Gwahoddiad Seremonïau Graddio 2022
6 Mai 2022Darllenwch y neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 5 Mai at raddedigion 2022.
Annwyl fyfyriwr/myfyriwr graddedig,
Ers fy ebost diwethaf, rydyn ni wedi bod wrthi’n brysur yn cynllunio’r Seremonïau Graddio yn ogystal â’r rhan newydd, sef y digwyddiadau dathlu myfyrwyr yn yr Ysgolion. Mae’n bleser gennyf eich gwahodd yn awr i gymryd rhan yn eich Diwrnod Graddio ar gyfer Graddedigion 2022 ddydd Mercher 20 Gorffennaf 2022.
Porth cadw lle personol ar gyfer y seremonïau graddio
Bellach, gallwch chi gadarnhau eich presenoldeb, archebu tocynnau, eich gŵn yn ogystal â chael tynnu eich lluniau drwy’r porth. Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch enw a’ch rhif myfyriwr.
Tocynnau rhad ac am ddim i westeion
Amser i ddathlu yw’r seremonïau graddio, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael rhannu eich diwrnod gyda chi. Mae’n bleser gennym roi dau docyn yn rhad ac am ddim i westeion os hoffech chi wahodd gwesteion i ymuno â chi ar gyfer pob rhan o’r diwrnod – digwyddiad dathlu myfyrwyr yr Ysgolion, y Gerddi Graddio a’r Seremoni Raddio ei hun.
Yn yr un modd â seremonïau graddio blaenorol, byddwn ni’n cyfyngu ar y niferoedd oherwydd maint y lleoliadau. Mae hyn yn golygu y bydd lleoedd yn brin yn nigwyddiadau dathlu myfyrwyr yr Ysgolion ac yn y Gerddi Graddio. Fodd bynnag, cewch brynu tocynnau ychwanegol ar gyfer gwesteion ar gyfer ein Seremoni Raddio yn Stadiwm Principality, fel y nodir isod.
Trefn y diwrnod
Cyfle yw eich Diwrnod Graddio i ddathlu’r hyn rydych chi wedi ei gyflawni ac mae nifer o elfennau gwahanol yn perthyn iddo y bydd yn rhaid ichi eu harchebu: –
Gwisg academaidd a thynnu lluniau stiwdio
Dechreuwch eich diwrnod drwy gael eich gŵn a thynnu lluniau stiwdio yn Neuadd y Ddinas. Dan ofal ein partneriaid Ede a Ravenscroft, bydd gan staff eich gŵn yn barod i’w gasglu yn Neuadd y Ddinas a gallan nhw eich dal chi a’ch gwesteion ar gamera, os byddwch chi’n dewis gwneud hyn ymlaen llaw. Bydd lluniau swyddogol hefyd ar gael i bob myfyriwr graddedig (yn unig) yn Stadiwm Principality – nid oes rhaid ichi archebu hyn; bydd lluniau ar gael i’w prynu ar ôl y digwyddiad ar wefan bwrpasol.
Disgwylir ichi wisgo gwisg academaidd drwy gydol digwyddiadau’r dydd.
Llogwch eich gwisg academaidd a threfnwch eich lluniau drwy’r Porth Cadw Lle. Y dyddiad cau i logi gwisg academaidd yw 23 Mehefin 2022. Ni all Ede a Ravenscroft warantu archebion ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd eich cap a’ch gŵn ar gael i’w casglu y diwrnod cyn eich Seremoni Raddio (ddydd Mawrth 08:00 tan 20:00), neu ar ddiwrnod y Seremoni Raddio ei hun (ddydd Mercher o 07:30). Sylwer – rydyn ni’n eich cynghori i gasglu eich gŵn ar y dydd Mawrth os bydd modd, oherwydd bydd ciwiau hir ar y dydd Mercher yn ôl pob tebyg.
Rhagor o wybodaeth am gasglu eich gŵn a thynnu lluniau.
Digwyddiadau dathlu myfyrwyr yr Ysgolion
Digwyddiadau dathlu myfyrwyr yr Ysgolion, a drefnir gan eich Ysgol Academaidd, yw’r cyfle ichi ddathlu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni, cerdded a gwrando ar eich enw yn cael ei ddarllen ar goedd.
Cynhelir y digwyddiadau hyn yn adeiladau’r Brifysgol ledled campws Parc Cathays rhwng 10:00 a 15:30. Ni fyddan nhw’n para mwy nag 1 awr a 15 munud.
Mae tocynnau a slotiau amser ar gael drwy’r Porth Cadw Lle (hwyrach y bydd yr amseroedd yn newid yn seiliedig ar y nifer fydd yn cadw lle). Y dyddiad cau i archebu tocynnau yw 23 Mehefin 2022.
Rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau dathlu myfyrwyr yr Ysgolion.
Y gerddi graddio
Cyn neu ar ôl eich digwyddiad dathlu myfyrwyr yn eich Ysgol, cewch chi a’ch dau westai eu gwahodd i fynd i’r ‘Gerddi Graddio’ ar lawntiau’r Prif Adeilad am luniaeth ysgafn fydd yn rhad ac am ddim. Lle anffurfiol yw hwn i ddal i fyny gyda ffrindiau, graddedigion eraill a staff.
Mae tocynnau ar gael drwy’r Porth Cadw Lle.
Rhagor o wybodaeth am y Gerddi Graddio.
Y seremoni raddio
Uchafbwynt eich diwrnod fydd y digwyddiad ynStadiwm Principality. Mae’r seremoni hon yn dod â’ch blwyddyn gyfan ynghyd i gydnabod a dathlu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Bydd yr Is-ganghellor ac aelodau o gymuned ein prifysgol yn dyfarnu eich gradd, ac wedyn bydd llu o siaradwyr a’n Cymrodyr Er Anrhydedd yn rhoi areithiau i’ch ysbrydoli. Bydd cerddorion byw yno hefyd.
Trefn y dydd
- Bydd y drysau’n agor i’r graddedigion am 15:30 a byddwch chi’n cael tynnu eich lluniau swyddogol wrth gyrraedd y Stadiwm
- Caiff y gwesteion ddod i mewn o 16:30 ymlaen
- Mae’n rhaid i’r graddedigion a’r gwesteion fod yn eu seddau erbyn 17:30 ar gyfer ymarfer a pherfformiad byr cyn y seremoni.
- Bydd y brif seremoni yn dechrau am 18:00 a bydd ychydig dros awr o hyd. Oherwydd nifer y graddedigion a’r gwesteion a ddisgwylir yn y digwyddiad hwn, efallai y bydd yn cymryd peth amser i ymadael â’r Stadiwm.
- Mae’n rhaid dychwelyd gynau’r graddedigion wrth ymadael â’r Stadiwm, neu yn Neuadd y Ddinas erbyn 22:00.
Cadarnhewch eich presenoldeb, archebwch eich dau docyn gwestai yn rhad ac am ddim a phrynwch hyd at ddau docyn ychwanegol am £30 yr un drwy’r Porth Cadw Lle. Yn nes at y digwyddiad bydd rhagor o docynnau ar werth.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar YouTube a Weibo i unrhyw un na all fod yn bresennol.
Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad Dathlu yn Stadiwm Principality.
Mae’n hollbwysig eich bod yn talu’r holl ffioedd a’r dyledion sydd heb eu talu i’r Brifysgol erbyn 17 Mai er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y seremoni raddio.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am eich Diwrnod Graddio, gan gynnwys hygyrchedd, teithio a llety, tystysgrifau, mesurau diogelwch COVID a’r cymorth sydd ar gael ichi, a chithau’n un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, ar gael ar ein tudalennau gwe Graddio.
Byddaf yn ysgrifennu unwaith eto cyn bo hir i roi rhagor o fanylion. Yn y cyfamser, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau eich presenoldeb a chadw eich lle/lleoedd.
Mae fy nghydweithwyr a minnau’n edrych ymlaen at eich gweld chi a’ch gwesteion ym mis Gorffennaf.
Yn gywir,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
Noder y bydd Graddedigion 2020 a 2021 yn derbyn eu gwahoddiadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 9 Mai.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014