
Annwyl gydweithiwr,
Ers y tro diwethaf imi ysgrifennu atoch chi, mae trafodaethau cadarnhaol wedi parhau rhwng y Brifysgol ac Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU).
O ganlyniad, rydym wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd ynglŷn â phensiynau USS, ac mae UCU Caerdydd wedi cytuno i beidio â gweithredu’n ddiwydiannol (gan gynnwys gweithredu heb gynnwys streicio) yn ystod y flwyddyn academaidd hon.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor