Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Cyfrif ein bendithion

21 Rhagfyr 2022

Annwyl gydweithiwr,

Efallai bydd rhai ohonoch wedi gwrando ar gyfres Dr Michael Moseley, Just One Thing ar Radio 4 (sydd ar gael fel podlediad ar BBC Sounds). Ym mhob pennod, mae’n canolbwyntio ar un peth bach, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y gallwn ei wneud bob dydd i wella ein hiechyd a’n lles e.e. mynd am dro yn y bore, cael cawod oer neu wella ein synnwyr o gydbwysedd. Mae’n gofyn i bobl roi cynnig ar y gweithgaredd ac yn siarad â gwyddonwyr am y dystiolaeth sy’n sail i’r arferion hyn. Mae’n ein hannog i gyfrif ein bendithion yn un o’r rhaglenni. Yn ôl pob golwg, ac efallai’n annisgwyl, mae agwedd gadarnhaol ac atgoffa ein hunain o’r hyn sy’n dda yn gallu bod o fudd i iechyd meddwl. Wrth i flwyddyn eithriadol arall, llawn problemau a throeon trwstan newydd ac annisgwyl, ddirwyn i ben, mae’n werth ystyried yr hyn a oedd yn dda yn 2022, o ran y Brifysgol o leiaf.

Fel y cofiwch, cawsom ganlyniadau llawer gwell yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac rydym wedi ymrwymo i barhau i ganolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr. Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym yn gwrando ar fyfyrwyr ac yn ymateb i’w hadborth. Un o’r pethau y dywedon nhw wrthym ni oedd eu bod am weld oriau agor Canolfan Bywyd y Myfyrwyr (CSL) yn cael eu hymestyn. Mae’n wych gweld cymaint o lwyddiant yw Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, felly o fis Ionawr, bydd ar agor saith diwrnod yr wythnos a than 10pm yn ystod yr wythnos. Does ond angen cerdded o gwmpas y Ganolfan i weld pa mor ymrwymedig yw ein myfyrwyr i’w hastudiaethau, felly rwy’n siŵr y caiff yr oriau estynedig hyn eu croesawu’n fawr o ystyried yr argyfwng ynni.

Wrth gwrs, mae mwy i fywyd myfyrwyr nag astudio yn unig, ac mae chwaraeon, yn enwedig chwaraeon timau, yn ffordd arbennig o bwysig o wella iechyd, lles ac ymdeimlad o gymuned. Gyda hyn mewn golwg, mae’r Brifysgol wedi buddsoddi yn y gwaith o ailddatblygu ein Caeau Chwaraeon yn Llanrhymni, gan olygu bod rhai o’r cyfleusterau gorau yn y DU ar gael i’n timau chwaraeon myfyrwyr a chymunedol. Gan weithio mewn partneriaeth â Hafan Chwaraeon Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd (CCHOS)Cyngor Caerdydd a Chwaraeon Cymru, rydym wedi darparu pedwar cae pwrpasol ar gyfer pob tywydd, gyda llifoleuadau, i gyd-fynd â’r cyfleusterau ar y safle ar hyn o bryd. Mae hwn yn uwchraddiad pwysig dros ben ac mae’n golygu y gallwn gynnig cyfleusterau o’r un safon â phrifysgolion gwych eraill yn y DU sy’n rhoi pwyslais ar chwaraeon, fel y cadarnhaodd Fiona Hewlett, Llywydd Rygbi Merched Prifysgol Caerdydd.

