Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Datganiad yr hydref, Cwpan y Byd a digwyddiadau byd-eang, a gweithredu diwydiannol

28 Tachwedd 2022

Annwyl gydweithiwr,

Mae’n demtasiwn dechrau trwy ddweud mis arall, llywodraeth arall, ond nid nawr yw’r amser am unrhyw ysgafnder. Mae dyfodiad gweinyddiaeth Sunak-Hunt wedi dod â rhywfaint o sefydlogrwydd i San Steffan ac, yn anad dim, i’r economi. Fodd bynnag, o ystyried yr anawsterau sylfaenol a achoswyd gan y pandemig, goresgyniad Rwsia o Wcráin a ffactorau geowleidyddol eraill sydd wedi peri cymaint o ansicrwydd, rhyw fath o sefydlogrwydd yw’r peth lleiaf y gallwn obeithio amdano o ystyried goblygiadau trychinebus ‘cyllideb fach’ mis Medi. Cadarnhaodd y Canghellor yn Natganiad yr Hydref y bydd trethi uwch a rhagor o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, a hynny ar yr union amser y mae’r economi yn crebachu, er mwyn rheoli’r ddyled genedlaethol dros amser. Mae hyn yn hytrach na’r ehangu cyllidol gwrth-gylchol y mae llywodraethau yn tueddu i’w ffafrio ar adegau o ddirwasgiad. Mae hynny’n un nodwedd anarferol; un arall yw, er bod prifysgolion yn aml yn gwneud yn dda mewn dirwasgiadau gan fod y galw am addysg uwch yn cynyddu pan fydd llai o swyddi ar gael, mi fydd prinder llafur yn ystod y dirwasgiad hwn yn ôl pob tebyg. Mae pawb yn ymwybodol o chwyddiant uchel ac, fel y soniais y mis diwethaf, rydym yn cefnogi ein staff a’n myfyrwyr i ymdopi â’r argyfwng o ran costau byw a byddwn yn parhau i wneud hynny. Wedi dweud hynny, mae’n amlwg bod hwn yn gyfnod anodd i’r Brifysgol fel y mae i’r wlad ac i unigolion.

Am ystod o resymau sy’n cael sylw gennym, fe wnaethom recriwtio llai o fyfyrwyr ôl-raddedig cartref a rhyngwladol na’r disgwyl eleni, ac roeddem ychydig yn brin o ran recriwtio israddedigion rhyngwladol hefyd. Mae ôl-effeithiau covid wedi golygu ein bod wedi recriwtio ychydig yn fwy o israddedigion cartref, ond bydd angen ail-gydbwyso niferoedd y myfyrwyr dros y tair blynedd nesaf er mwyn osgoi effaith negyddol net ar ein cynaliadwyedd ariannol ac academaidd. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn, ond ni fydd cyhoeddiadau diweddar y Swyddfa Gartref sydd wedi cael cryn sylw bod angen gostyngiadau sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol a’u dibynyddion o unrhyw gymorth os yw mudo net i gael ei ostwng yn sylweddol o’r nifer uchaf erioed a gyhoeddwyd tua diwedd y mis (504,000). Yn y bôn, mae hyn yn ailadrodd y sylwadau gan Suella Braverman a arweiniodd at ei hymddiswyddiad o lywodraeth fyrhoedlog Truss, ac mae’r dadleuon yn erbyn unrhyw gosod gostyngiad o’r fath yr un mor gryf. Mae cyfraniad myfyrwyr rhyngwladol at gydbwysedd masnach ac economi’r DU yn enfawr, sef £30bn y flwyddyn. Ar adeg pan mae’r DU yn cael trafferth creu twf, nid yw dilyn y polisi hwn yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae arolygon yn cadarnhau nad yw’r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol fel ymfudwyr. Mae hyn yn gwneud synnwyr oherwydd nid ymfudwyr ydyn nhw. Yn syml, maen nhw’n dod yma, maen nhw’n astudio ac maen nhw’n mynd adref. Mae’r data’n dangos mai ychydig iawn o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n aros am gyfnod hirach na’u fisâu, ac mae ymfudo anghyfreithlon trwy’r llwybr hwn yn brin. Lle mae problemau, rhaid i ni eu cydnabod a gweithio gyda’r asiantaethau perthnasol i’w datrys. Rhaid mynd i’r afael â materion fel prinder llety neu ddiffyg capasiti i ymdopi â dibynyddion hefyd, ond bydd sefydliadau sector fel Grŵp Russell a Phrifysgolion y DU yn gwrthwynebu’n gadarn unrhyw ymdrechion niweidiol i unioni’r cydbwysedd o ran ymfudo drwy gyfyngu ar lif y myfyrwyr rhyngwladol.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y materion hyn, ond mae gan Lywodraeth Cymru faterion i fynd i’r afael â nhw hefyd. Mae uned yr adnoddau – yr arian sydd ar gael i ariannu pob myfyriwr israddedig cartref – wedi bod yn gostwng yn gyson wrth i’r ffioedd dysgu aros yn sefydlog tra bod costau wedi codi ers bron i ddegawd. Rydym wedi gallu ymdopi hyd yma, ond mae’r gostyngiad hwn yn gwymp mwy sylweddol erbyn hyn wrth i chwyddiant gynyddu mor gyflym. Rhaid dod o hyd i arian i fynd tuag at gost addysgu, sy’n cynyddu’n gyflym ynghyd â chostau eraill. Mae’n bwysig gweithredu nawr, cyn i ni ddechrau mynd i drafferthion gwirioneddol, os ydym am gynnal ansawdd ac ehangder addysg uwch Cymru, heb sôn am eu cryfhau. Bydd yn dod yn fwyfwy anodd cynnig lleoedd i ymgeiswyr o Gymru a bydd cynnal yr ansawdd y maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu yn dalcen caled oni bai ein bod yn trafod o ddifrif sut bydd y sector yn cael ei ariannu mewn byd ansicr. Y cam cyntaf fyddai creu fforwm er mwyn i’r drafodaeth honno gael ei chynnal.

Nid oedd Datganiad yr Hydref yn ei gyfanrwydd yn newyddion drwg i brifysgolion. Cadarnhaodd Jeremy Hunt y byddai’r £20 biliwn y flwyddyn a glustnodwyd ar gyfer ymchwil yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant diweddar yn cael ei gynnal tan ddiwedd y senedd hon, gan godi’n ddangosol i £25 biliwn erbyn 2027, er mai penderfyniad i’r llywodraeth nesaf fydd hynny. Y sicrwydd o ran cyllid dros saith mlynedd yw un o fanteision y cysylltiad â Horizon Europe, ond mae protocol Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhwystr ar hynny. Fodd bynnag, mae’r llywodraeth yn amlwg wedi penderfynu ei bod yn amser dechrau defnyddio rhywfaint o’r arian a gedwir ar gyfer y cysylltiad hwn dros y cyfnod llawn (o ystyried ein bod eisoes wedi colli’r blynyddoedd cychwynnol) drwy ryddhau £484m o gyllid ymchwil a neilltuwyd yn benodol i gymryd lle’r cyfleoedd cyllido a gollwyd. Wrth gwrs, mae’n bosibl gwneud ceisiadau i’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) o hyd a chael ein hariannu trwy arian y DU, gan fod gwarant y Trysorlys wedi’i ymestyn tan ddiwedd y flwyddyn, sydd hefyd yn gam ymlaen. Fodd bynnag, mae’r gronfa newydd yn gydnabyddiaeth y gallem fod ar drothwy cyfnod pan na fydd yn bosibl cynnal y cysylltiad â Horizon Europe.

Yr elfen gadarnhaol arall i brifysgolion yn Natganiad yr Hydref oedd y pwyslais o’r newydd ar greu parthau buddsoddi mewn trefi prifysgolion. Y syniad yw creu wyth clwstwr twf gwybodaeth-ddwys, sy’n arwydd clir o ymrwymiad y llywodraeth i ymchwil, arloesedd a sgiliau o’r radd flaenaf. Os bydd y clystyrau hyn yn Lloegr yn unig bydd angen i ni aros i weld beth fydd polisi Llywodraeth Cymru, ond mae hwn yn ymrwymiad pwysig, hyd yn oed ar lefel symbolaidd yn unig. Dylai’r gwrthdaro amlwg ag unrhyw bolisi i gyfyngu ar fisâu myfyrwyr rhyngwladol, a allai gael effaith hynod niweidiol ar ein hymdrechion ym maes ymchwil, weithio o’n plaid.

Tua diwedd y mis cymerais ran yn un o gyfarfodydd Cyngor GW4. Mae’n cynnwys Is-Gangellorion pob un o’r pedair prifysgol sy’n aelod ohono, sef Caerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg, yn ogystal â Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesedd y brifysgol sy’n cadeirio, sef Caerfaddon yn yr achos hwn. Mae’n braf gweld y bartneriaeth yn ffynnu, felly da chi, parhewch i ddefnyddio’r cyllid Adeiladu Cymunedau gan ei fod yn rhoi’r cyfle i feithrin partneriaethau, ym marn y prif ymchwilwyr arweiniol sy’n cymryd rhan, ac yn datblygu eu potensial. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol ar draws pedwar maes creadigol a chymdeithasol-ddiwylliannol, iechyd a lles, digidol a sero net. Mae’r bartneriaeth yn ymwneud â chydweithio a graddfa; fe’i sefydlwyd ar ôl gweld bod cydweithio rhanbarthol yn gallu creu cyfleoedd na fyddent ar gael fel arall, a’r ffaith bod gan Goleg Prifysgol Llundain fwy o adnoddau ar ei ben ei hun o’i gymharu a holl adnoddau ymchwil y pedair prifysgol gyda’i gilydd. Mae pethau wedi symud ymlaen ers hynny, a byddwn yn dathlu pen-blwydd GW4 yn 10 oed mewn digwyddiad yn yr ICC yng Nghasnewydd fis Mai nesaf.

Yn olaf, rwyf am sôn am Gwpan y Byd yn Qatar, ond nid o safbwynt pêl-droed, gan nad oes gen i unrhyw arbenigedd yn y maes hwn. Efallai eich bod yn gwybod bod yr Athro Laura McAllister o’n Prifysgol yn arfer bod yn gapten ar dîm pêl-droed Cymru ac fe chwaraeodd hi ym mhob gêm rhwng 1994 a 2001. Roedd yn arfer bod yn gadeirydd Chwaraeon Cymru, ac mae hi yn Qatar ar hyn o bryd yn cynrychioli Lleisiau Cymru ac yn llysgennad dros bêl-droed a Chymru yn fwy cyffredinol. Heb os, byddwch chi’n adnabod Laura o’i dull diffwdan a digymar o gadeirio ein gweminarau i’r holl staff. Byddwch hefyd wedi ei gweld ar draws y papurau newydd yn ddiweddar wedi iddi gael ei hatal yn y lle cyntaf rhag mynd i mewn i’r stadiwm ar gyfer gêm gyntaf y tîm cenedlaethol am wisgo het enfys LHDTQ+. Fel y byddem wedi’i ddisgwyl gan Laura, llwyddodd i gael yr het i mewn beth bynnag a’i gwisgo yn y gêm nesaf, ond fe wnaeth hyn amlygu’r cyfyng-gyngor sy’n wynebu llawer yng nghyd-destun y gystadleuaeth hon. Roedd yn rhyfeddol gweld protest tîm Iran, a allai wynebu goblygiadau go iawn am wrthod canu’r anthem genedlaethol cyn eu gêm gyntaf. Heb os, byddai hyn wedi dal sylw’r awdurdodau yn Iran sy’n wynebu gwrthwynebiad agored a hynod ddewr ar raddfa eang i’r ffordd y maent yn cyfyngu ar hawliau menywod yn Iran a’r trais yn eu herbyn. Mae’r hyn sy’n digwydd yno, gan gynnwys trais yn erbyn myfyrwyr a staff ym mhrifysgolion y wlad, yn codi braw ar lawer o fyfyrwyr a staff Caerdydd. Mae hyn yn wrthun i ni ac, yn anffodus, yn ymddygiad yr ydym yn rhy gyfarwydd ag ef ar ein cyfandir ein hunain. Mae Putin yn parhau i blymio dyfnderoedd newydd yn ei ryfel yn Wcráin, ac rydym yn parhau i gynnig yr holl gefnogaeth y gallwn i’r rhai sydd wedi’u heffeithio.

Yn olaf, ac ymddiheuriadau am ebost eithaf digalon y mis hwn, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn wynebu cyfnod newydd o weithredu diwydiannol sy’n effeithio ar staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Rwy’n teimlo’n gryf ei bod yn bwysig datrys yr anghydfodau hyn cyn iddynt gael y cyfle i waethygu ymhellach, ac rwy’n gobeithio y bydd trafodaethau cynhyrchiol rhwng y naill ochr cyn gynted â phosibl. Mae cydfargeinio yn golygu bod yn rhaid i’r cyflogwyr weithredu o fewn mandad a bennir gan allu pob aelod i gyflawni canlyniad y trafodaethau, sy’n ffactor cyfyngol. Serch hynny, byddaf yn annog canlyniad sy’n deg ac yn fforddiadwy ac yn diwallu anghenion staff ar hyn o bryd, gan gydnabod bod pawb, fel y soniais yn gynharach yn yr ebost hwn, yn wynebu cyfres o amgylchiadau economaidd sy’n anoddach na’r hyn y byddem wedi’u rhagweld hyd yn oed chwe mis yn ôl.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor