Mis Hanes LHDTC+, gofod cymdeithasol newydd i fyfyrwyr, cynllun mentora myfyrwyr ar agor
8 Chwefror 2023Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 7 Chwefror.
Annwyl fyfyriwr,
Wrth imi ysgrifennu’r e-bost hwn, rydym yng nghanol cyfnod o weithredu diwydiannol o hyd, ac rwyf yn sylweddoli efallai y bydd hyn yn effeithio rhai ohonoch chi. Rwyf eisiau pwysleisio ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i geisio lleihau effaith y gweithredu diwydiannol hwn arnoch chi a’ch astudiaethau. Os ydych chi’n cael trafferth, cysylltwch â’ch ysgol academaidd neu cysylltwch Chyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Er na fyddwn byth yn diystyru effaith bosibl y gweithredu diwydiannol hwn, hoffwn hefyd rannu newyddion â chi o bob rhan o’r brifysgol sy’n fwy cadarnhaol:
Degawd o fentoriaid sy’n fyfyrwyr
Dathlodd Cynllun Mentora Myfyrwyr y Brifysgol ei ben-blwydd yn 10 oed yn ddiweddar, ac rwyf eisiau diolch yn ddiffuant i bawb ohonoch chi sydd wedi cymryd rhan eleni ac yn y gorffennol. Mae mentoriaid sy’n fyfyrwyr yn cefnogi’r myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf wrth iddyn nhw bontio i’r brifysgol, gan gynnig cyngor ac arweiniad amhrisiadwy a helpu i feithrin teimlad o gymuned. Gwnewch gais nawr os hoffech chi fod yn fentor sy’n fyfyriwr yn y flwyddyn academaidd 2023-24.
Ardal newydd i fyfyrwyr gymdeithasu yn Lolfa IV
Yr wythnos ddiweddaf, agorwyd ardal newydd i fyfyrwyr gymdeithasu wrth ymyl y Lolfa IV ar ein campws ym Mharc y Mynydd Bychan. Dyluniwyd y lle cymdeithasol hwn yn dilyn adborth gennych chi, ein myfyrwyr, ac mi fydd yn cynnig lle ichi weithio, ymlacio a chymdeithasu gyda’ch ffrindiau. Mae ar agor pob diwrnod o’r wythnos o 07:30 tan 22:00.
Dathlu eich athrawon
Mae gan y Brifysgol hanes o addysgu rhagorol sy’n seiliedig ar ymchwil a phractis, sy’n golygu bod eich bywyd academaidd yn werthfawr a gwobrwyol. I ddathlu hyn, rydyn ni’n gofyn ichi roi enghreifftiau inni sy’n adlewyrchu safon uchel yr addysgu a gawsoch chi. Byddwn ni’n defnyddio’r rhain wedyn yn rhan o ymgyrch gyfathrebu ar draws ein campysau. Rhoddir taleb o £100 am bob cyflwyniad llwyddiannus.
Digwyddiadau ar y gweill
Bydd llawer yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Dyma’ch cyfle i gymryd rhan:
- Mis Hanes LHDTC+: Mis Chwefror yw Mis Hanes LHDTC+, sef adeg i hyrwyddo cymunedau LHDTC+ ledled y DU. Rwy’n falch o fod yn Aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol sy’n gynghreiriad ar gyfer staff a myfyrwyr LHDTC+. Ewch i dudalen Mis Hanes LHDTC+ y Brifysgol i gael gwybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill, rhwydweithiau y gallwch chi ymuno â nhw, a chymorth gan fyfyrwyr eraill.
- Dydd Miwsig Cymru: Dydd Gwener 10 Chwefror yw Dydd Miwsig Cymru – sef dathliad o bob math o gerddoriaeth Gymraeg. Dim ots beth yw eich hoff gerddoriaeth na chwaith os ydych chi’n siarad Cymraeg, beth am wrando ar ein rhestr chwarae ar Spotify sy’n dangos talent cerddorol yn Gymraeg o bob rhan o’r Brifysgol?
- 2023 Gornest Prifysgolion Cymru: ar 26 Ebrill, bydd Gornest Prifysgolion Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 2019. Gan fod mwy na 40 o’n timau’n cystadlu i ennill tarian a chwpan yr Ornest, y digwyddiad yw canolbwynt ein calendr chwaraeon ac yn rhywbeth inni i gyd edrych ymlaen ato – boed yn athletwyr neu’n gefnogwyr!
Cofion gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014