REF, Y Genhadaeth Ddinesig, plastig untro
30 Mai 2022Annwyl gydweithiwr
Roedd y digwyddiad nodedig y mis hwn, wrth gwrs, yn ganlyniad hir-ddisgwyliedig i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), lle’r oeddem yn anelu at gyrraedd y 12fed safle yn gyffredinol ar gyfer Pŵer Ymchwil. Fel y gwyddoch, daethom yn 14eg yn y diwedd, ar ôl colli’r cyfle i ddod yn 13eg gan drwch blewyn i Brifysgol Glasgow, a phob clod iddyn nhw. Ysgrifennais atoch yn gynharach y mis hwn yn esbonio pam rydym yn fodlon iawn ar y canlyniad hwn. Felly, ni fyddaf yn ailadrodd beth a ddywedais bryd hynny. Un peth y byddwn yn ei ychwanegu yw bod canlyniadau’r REF yn set ddata gymhleth, aml-ddimensiwn. Gellir ei dehongli mewn llawer o wahanol ffyrdd i gyfiawnhau ystod o ddadleuon, a diau y byddwn ymhell o fod ar ein pennau ein hunain wrth ddatgan bod ein canlyniad yn un cadarnhaol. Bydd pob sefydliad, grŵp lobïo neu gymdeithas bwnc sy’n dymuno cyflwyno achos drosto’i hun yn gweld rhywbeth defnyddiol yn y data, hyd yn oed os oes angen dadansoddiad dyfeisgar neu sbotoleuo trwyadl. Wedi dweud hynny, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl, boed o ran cyllid neu enw da, y gallwn fod yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni. Ond y tu hwnt i hynny, mae’r ymarfer yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol: helpu cydweithwyr i wneud y mwyaf o’u llwyddiant o ran cyhoeddiadau ac allbynnau ymchwil eraill yw’r flaenoriaeth amlwg. Bydd angen i gam nesaf ein strategaeth ymchwil ganolbwyntio ar ddarparu’r math cywir o amgylchedd cefnogol ar gyfer ein hymchwilwyr, ynghyd ag arweiniad ar sut i lwyddo, yn enwedig i’r rhai sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa. Mae ein strategaeth ers 2014 wedi bod yn un o gefnogaeth a chynwysoldeb, ac rydym wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd y gallwn ei defnyddio’n llwyddiannus wrth inni edrych ymlaen at 2028.
Mae REF yn gêm hir, fel y mae’r elfen allweddol arall honno o’n strategaeth, Y Genhadaeth Ddinesig. Ym mis Mai gwelwyd dwy garreg filltir allweddol wrth gyflawni ein huchelgeisiau yn hyn o beth. Ddydd Sadwrn 21 Mai, cynhaliwyd lansiad cyhoeddus, neu agoriad mawreddog, Pafiliwn Grange. Mae’r Pafiliwn newydd, llawer mwy yn ei le, yn ganolbwynt i’r Prosiect Porth Cymunedol dan arweiniad yr Athro Mhairi McVicar o’r Ysgol Pensaernïaeth. Fel un o Brosiectau Ymgysylltu Blaenllaw y Ffordd Ymlaen gwreiddiol, mae’r Porth Cymunedol yn enghraifft ragorol o sut mae’n bosibl, trwy weithio gyda’r gymuned leol a gwneud y Genhadaeth Ddinesig yn rhan o strategaeth y Brifysgol, i ymgysylltu ag ysgolion, asiantaethau lleol ac yn anad dim. aelodau o’n cymunedau lleol wrth gydweithio i wneud newid a gwelliannau gwirioneddol sydd o fudd i bawb. Yn gwbl briodol, ni ddaeth yr £1.8 miliwn o Gyllid y Loteri Genedlaethol a gododd tîm y Porth Cymunedol i ddylunio ac adeiladu’r cyfleusterau newydd i’r Brifysgol na thrwyddi, ond ni all fod unrhyw amheuaeth ein bod wedi gallu cefnogi’r broses o dan arweiniad Mhairi a helpu i wireddu’r hyn a fyddai fel arall wedi bod yn arswydus o anodd. Ar y diwrnod, daeth dros fil o bobl Grangetown a thu hwnt ynghyd i ddathlu’r gamp, a’r wythnos ganlynol cyfarfu Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yno fel bod pawb yn nhîm arwain y Brifysgol yn ymwybodol o bwysigrwydd a graddfa’r cyfleusterau a’r gweithgareddau. Mae’r adeilad ei hun wedi ennill dwy wobr gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru am ddod â newid ystyrlon i gymuned Grangetown, ac mae Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bwysigrwydd. Mae’r mathau hyn o gydnabyddiaeth allanol yn bwysig, ond rhaid mai barn y gymuned leol yw’r prawf asid bob amser, sy’n parhau i fod yn gwbl ymroddedig a brwdfrydig.
Yn hwyrach yn y mis, gwnaethom gynnal ein diwrnod blynyddol cyntaf erioed ar gyfer y Genhadaeth Ddinesig yn sbarc|spark – ein hadeilad arloesedd newydd gwych yn y Maendy.Mae sbarc | spark wedi’i gynllunio i danio cysylltiadau serendipaidd newydd trwy ddod â phobl ynghyd mewn amgylchoedd sy’n ffafriol i chwalu rhwystrau ac annog trawsffrwythloni. Roedd rhaglen y diwrnod yn ei gwneud yn glir nid yn unig ein bod yn parhau yn nhraddodiad y mudiad anheddu prifysgolion, lle’r oedd prifysgolion ar ddiwedd y 19eg ganrif yn estyn allan i’w cymunedau lleol i weithio mewn partneriaeth â hwy i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithas, ond hefyd bod y trawsffrwythloni yr oeddem yn gobeithio amdano eisoes yn digwydd. Soniais yn fy ebost diwethaf am lwyddiant prosiect Treftadaeth Caer, sydd nid yn unig wedi hwyluso adeiladu canolfan gymunedol newydd arall, y tro hwn yn ardal Caerau a Threlái yng Nghaerdydd, ond sy’n cydweithredu â phrosiectau archaeoleg bryngaerau tebyg mewn mannau eraill. Gwelwn hefyd enghraifft y prosiect Pharmabees, a arweiniodd yr Athro Les Baillie diymarbed, sy’n gweithio gyda phrosiectau eraill y Genhadaeth Ddinesig ac ystod o ysgolion ac asiantaethau. Yn y diwedd, y rheswm dros fynd ar drywydd ymchwil ac addysgu rhagorol yw er budd cymdeithas, a thrwy ein Cenhadaeth Ddinesig rydym yn gwneud hynny’n realiti diriaethol ac yn dangos yn glir i’r byd lwyddiant ein hymdrechion yn hyn o beth.
Cyn symud at fy mhwynt nesaf, rwyf am gydnabod y modd adeiladol a chymwynasgar y daeth cangen leol Undeb y Prifysgolion a’r Colegau i gytundeb wedi’i negodi â’r Brifysgol i ganslo’r gweithredu diwydiannol a fyddai wedi parhau am weddill y flwyddyn academaidd. Rwy’n siŵr bod pob un ohonom yn falch ac yn teimlo rhyddhad y bydd ein myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau, symud ymlaen a graddio yn ôl y bwriad. I’r garfan sy’n graddio yn benodol mae wedi bod yn dair blynedd anodd iawn ac mae’n gadarnhaol iawn na fydd y pryder pellach hwnnw arnyn nhw.
