Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Eich cefnogi chi, costau byw a’r digwyddiadau sydd ar y gweill

4 Hydref 2022
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 4 Hydref.

Annwyl fyfyriwr,

Sut hwyl? Gobeithio eich bod yn ymgyfarwyddo â’r drefn newydd.

Eich cefnogi chi a chostau byw

Bydd profiad pawb yn wahanol, wrth gwrs, dros y flwyddyn i ddod, ac rwyf am ddechrau drwy eich atgoffa ein bod yn cynnig sawl math gwahanol o gymorth os bydd arnoch chi ei angen rywbryd trwy’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr. Yn benodol, rydym yma ar gyfer unrhyw fyfyrwyr a allai gael eu heffeithio gan y protestiadau parhaus yn Iran.

Un o’r timau sydd ar gael drwy’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr yw ein tîm Cyngor ac Arian Myfyrwyr. Gan gydnabod sut bydd yr esgid fach yn gwasgu i lawer eleni yn enwedig, rwyf am eich sicrhau bod cymorth ariannol ar gael (yn amodol ar gymhwysedd), yn ogystal â chanllawiau.

Ar gyfer y flwyddyn i ddod, bydd y Brifysgol yn cynnig cymorth ychwanegol, gan gynnwys:

  • Cynnig £400,000 yn rhagor drwy ein Rhaglen Cymorth Ariannol, gan ddod â chyfanswm y gronfa i dros £1m
  • Taliad cymorth costau byw un-tro i’n holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu

Os ydych yn cael trafferth, cysylltwch â’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr neu ewch i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr, maen nhw’n gallu helpu i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr i gytuno ar ba gymorth arall y gellir ei roi ar waith.

Eich dyfodol

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yw cartref ein tîm Dyfodol Myfyrwyr hefyd, ac nid yw byth yn rhy fuan i chi ddechrau meddwl am eich gyrfa. Maent yn cynnig ystod o gymorth i’ch helpu i lwyddo ac mae ganddynt lawer o ddigwyddiadau ar y gweill y tymor hwn. Gallwch drafod eich opsiynau gydag apwyntiad gyrfaoedd, cwrdd â chyflogwyr yn ein digwyddiadau a’n ffeiriau, datblygu eich cyflogadwyedd yn ein gweithdai hanfodion gyrfa neu hyd yn oed ymgolli mewn diwylliannau newydd drwy fanteisio ar gyfle byd-eang.

Digwyddiadau cyn bo hir

Ochr yn ochr â’ch amserlen academaidd, mae’r brifysgol yn falch o rannu ystod eang o ddigwyddiadau, gweithdai a sgyrsiau. Mae rhestr lawn ar gael ar y fewnrwyd a byddwn yn rhannu’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn Newyddion Myfyrwyr bob wythnos. Dyma ambell un yr hoffwn rannu’r tro hwn:

  • Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn trafod y campau a’r cyfraniadau aruthrol y mae pobl o dreftadaeth Affricanaidd, Arabaidd, Asiaidd a Charibïaidd yn eu gwneud i bob agwedd ar y gymdeithas. Ymunwch â ni mewn digwyddiadau drwy gydol mis Hydref i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon i wybod yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar y campws i gefnogi ein myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Lansio Dinesydd Caerdydd / Cardiff Citizen – Ymunwch â ni ar 10 Hydref yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr  wrth i ni ddathlu lansiad modiwl newydd sbon ar gyfer myfyrwyr  sy’n siarad Cymraeg, sy’n cael ei ddilyn gan Gig y Glas yn yr Undeb Myfyrwyr
  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyslecsia, 3 – 9 Hydref Dewch i gwrdd â myfyrwyr o’r grŵp cefnogi cyd-fyfyrwyr Meddwl yn Wahanol a chael gwybod am y cymorth mae’r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr yn ei ddarparu

Cadw ein gilydd yn ddiogel

Yn olaf, gair am eich diogelwch. Rydym yn gweithio gyda’n llu o bartneriaid gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr, Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd, a SafeZone i greu amgylchedd diogel i chi fyw, astudio a gweithio ynddo. Mae troseddau a materion diogelwch yn gallu digwydd ar ein campysau a’r ardaloedd cyfagos, ond rwy’n gobeithio y gall cymuned y brifysgol helpu i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Cofion gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr