Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cefnogi chi a diweddariad costau byw

13 Hydref 2022
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 13 Hydref.

Annwyl fyfyriwr,

Yn fy neges yr wythnos ddiwethaf, amlinellais rywfaint o’r cymorth ychwanegol rydym eisoes wedi’i roi ar waith i’ch helpu gyda chostau byw cynyddol, a’r effaith y mae hynny’n ei chael arnoch chi.

Yr wythnos hon, cymeradwyodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol fwy o gefnogaeth i chi, ein myfyrwyr, gan gynnwys:

  • ehangu’r tîm sy’n asesu ceisiadau i’n Rhaglen Cymorth Ariannol, sy’n golygu y gellir asesu ceisiadau a chyflwyno taliadau’n brydlon. Fel y soniais y tro diwethaf i mi ysgrifennu, mae’r gyllideb ar gyfer y rhaglen hon wedi’i chynyddu i £1m, ac mae ar gael i’r rhai sydd angen help i dalu eu costau byw neu astudio hanfodol.
  • cynyddu mynediad at daliadau brys cyfyngedig i fyfyrwyr
  • bydd bagiau brys gyda chyflenwadau am bedwar diwrnod ar gael yn fuan ar ddydd Gwener i’r rhai sydd eu hangen
  • diddymu dirwyon yn ein Llyfrgelloedd am ddychwelyd llyfrau’n hwyr, a rhoi £10 o gredyd argraffu i bob myfyriwr sy’n derbyn bwrsariaeth
  • ymestyn cymorth ychwanegol i fyfyrwyr Ôl-raddedig sy’n gadael gofal, gofalwyr ifanc, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a myfyrwyr a wasanaethodd yn y fyddin

Ymhlith y gefnogaeth arall y mae’r gwasanaeth Arlwyo yn ei chynnig mae:

  • gostyngiad o 30p ar gynigion cinio, ac opsiynau ‘bachu a bwyta’ fforddiadwy
  • taleb £5 i fyfyrwyr sy’n lawrlwytho’r ap Arlwyo yn ystod mis Hydref – Ar gael am ddim drwy App Store neu Google Play
  • cinio cymunedol misol – cinio am ddim yn Green Shoots i hyd at 50 o fyfyrwyr yn ystod y tymor – dilynwch @CUFoods am ragor o wybodaeth

Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chrybwyll yn y neges hon wrth gwrs yn ychwanegol at y gefnogaeth rydyn ni eisoes yn ei chynnig i’ch helpu chi i reoli ac arbed eich arian a thorri costau, fel cymaint o slotiau 30 munud ag yr hoffech chi eu cael ar feiciau Ovo. Mae hefyd yn ychwanegol at y taliad untro cymorth costau byw yr ydym wedi’i roi eisoes i’n holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n addysgu. Fy niolch i Undeb Myfyrwyr am eu cefnogaeth a’u mewnbwn.

Fel arfer, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr os ydych angen cymorth neu gefnogaeth, neu ewch i’n Canolfan Bywyd Myfyrwyr.

Cofion gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr