Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Is-Ganghellor Newydd, niferoedd o ran myfyrwyr, gweithredu diwydiannol, Prifysgol Noddfa

30 Ionawr 2023

Annwyl gydweithiwr,

Hoffwn ddechrau ebost y mis hwn drwy groesawu a llongyfarch fy olynydd, yr Athro Wendy Larner, ar ei phenodiad yn Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd o 1 Medi 2023. O fy mhrofiad i fy hun, rwy’n siŵr y bydd Wendy yn mwynhau’r rôl, ac rwy’n gwybod y bydd y Brifysgol yn ffynnu o dan ei harweinyddiaeth. Dymunaf bob llwyddiant iddi, ac fe wnaf bopeth o fewn fy ngallu i wneud yn siŵr bod y broses o drosglwyddo’r awenau mor esmwyth ac mor ddiffwdan â phosibl.

Yn y cyfamser, fi fydd yr Is-Ganghellor dros y saith mis nesaf, ac rwy’n benderfynol o’n harwain wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau amrywiol sy’n ein hwynebu. Rydym yn wynebu ansicrwydd o hyd, ac mae fel petai mwy o ansicrwydd nag erioed ar hyn o bryd, er bod hynny’n rhywbeth yr wyf wedi’i ddweud ar sawl achlysur yn y gorffennol. Serch hynny, nid oes amheuaeth bod cryn dipyn yn fwy o sicrwydd pan ddechreuais yn rôl yr Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Essex yn 2007, ac roedd modd gwneud rhagdybiaethau cynllunio dibynadwy yn llawer haws. Roedd niferoedd y myfyrwyr cartref yn cael eu dosbarthu’n ganolog, roedd ffioedd yn llai o broblem ac roedd y grantiau addysgu a chymorth yn briodol i’r tasgau yr oedd angen i ni eu cyflawni. Erbyn hyn, rhaid i ni gaffael y rhan fwyaf o’n hadnoddau ein hunain, a hynny trwy gystadlu â llawer o brifysgolion eraill, ac mae ein cynaliadwyedd ariannol yn dibynnu ar incwm ffioedd gan fyfyrwyr rhyngwladol.

Ar y pwnc hwnnw, mae polisi llywodraeth y DU ar fisâu myfyrwyr rhyngwladol yn destun trafodaeth frwd rhwng gweinidogion ar hyn o bryd. Mae achos cryf yn cael ei gyflwyno dros bwysigrwydd parhau â’r llwybr hynod lwyddiannus yr ydym wedi bod arno dros y tair neu bedair blynedd diwethaf ar y naill law, ac awydd i gymedroli niferoedd er mwyn lleihau’r niferoedd net sy’n mewnfudo ar y llaw arall. Mae Universities UK yn credu bod gennym lu o ddadleuon ar ein hochr; efallai mai’r ddadl gryfaf un yw’r holl dystiolaeth sy’n dynodi nad yw’r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr yn ymfudwyr, gan nad yw’r mwyafrif helaeth yn ymgartrefu yn y wlad hon. Mae prifysgolion y DU wedi ymrwymo ar y cyd i gyflwyno’r achos hwnnw, ac yma yng Nghymru ein tasg yw darbwyllo Llywodraeth Cymru bod cymorth ariannol i brifysgolion yr un mor bwysig â chymorth ariannol i fyfyrwyr. Mae chwyddiant yn cael effaith nid yn unig ar fyfyrwyr, ond prifysgolion hefyd, ac os ydym am gynnig yr amgylchedd dysgu ac addysgu y mae myfyrwyr yn ei haeddu, rhaid i’r cymorth y mae’r llywodraeth yn ei roi i brifysgolion adlewyrchu’r pwysau hynny.

Mae’r chwyddiant uchel ar hyn o bryd yn deillio i raddau helaeth o’r pwysau ar gyflenwadau ynni a achosir gan ryfel Putin yn Wcráin, ac mae hyn, yn ei dro, wedi dod yn elfen allweddol yn y streiciau sy’n mynd rhagddynt ar draws y sector cyhoeddus yn y wlad hon. Byddwch yn gwybod bod Undeb y Prifysgolion a’r Colegau wedi cyhoeddi 18 diwrnod o streiciau yn dechrau ar 1 Chwefror, ac mae’n anochel y bydd y rhain yn tarfu ar addysg ein myfyrwyr os bydd pob un o’r rhain yn mynd rhagddynt. Rwy’n siŵr nad oes neb eisiau bod yn y sefyllfa hon, ond yn anffodus mae bwlch sylweddol ar hyn o bryd rhwng gofynion UCU – sy’n eithaf cymhleth ac yn amrywio ar draws cyflogau, amodau a phensiynau – a’r hyn y mae’r cyflogwyr yn teimlo eu bod yn gallu ei gynnig ar y cyd. Mae’n bwysig cydnabod mai anghydfod cenedlaethol yw hwn a bod yn rhaid i ba bynnag ateb a geir fod yn dderbyniol i ymhell dros gant o sefydliadau ar draws y DU. O safbwynt mwy cadarnhaol, mae’r trafodaethau’n parhau, ac mae hynny’n cynnig gobaith o ffordd ymlaen trwy’r anghytundeb presennol. Mae’n bwysig cydnabod, gan fod yr undebau a’r cyflogwyr wedi ymrwymo i gydfargeinio ar lefel genedlaethol, bod yn rhaid i bob sefydliad dan sylw allu anrhydeddu unrhyw gytundeb o ran tâl, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu’r heriau ariannol mwyaf. Eglurais fy safbwynt ar y materion hyn mewn datganiad ar y cyd ag UCU y llynedd, ac rwyf wedi cydnabod y pwysau costau byw y mae ein staff yn eu hwynebu yn ogystal â’r ymrwymiad eithriadol y mae pawb wedi’i ddangos yn ystod argyfwng covid. Rwy’n sylweddoli y bydd gan lawer o bobl bryderon a chwestiynau, a bydd cyfle i drafod y rhain maes o law.

Ar nodyn hapusach, rwy’n falch iawn o ddweud ein bod wedi derbyn statws Prifysgol Noddfa yn ddiweddar. Mae Prifysgolion Noddfa yn deillio o raglen Dinasoedd Noddfa. Mae’n fenter sy’n cydnabod ac yn dathlu arferion da prifysgolion wrth groesawu pobl sy’n chwilio am noddfa drwy eu helpu i fynd i’r brifysgol os mai dyna’r llwybr cywir iddyn nhw, yn ogystal â chynorthwyo cymunedau lleol o ffoaduriaid. Mae ein cynllun gweithredu yn amlygu’r ffyrdd y byddwn yn helpu i greu ymdeimlad o berthyn sy’n arwain at brofiad gwell o ran mynd i’r brifysgol a byw yng Nghaerdydd. Roedd hon yn ymdrech gan lawer iawn o bobl a thimau o bob rhan o’r Brifysgol, ac nid oes modd diolch i bawb yn y neges hon, ond hoffwn gyfeirio’n benodol at Venice Cowper.  Chwaraeodd Venice rôl ganolog yn y prosiect gan mai hi oedd arweinydd ein gweithgor Prifysgol Noddfa. Hi hefyd yw’r ddolen gyswllt orau os hoffech chi gael gwybod rhagor (cowperv@caerdydd.ac.uk).

Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn ein grantiau a’n contractau ymchwil sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â’r prosiectau sydd ar eisoes ar waith. Mae nifer y ceisiadau wedi cynyddu dros 40% ers yr un cyfnod y llynedd. Mae’r dyfarniadau wedi mwy na dyblu a chynyddu 89% hyd yn oed o’u cymharu â’r gyfartaledd ar gyfer yr un cyfnod dros y tair blynedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae incwm (sy’n cyfateb i wariant ar brosiectau cyfredol ac sy’n ffordd dda o fesur faint o ymchwil yr ydym yn ei chynnal) ar ei lefel uchaf erioed – bron i £6m neu 12% yn uwch na’r llynedd. Mae hyn nid yn unig yn dangos gallu ac ymrwymiad ein hymchwilwyr ar draws y brifysgol, ond hefyd yn cyfiawnhau ein polisi buddsoddi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r llwyddiant ysgubol hwn o ran dyfarniadau yn golygu y gallwn edrych ymlaen yn hyderus at gynnydd sylweddol mewn incwm ymchwil (a gweithgareddau ymchwil yn sgîl hynny) dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, felly mae’r dyfodol yn edrych yn addawol dros ben. Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled yn ystod cyfnod arbennig o anodd i ymchwilwyr.

Un prosiect penodol a ddaeth i’m sylw – ac sy’n un o nifer o brosiectau y byddaf yn eu trafod mewn ebyst yn y dyfodol – oedd llwyddiant yr Athro Alan Felstead wrth sicrhau’r contract i gynnal Arolwg Cyflogaeth Prydain unwaith eto. Mae’r arolwg hwn wedi bod yn casglu data’n rheolaidd dros y 35 mlynedd diwethaf.  Bydd Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2023 (SES2023), sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Surrey a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, yn canolbwyntio ar gyfnod eithriadol o gythryblus sydd wedi cynnwys Brexit, y pandemig, y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng costau byw. Mae covid yn benodol wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio, yn enwedig gan fod gweithio gartref neu mewn lleoliad arall y tu allan i’r gwaith yn rhan o fywyd gwaith bob dydd i lawer o bobl bellach. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu nad yw llawer o’r teithio oedd yn gysylltiedig â gwaith yn angenrheidiol erbyn hyn. Bydd yr ymchwil yn ystyried i ba raddau y mae cyflogwyr yn bodloni dewisiadau gweithwyr o ran ble maen nhw’n gweithio, yn ogystal â’r effaith y mae newidiadau yn lleoliad y gwaith yn ei chael ar gynhyrchiant, dwyster y gwaith, datblygu sgiliau a’r rhagolygon ar gyfer dyrchafiad. Mae’r newidiadau pwysig eraill i’w hystyried yn cynnwys y cynnydd mewn gwaith ansicr ac ansefydlog ac effaith technoleg ar sut mae gweithwyr yn cael eu rheoli. Rhoddir sylw hefyd i’r berthynas rhwng iechyd meddwl a lles gweithwyr a pha mor ddefnyddiol yw’r gwaith a wneir mewn cyd-destunau cymdeithasol. Mae’n amlwg y bydd y gwaith hwn, sy’n costio £2m ac yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yr Adran Addysg yn Lloegr a’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas), yn darparu data a dadansoddiad hanfodol i’n helpu i ddeall byd gwaith newydd y mae llawer ohonom yn dal i ddod i arfer ag ef. Llongyfarchiadau i Alan a’i gydweithwyr am ennill contract mor bwysig.

Llongyfarchiadau hefyd i staff y Brifysgol a gafodd eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin ar gyfer 2023 (fel y cefais i drwy gael CBE). Mae’r cydweithwyr hynny yn cynnwys yr Athro Peter Ghazal, y dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaethau i imiwnoleg systemau. Mae’r Athro Ghazal, Cadeirydd Meddygaeth Systemau Sêr Cymru yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, wedi torri tir newydd ym maes genomeg lletyol heintiau ar ddechrau ein bywyd. Ar ben hynny, cafodd yr Athro Helen Sweetland, Athro Emeritws Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth, ei hanrhydeddu’n MBE i gydnabod ei gwasanaethau i ofal cleifion ac addysg feddygol. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonynt, ac i’r holl gynfyfyrwyr o Gaerdydd a gafodd eu hanrhydeddu y tro hwn.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor