Gweithredu diwydiannol yn parhau a digwyddiadau gallwch gymryd rhan ynddynt
6 Mawrth 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 6 Mawrth.
Annwyl fyfyriwr,
Gobeithio eich bod chi’n mwynhau’r semester newydd. Rwy’n sylweddoli y bydd y gweithredu diwydiannol sydd wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi tarfu ar astudiaethau rhai ohonoch chi, ac mae i fod i ailgychwyn ddydd Mercher 15 Mawrth. Dylech chi fod yn dawel eich meddwl bod ein trafodaethau gydag UCU yn parhau, a bod cymorth ar gael os bydd ei angen arnoch chi.
Os bydd gweithredu diwydiannol yn mynd rhagddo unwaith eto, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod eich addysgu wedi yn cael ei ganslo. Dylech chi fynd i’r sesiynau a amserlennwyd ar eich cyfer oni bai y bydd aelod o’r staff yn rhoi gwybod ichi fel arall. Os caiff eich sesiwn ei chanslo, dylech chi fod yn dawel eich meddwl fy mod i a’m cydweithwyr yn gweithio gyda’ch ysgolion ar y camau addas i leihau’r effaith arnoch chi.
Mae’r wythnosau nesaf yn adeg brysur, a bydd llawer yn digwydd ichi gymryd rhan ynddo:
Mis Mawrth: mae ein partner Santander Universities wedi lansio eu Grant Dyfodol Disglair i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr. Mae 10 grant gwerth £1,000 yr un ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap. Y dyddiad cau i wneud cais yw 30 Ebrill.
6 i 10 Mawrth: mae etholiadau gwanwyn Undeb y Myfyrwyr bellach ar agor, gan roi’r cyfle ichi bleidleisio dros swyddogion sabothol y flwyddyn nesaf. Mae’r swyddogion yn cael eu hethol yn flynyddol ac maen nhw yno i’ch cynrychioli chi, ein myfyrwyr, a hyrwyddo’r pethau sy’n bwysig ichi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pleidleisio cyn i’r etholiadau ddod i ben ddydd Gwener 10 Mawrth.
6 i 11 Mawrth: yr wythnos hon hefyd yw’r Wythnos Agored i Ôl-raddedigion. Os ydych chi’n fyfyriwr yn y flwyddyn olaf ac eisiau gwybod am ddilyn gradd meistr neu ymchwil yng Nghaerdydd, cofrestrwch i gymryd rhan mewn darlithoedd blasu, cwrdd ag academyddion ôl-raddedig a siarad am eich opsiynau cyllido gan gynnwys ein cynllun gostyngiadau i gyn-fyfyrwyr.
8 Mawrth: Dydd Mercher yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sef diwrnod i ddathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol menywod ledled y byd wrth inni barhau i fyw mewn byd lle y bydd menywod yn cael eu gormesu a’u tangynrychioli. Mae digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y brifysgol yn agored i bawb – dewch draw i’n gweithdy yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr i sgwrsio gyda rhan o’n myfyrwyr benywaidd am yr hyn maent wedi’i gyflawni ochr yn ochr ag astudio gyda’u gradd.
9 Mawrth: Dydd Iau yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol, pan fyddwn ni’n annog pawb i siarad am les meddyliol myfyrwyr. Fis Ebrill diwethaf, lansion ni Wasanaeth Cyswllt Prifysgol Iechyd Meddwl y Brifysgol sy’n rhoi cymorth i fyfyrwyr sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl cymhleth cymedrol neu hirdymor. Mae’r tîm, sy’n cynnwys Ymarferwyr Iechyd Meddwl y GIG, wedi rhoi cymorth i fwy na 280 o fyfyrwyr yn ystod ei naw mis cyntaf. Mae’r gwasanaeth newydd yn pontio bwlch rhwng cefnogi myfyrwyr a’r trothwy i gael defnyddio gwasanaethau’r GIG. Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os ydych chi’n poeni am rywun arall, cofiwch gysylltu â ni.
13 Mawrth: wrth inni edrych ymlaen at yr wythnos nesaf, bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol yn cael ei lansio ddydd Llun. Rydyn ni wedi llunio amcanion cydraddoldeb drafft sy’n manylu ar sut rydyn ni’n bwriadu meithrin diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, a byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn! Dewch i wybod rhagor am y lansiad ar-lein.
Cofion gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014