O ran y staff, fe wnaethom ni sicrhau bod y rhan fwyaf o staff Prifysgol Caerdydd wedi derbyn £1,250 yn ychwanegol eleni, yn rhannol fel diolch am eu gwaith eithriadol, ond hefyd i gydnabod y cynnydd yng nghostau byw. Un o’r llwyddiannau sydd wedi deillio o’r gwaith eithriadol hwn yw’r cynnydd sylweddol mewn cyllid ymchwil eleni, gan olygu ein bod mewn sefyllfa well o’i chymharu â’r tair blynedd flaenorol. Cawsom y cyfle i drafod y llwyddiant hwn ac edrych i’r dyfodol yn ystod ymweliad deuddydd ddiwedd fis diwethaf gan Syr Andrew Mackenzie, cadeirydd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Siaradodd Syr Andrew ag ymchwilwyr blaenllaw, a chafodd ei dywys o gwmpas ein cyfleusterau newydd sbon a rhagorol yn Abacws a’r Ganolfan Ymchwil Drosi. Fe wnaeth hefyd gwrdd â’n tîm Economi Greadigol hynod lwyddiannus ac ymweld â chanolfan arloesedd, sbarc | spark. Roedd yn bleser gen i allu trafod ein strategaeth gydag ef o ran sut rydym yn canolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol lle mae angen ymchwil academaidd sylfaenol i gyfrannu at fudd cymdeithasol ac economaidd. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal mewn cyfleusterau megis CUBRIC, y Sefydliad Ymchwil Dementia, Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Wrth gwrs, nid yw hyn ar draul ymchwil a yrrir gan chwilfrydedd gan ei fod yn gwbl briodol fod ymchwil o’r fath yn gyfran sylweddol o’r hyn a wnawn. Mae ein labordy Tonnau Disgyrchol yn enghraifft amlwg o hyn. Nid oes amheuaeth ei fod ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth ac yn helpu i ddyfnhau a gwella ein dealltwriaeth o’r bydysawd a’i darddiad, ond mae llu o enghreifftiau eraill o’r fath ar draws y campws.

Gan aros ym maes ymchwil, mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi y bydd Gwarant Horizon Europe yn cael ei hymestyn am dri mis arall. Mae hyn yn newyddion da, er fy mod wedi argymell ei hymestyn mewn ffordd benagored gan nad yw’r ansicrwydd ynghylch y dyfodol o unrhyw gymorth, ac mae’n golygu bod cynllunio’n dalcen caled. Gyda lwc, bydd modd cyflawni hyn yn y cam nesaf, gan gymryd na chaiff y broblem o ran Protocol Gogledd Iwerddon ei datrys yn y cyfamser. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd y Warant yn cynnwys pob galwad ar gyfer Horizon Europe sy’n cau ar 31 Mawrth 2023 neu cyn hynny. Yn yr un modd â’r Warant flaenorol, bydd ymgeiswyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi llwyddo gyda’u ceisiadau i Horizon Europe, yn derbyn gwerth llawn eu cyllid am oes eu grant, ac mae UKRI wedi diweddaru eu canllawiau yn unol â hynny. Rwy’n eich annog i ddal ati i wneud ceisiadau cyhyd ag y bydd hyn yn bosibl.

Er y siom o weld gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ôl pob golwg, gallai fod rhesymau penodol dros hynny, a chan gadw at y thema o gyfrif ein bendithion, roedd yn dda gweld bod y niferoedd yn ninas Caerdydd wedi cynyddu. Yn bersonol, rwy’n credu bydd y Gymraeg a’i diwylliant yn parhau i ddod yn fwyfwy pwysig a rhoddodd cystadleuaeth Cwpan y Byd y dynion gyfle gwych i amlygu ein traddodiad a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw ar lwyfan byd-eang, er gwaethaf perfformiadau’r tîm cenedlaethol. Bydd treulio ychydig funudau ar TikTok yn dangos bod cenhedlaeth iau gyfan sy’n angerddol am hyn, beth bynnag mae’r ystadegau yn ei ddweud am niferoedd y siaradwyr Cymraeg. Ac felly hefyd ein staff a’n myfyrwyr. Bellach mae gan Undeb y Myfyrwyr swyddog sabothol sydd â’r cyfrifoldeb penodol hwn, ac rwy’n falch o ddweud mai nod un o brosiectau Dyfodol Caerdydd eleni yw ein hannog ni i gyd i fod yn fwy hyderus ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Does dim angen bod yn rhugl na ryw allu ieithyddol arbennig i allu dweud ‘bore da’, ‘diolch’ a ‘hwyl fawr’, a byddwn yn teimlo ein bod yn brifysgol fwy Cymreig po fwyaf o Gymraeg sy’n cael ei defnyddio. Mae  tîm y prosiect am annog mwy o gyfleoedd i siarad Cymraeg dros baned hefyd — Bore Coffi yw teitl y prosiect — a fi fydd yn ei noddi ar ran Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, felly mi fydda i’n rhoi gwybod sut mae pethau’n dod ymlaen. Mae hyn yn bwysig iawn i’n myfyrwyr hefyd, ac mae’n bleser gen i nodi y bydd pob myfyriwr meddygol yn ei ail flwyddyn bellach yn cael hyfforddiant gorfodol ar gyfathrebu yn Gymraeg fel bod ganddynt y sgiliau i allu trin cleifion Cymraeg eu hiaith pan maent ar leoliad gwaith mewn ysbytai. Mae ein rhagoriaeth yn rhan annatod o bwy ydym ni fel Prifysgol, ond ein Cymreictod yw’r hyn sy’n ein gwneud yn wirioneddol unigryw, felly gadewch i ni fod yn hyderus ac ymfalchïo yn hynny.

Diolch byth, nid yw covid yn fygythiad yn y DU fel y mae wedi bod y ddau Nadolig diwethaf.  Mae cyfyngiadau symud yn ystod y Nadolig yn arbennig o annymunol, yn enwedig gan mai diben cyfnod clo yw arafu lledaeniad clefyd, lleihau’r niferoedd sy’n cael eu heintio, a sicrhau bod amser i gynyddu imiwnedd y boblogaeth (yn naturiol neu drwy frechu) naill ai drwy ei atal rhag lledaenu’n rhwydd (er na wnaeth hynny ddigwydd yn achos covid, yn anffodus) neu ei atal rhag achosi clefyd difrifol eang. Rydym yn y cam olaf hwnnw yma yn y DU erbyn hyn (er bod nifer y bobl sy’n dioddef o covid hir yn frawychus o hyd), ond dim ond yn ddiweddar y mae Tsieina wedi llacio ei pholisi ‘dim covid’ mewn ymateb i’r protestiadau ym mis Tachwedd. Mae’n anochel y bydd hyn yn arwain at donnau mawr o heintio, felly rydym yn gobeithio’n fawr, er lles ein ffrindiau yn y wlad honno, a’n myfyrwyr a’n cydweithwyr yng Nghaerdydd a allai fod yn bryderus, y bydd modd rheoli’r goblygiadau.

Gan feddwl am wledydd ymhellach i ffwrdd, mae lefel y gormes yn gwaethygu yn Iran yn ôl pob golwg, ac wrth i ni ddelio â chostau a phrinder ynni, rhaid i ni gofio Wcráin. Mae ymddygiad ymosodol Putin yn erbyn Wcráin bellach yn cynnwys targedu eu system ynni yn fwriadol i amddifadu pobl o wres a phŵer yn ystod y gaeaf oer. Ni allwn ddychmygu sut brofiad yw dioddef amddifadedd o’r fath, ac rwy’n siŵr ein bod yn parhau i feddwl am bobl Wcráin, yn yr un modd â’r rhai sy’n dioddef yn Iran. Rydym yn parhau i gynnig pa bynnag gymorth y gallwn ac, ar fater cysylltiedig, roedd yn wych gweld bod ein cydweithwyr Venice Cowper a Lauren Seeley wedi gallu dyrannu rhywfaint o gyllideb i brynu anrhegion Nadolig i blant sy’n geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd. Trwy ymdrechion ein tîm ehangu cyfranogiad ac allgymorth, darparwyd yr anrhegion i Ganolfan Oasis yng Nghaerdydd i’w dosbarthu yn ystod eu parti Nadolig. Diolch i Venice a Lauren am gefnogi’r plant hyn mewn ffordd mor feddylgar.

A dyna ni am flwyddyn arall. Fel bob amser, rydym i gyd yn ddiolchgar i’r cydweithwyr hynny sy’n gweithio yn y Brifysgol yn ystod y cyfnod pan fydd ar gau. Gobeithio y byddant hwythau hefyd yn cael y cyfle i dreulio ychydig o amser gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, hyd yn oed os nad yw’n seibiant di-dor. Wedi dweud hynny, i’r rhan fwyaf o staff bydd hwn yn gyfle haeddiannol o’r diwedd i ymlacio a chael eich cefn atoch. Gobeithio y cewch Nadolig braf a digonedd o gyfleoedd i ymlacio, a hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd heddychlon i bawb.

Dymuniadau gorau ar gyfer 2023

Colin Riordan
Is-Ganghellor