Wrth i COVID gilio, a bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cael gwared ar yr holl gyfyngiadau sy’n weddill, byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus yn hytrach nag yn hunanfodlon, rhag ofn i’r sefyllfa waethygu eto. Fodd bynnag, amser da yw hwn i atgoffa ein hunain o faterion hollbwysig eraill sy’n effeithio ar y byd i gyd. Rydym yn parhau i ganolbwyntio’n gryf ar newid yn yr hinsawdd a’n hymrwymiad i sero net, ond rhaid inni hefyd ailgadarnhau ein hymrwymiad i gael gwared ar blastig untro o’r campws cymaint â phosibl. Fe wnaeth y gofyniad yn ystod COVID i ddefnyddio eitemau i’w taflu mewn meysydd fel arlwyo, a masgiau wrth gwrs, bylu ein huchelgais dros dro, ond mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn ein hatgoffa’n llwyr o frys y mater hwn. Mae llygredd trwy ficro-blastigau nano-raddfa yn fygythiad enfawr i’n hecosystemau ac i’n hiechyd, ac yn wir mae rhai yn gweld y bygythiad hwn ar raddfa debyg i newid hinsawdd. Un o’r problemau mwyaf yw bod y llygryddion mor fychan fel bod 99% ohonynt yn parhau heb eu canfod, hyd yn oed os bydd crwydro drwy ganol dinas Caerdydd neu ar hyd glannau’r Taf yn datgelu gwastraff plastig ar raddfa fwy yn rhwydd. Mae gwaith gan y cyfleuster Sbectrosgopeg Ddirgrynol Nanoraddfa newydd yn ein Canolfan Ymchwil Drosiadol yr un mor newydd ar y Campws Arloesedd, wedi arwain at y delweddau cyntaf un o lygryddion plastig nanoraddfa. Mae Dr Josh Davies-Jones o Sefydliad Catalysis Caerdydd yn egluro’r manylion yma, ond yn y bôn mae’r gronynnau bach hyn wedi’u ffurfio o ddadelfennu eitemau plastig mwy. Maent 70 gwaith yn llai na diamedr gwallt dynol ac yn anodd iawn eu hastudio am y rheswm hwnnw. Astudio nhw y mae’n rhaid i ni, fodd bynnag, oherwydd mae’r gronynnau hyn nid yn unig yn diweddu mewn bwyd ynghyd â’n cyrff ninnau a llawer organebau o ganlyniad, ond gallan nhw amsugno llygryddion eraill sydd wedyn yn cael eu cludo i mewn i ni. Bydd gallu delweddu a dadansoddi gronynnau nano plastig yn ffordd bwysig o’n helpu i frwydro yn erbyn eu heffeithiau. Gall pob un ohonom ym Mhrifysgol Caerdydd wneud ein rhan drwy gael gwared ar blastigau untro o’r campws cymaint â phosibl, gan ei gwneud yn anos iddynt fynd i mewn i’r amgylchedd yn y lle cyntaf. Os gallwn sefydlu arferion o’r fath fel rhai safonol, efallai y bydd ganddo effeithiau crychdonni ehangach i leihau’r defnydd o blastig, a rhaid mai dyna’r nod cyffredinol.
Ar ddiwedd y mis hwn bydd yr Athro Kim Graham yn ein gadael i ddechrau ar ei rôl newydd fel Profost ym Mhrifysgol Caeredin. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Kim yn Rhag Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Menter am y tair blynedd diwethaf, ac yn arbennig i fod wedi cael budd ei hegni, ei hymrwymiad, ei sylw at fanylion a’i gweledigaeth strategol yn ystod REF 2021. Mae hi wedi gwneud gwaith rhagorol ar draws ei briff ac rwyf am ddiolch o galon am bopeth y mae wedi’i wneud i Brifysgol Caerdydd. Mae ei rôl newydd fel Profost yng Nghaeredin yn mynd i fod yn gyffrous ac yn gofyn llawer, ac mae Kim i’w llongyfarch yn fawr iawn am ei chael. Rwyf am ddymuno pob lwc i Kim a gwn y bydd hi’n parhau i lwyddo.
Yn olaf, bydd llawer ohonoch eisoes yn gwybod y byddaf yn ymddeol o’m swydd fel Is-Ganghellor pan fyddaf yn cwblhau fy ail dymor ar 31 Gorffennaf 2023. A finnau’n 64 oed ar ôl 16 mlynedd fel Is-Ganghellor, ac un ar ddeg ohonyn nhw yng Nghaerdydd, byddaf yn barod i gamu’n ôl o’r gad. Tan hynny, wrth gwrs, byddaf yn parhau i ymrwymo i’m rôl a chanolbwyntio arni, ynghyd ag anghenion y Brifysgol. Mae’n bwysig fy mod yn cadarnhau hyn yn awr oherwydd mae’n rhaid sefydlu pwyllgor o’r Cyngor a’r Senedd er mwyn dechrau chwilio am olynydd, sy’n broses braidd yn hir. Wrth gwrs fe ddywedaf fwy tua diwedd y flwyddyn academaidd nesaf, ond yn y cyfamser mae’n fusnes fel arfer.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014