Y diweddaraf am weithredu diwydiannol, Gornest y Prifysgolion ac Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr
17 Ebrill 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 17 Ebrill.
Annwyl fyfyriwr,
Croeso yn ôl i’r campws ar ôl gwyliau’r Pasg. Gobeithio eich bod wedi gallu cymryd amser i gael rhywfaint o orffwys y mae mawr ei angen i baratoi ar gyfer yr arholiadau sydd ar y gweill yn ddiweddarach yn y semester hwn.
Gweithredu diwydiannol
Efallai eich bod yn ymwybodol bod Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi cynnal pleidlais arall, gan roi mandad iddynt drefnu boicot marcio ac asesu i ddechrau ar 20 Ebrill. Mae gan y tudalennau gweithredu diwydiannol ar y fewnrwyd wybodaeth am yr hyn y gallai boicot marcio ac asesu ei olygu, yn ogystal â gwybodaeth defnyddiol gan gynnwys ein proses gwneud cwyn
Rwy’n deall y bydd hyn yn peri gofid gan fod llawer ohonoch yn paratoi ar gyfer eich arholiadau. Byddwn ni’r brifysgol yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y gweithredu diwydiannol diweddaraf arnoch yn enwedig os ydych ar fin graddio’r haf hwn. Cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr neu dewch i’n gweld yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr os ydych yn poeni am unrhyw beth ac yr hoffech siarad â rhywun.
Dweud eich dweud
Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yw eich cyfle i gynnig adborth gwerthfawr am eich profiad yn y brifysgol. Mae’r Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn rhoi cyfle i bob myfyriwr blwyddyn olaf siarad am bopeth, fel addysg eich cwrs, mynediad at adnoddau a chyfarpar, a llais y myfyrwyr.
Lansiwyd arolwg 2023 ar 11 Ionawr ac mae’n cau ar 30 Ebrill. Os ydych chi yn eich blwyddyn olaf o astudio israddedig ac nad ydych eto wedi cymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, byddwn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Mae’n ddienw, a bydd eich ymatebion yn ein helpu i wneud newidiadau i helpu i lunio dyfodol Prifysgol Caerdydd. Efallai eich bod wedi gweld esiamplau o rai o’r newidiadau rydym wedi eu gwneud o amgylch ein campysau dros yr wythnosau diwethaf.
Gornest y Prifysgolion 2023
Yn dilyn ein llwyddiant y llynedd, bydd Gornest Prifysgolion Cymru 2023 yn dychwelyd i Gaerdydd ddydd Mercher nesaf (26 Ebrill) gyda dros 40 o dimau chwaraeon yn cystadlu i ennill tarian a chwpan Gornest y Prifysgolion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i bob un ohonoch sy’n cymryd rhan, ac i’ch atgoffa bod disgwyl i chi, yn llysgenhadon ein prifysgol, i fwynhau’r digwyddiad ac i ymddwyn mewn modd cyfrifol wrth wneud.
Amgylchiadau esgusodol
Rydym yn ymwybodol y gall fod adegau yn eich bywyd myfyriwr pan fydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth yn gallu cael effaith negyddol ar eich gallu i astudio, bodloni terfynau amser, neu gwblhau eich asesiadau. Mae ein gweithdrefn amgylchiadau esgusodol ar gael, os ydych yn profi amgylchiadau sy’n:
- yn ddifrifol ac eithriadol
- nad oedd modd eu rhagweld neu eu hosgoi
- yn agos o ran amser i’r asesiad
Diweddarwyd y weithdrefn hon yn gynharach yn y flwyddyn academaidd: darllenwch y wybodaeth cyn y cyfnod arholiadau ac asesu sydd ar y gweill.
Cyfleoedd i weithio gyda ni
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae ein Hyrwyddwyr Myfyrwyr wedi gweithio ar brosiectau strategol allweddol mewn partneriaeth â staff ar draws y brifysgol i ddatblygu ein hadnoddau, yn rhoi barn y myfyrwyr i helpu i lunio prosiectau, ac yn casglu ac yn dadansoddi data myfyrwyr. Bydd gwaith Hyrwyddwyr Myfyrwyr eleni yn cael ei arddangos mewn arddangosfa bosteri yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ddydd Mercher yma, 19 Ebrill – dewch draw i weld yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud?
Rydym nawr yn recriwtio Hyrwyddwyr Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf: mae ceisiadau ar agor tan 8 Mai. Rydym hefyd yn chwilio am Hyrwyddwr Lles, Gynorthwywyr Dyfodol Myfyrwyr a Myfyrwyr sy’n Mentora. Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan mewn interniaeth haf, yr wythnos hon yw eich cyfle olaf i wneud cais am un o’n cyfleoedd gyda thâl ar y campws. Gweld yr ystod o rolau gyda thâl a di-dâl sydd ar gael.
Rwy’n dymuno’r gorau i chi ar gyfer eich astudiaethau a’ch arholiadau’r semester hwn. Gobeithio bod eich misoedd olaf yn y flwyddyn academaidd hon yn bleserus a chynhyrchiol.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014