Mae eich syniadau yn gwneud ein prifysgol yn well
13 Rhagfyr 2022Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 13 Rhagfyr.
Annwyl fyfyriwr,
Mae gwrando ar eich barn yn rhan ganolog o fod yn Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr. Rwy’n deall pa mor bwysig yw hi ichi allu roi adborth ar bob agwedd ar eich profiad o fod yn fyfyriwr, ac rwy eisiau ichi wybod y byddwn ni’n gwrando ar eich adborth bob amser ac yn gweithredu arno pryd bynnag y bo modd er mwyn sicrhau gwelliannau.
Mae llawer ohonoch chi wedi gofyn i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr fod ar agor yn hirach, ac mae’n bleser mawr gen i roi gwybod y bydd hyn yn digwydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd: o 3 Ionawr ymlaen, bydd yr adeilad ar agor tan 22:00 yn ystod yr wythnos, a hyd at 20:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Ymhlith rhai newidiadau diweddar eraill rydyn ni wedi’u gwneud yn seiliedig ar eich adborth y mae:
- cynyddu’r dosbarthiadau o 45 i 50 munud o’r semester nesaf ymlaen (efallai y bydd eithriadau o ran rhai o’n rhaglenni yn yr Ysgol Deintyddiaeth, yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a’r Ysgol Meddygaeth – cyfeiriwch at eich amserlen a fydd yn cael ei diweddaru’n awtomatig)
- dileu dirwyon am unrhyw fenthyciadau hwyr yn ein llyfrgelloedd
- ymestyn ein cynllun gliniaduron benthycadwy am ddim fel y gallwch chi fenthyg gliniadur am hyd at bythefnos
- dyma gyflwyno cynllun y Cyfaill MA newydd yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth i wneud y cyfnod ymsefydlu mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr meistr newydd
- gosod argraffwyr 3D a sganwyr y geg yn yr Ysgol Deintyddiaeth i helpu ein myfyrwyr deintyddol i wella eu sgiliau clinigol
- penodi Swyddog Lleoliadau newydd yn Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol i roi cymorth i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gwaith
Gallwch chi gael gwybod rhagor am yr holl newidiadau hyn, a chyflwyno eich syniadau am ragor o newidiadau, ar y fewnrwyd.
Arholiadau ac asesiadau
Byddwch chi’n gwybod eisoes am yr asesiadau y mae eich Ysgol wedi eu cynllunio, ac yn achos rhai myfyrwyr bydd hyn yn cynnwys arholiadau. Cafodd amserlen bersonol eich arholiadau ei chyhoeddi ar SIMS ar 5 Rhagfyr. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am wneud trefniadau eraill, paratoi ar gyfer eich arholiadau, cyrchu cyn-bapurau a chymorth o ran eich lles ar y fewnrwyd.
Cymorth
Gall misoedd y gaeaf fod yn gyfnod anodd i rai pobl, ac os bydd angen rhywun arnoch chi i siarad ag ef, rydyn ni yma i helpu. Gallwch chi naill ai gysylltu â Chyswllt Myfyrwyr neu ymweld â ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Bydd yr adeilad ar gau rhwng 23 Rhagfyr a 2 Ionawr. Fodd bynnag, gallwch chi gael cymorth ar-lein o hyd:
- mae adnoddau hunangymorth ar gael i’ch helpu i reoli a goresgyn anawsterau ar eich pen eich hun
- gweithdai a fideos wedi’u recordio ymlaen llaw ar bynciau gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, hwyliau isel, straen a gorbryder
- lawrlwythwch ap TalkCampus a fydd yn eich cysylltu â rhwydwaith blaenllaw ym maes cymorth iechyd meddwl ac yn caniatáu ichi siarad yn ddienw am sut rydych chi’n teimlo.
Bydd rhai adeiladau’r Brifysgol yn parhau i fod ar agor dros y gwyliau: bydd y Parth Astudio Ôl-raddedig ym Mharc Cathays yn agor rhwng 08:45 a 00:00, a bydd y llyfrgelloedd a’r ystafelloedd TG ynLlyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol a’r Llyfrgell Iechyd ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Bydd angen cerdyn adnabod Prifysgol Caerdydd dilys arnoch chi i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Os ydych chi mewn trafferthion ariannol ac os bydd angen cymorth ein Rhaglen Cymorth Ariannol arnoch chi, gwnewch gais am gymorth yr wythnos hon. Y dyddiad cau i ganiatáu inni anfon taliadau atoch chi cyn dechrau cyfnod cau’r Nadolig yw 19 Rhagfyr. Os byddwch chi’n canfod bod trafferthion ariannol gennych chi ar ôl 19 Rhagfyr, cysylltwch â fapa@caerdydd.ac.uk.
Gan ddymuno gwyliau Nadolig pleserus a diogel ichi a Blwyddyn Newydd Dda iawn. Gwelwn ni chi yn 2023.
Cofion gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014