym lawer ar y gweill o ran dathlu mis Balchder eleni: beth am ymuno â mi ar gyfer brecwast yn y Prif Adeilad ddydd Sadwrn 17 Mehefin cyn gorymdaith Pride Cymru trwy ganol dinas Caerdydd?
Gallwch hefyd ddarganfod mwy am y rhwydweithiau LHDTC+ gallwch ymuno â nhw, a’r cymorth gan gydfyfyrwyr sydd ar gael gan ein myfyrwyr yw hyrwyddwyr lles LHDTC+ ar ein tudalen mewnrwyd Mis Balchder.
Wythnos Ffoaduriaid y Byd, 19 i 25 Mehefin
Yn gynharach eleni dyfarnwyd statws Prifysgol Noddfa i Brifysgol Caerdydd, statws sy’n cydnabod arfer da prifysgolion o ran croesawu pobl sy’n ceisio noddfa, rhoi cymorth iddynt a’u grymuso. Mae Wythnos Ffoaduriaid y Byd yn dechrau ddydd Llun 19 Mehefin a thrwy gydol yr wythnos byddwn yn rhannu straeon ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches yn ein cymuned. Gallwch hefyd ddod i’n digwyddiad Lleisiau Tosturi yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ar 21 Mehefin, lle gallwch glywed gan bobl sydd wedi ceisio diogelwch yng Nghymru ac sy’n codi eu llais dros newid.
Rwy’n dymuno gwyliau haf hapus i chi gyd ac yn gobeithio y cewch ymlacio.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014