Yr Athro Dylan Jones, Wcráin, Ymchwil i Glefyd Alzheimer
28 Ebrill 2022Annwyl gydweithiwr,
Y mis hwn fe gawsom y newyddion hynod drist am farwolaeth yr Athro Dylan Jones, cyn-Bennaeth yr Ysgol Seicoleg a Rhag Is-Ganghellor cyntaf Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Ni fyddai’r Coleg beth ydyw heddiw, nac ychwaith yr Ysgol Seicoleg i raddau helaeth, oni bai am weledigaeth ac egni Dylan. Roedd Dylan yn gydweithiwr gwych ac yn gefn mawr i mi yn ystod fy mlynyddoedd cynnar yng Nghaerdydd, yn ogystal â ffrind hynod ddifyr a hyddysg. Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol ei fod yn ymchwilydd rhagorol, ac yn wir, fe barhaodd i ymgymryd ag ymchwil yn rhan-amser ar ôl rhoi’r gorau i’w gyfrifoldebau amrywiol. Gwn fy mod yn siarad ar ran holl aelodau presennol Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, yn ogystal â’r cyn-aelodau, wrth ddweud ein bod yn cydymdeimlo’n fawr â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Dylan, a byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr.
Fe fyddwch yn ymwybodol o’r erchyllterau newydd sy’n digwydd yn ddyddiol yn sgîl ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a hoffwn roi rhagor o fanylion ichi am y camau cymorth yr ydym yn eu cymryd. Fel yr wyf wedi sôn eisoes, rydym am gynorthwyo’r unigolion sydd wedi’u heffeithio, gan gynnwys staff a myfyrwyr fel ei gilydd, yn ogystal â phrifysgolion. Rydym wedi bod yn cydweithio â’r Cyngor ar gyfer Academyddion Agored i Niwed (CARA) ers cryn amser a byddwn yn parhau i wneud hynny drwy eu Cymrodoriaethau Ymchwilwyr Agored i Niwed, a drefnir gydag Academïau Cenedlaethol y DU. Rydym yn cyflwyno rhodd arall i gynorthwyo’r gwaith hwn, yn dilyn y rhodd a gyflwynwyd gennym yn gynharach yn y flwyddyn academaidd hon. Ar ben hynny, mae CARA yn cael rhestr gennym o’r prosiectau y mae academyddion Caerdydd wedi’u paratoi o dan faner Gwyddoniaeth i Wcráin. Bydd hyn yn eu helpu i roi academyddion mewn swyddi gwag addas mewn sefydliadau yn y DU.
O ran myfyrwyr, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn cynnig deg ysgoloriaeth israddedig a deg ysgoloriaeth ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o Wcráin ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23. Bydd manylion ar gael maes o law, ond bydd yr ysgoloriaethau hyn yn talu ffioedd ac yn rhoi taliad i bob myfyriwr. I gyd-fynd â hyn, byddwn yn adolygu ein cynllun ysgoloriaethau presennol ar gyfer ceiswyr lloches i wneud yn siŵr ei fod yn ddigon cadarn a hyblyg i helpu’r rhai sy’n cael eu dadleoli gan wrthdaro ledled y byd.
Rydym wedi mynegi ein diddordeb mewn gefeillio â phrifysgol yn Wcráin er mwyn eu helpu i ailadeiladu eu seilwaith a’u hadnoddau academaidd. Mae’r Athro Steve Riley, Deon yr Ysgol Meddygaeth, hefyd wedi cadarnhau ein bod yn barod i gynorthwyo ysgol meddygaeth yn Wcráin yn rhan o’r un cynllun. Gyda lwc, cawn gadarnhad o’n partneriaid newydd cyn bo hir a byddwn yn gofyn i staff ein cynorthwyo i weithio gyda chydweithwyr o Wcráin. Rydym hefyd yn rhan o gynllun gyda phrifysgolion eraill yn y DU, yr Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd sy’n cynnig mynediad agored at adnoddau llyfrgelloedd i sefydliadau Wcráin.
Mae Undeb y Prifysgolion a’r Colegau wedi cyhoeddi bod streic a gweithredu heb gynnwys streicio wedi’u cynllunio ar gyfer y 40 cangen — gan gynnwys Caerdydd — sydd â mandad yn dilyn y bleidlais ddiweddar. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar 12 Mai yn ôl pob tebyg. Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ymateb a diogelu buddiannau ein myfyrwyr pan gawn ragor o fanylion. Mae’r camau a gyhoeddwyd hyd yma yn ymwneud â’r cais ynghylch cyflogau a wnaethpwyd y llynedd, a byddwch wedi cael gwybodaeth am y cais hwn ers mis Awst 2021. Nid yw’n ymwneud â’r sefyllfa bresennol gan fod y trafodaethau yn mynd rhagddynt.
Gan droi at faterion eraill, mae’r Athro Julie Williams o’r Ysgol Meddygaeth wedi bod yn cynnal ymchwil ers rhai blynyddoedd bellach i nodi genynnau sy’n gysylltiedig â risg uwch o glefyd Alzheimer. Un o gydweithiwyr Julie, Dr Rebecca Sims, sy’n cyd-arwain rhan Caerdydd o’r astudiaeth ryngwladol bwysig hon sydd wedi nodi 42 o enynnau eraill sy’n chwarae rôl, gan olygu bod 75 i gyd erbyn hyn. Mae clefyd Alzheimer yn gyflwr cymhleth, a thalcen caled yw gwneud diagnosis ohono nes bydd ar gam eithaf datblygedig. Bydd y dull hwn o asesu risg yn seiliedig ar gyfansoddiad genetig unigolion yn adnodd pwysig er mwyn nodi ac ymyrryd yn gynnar, a bydd hefyd yn helpu i ddeall y mecanweithiau sy’n sail i’r clefyd a dod o hyd i therapïau i’w drin. Mae gwaith y Sefydliad Ymchwil Dementia — dan arweiniad yr Athro Williams — yn gwneud cynnydd aruthrol o ran helpu i fynd i’r afael â’r pla hwn ac mae mor braf gweld yn glir sut mae Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ryngwladol a chyfunol ohono.
Rai blynyddoedd yn ôl, bu’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing yn gyfrifol am garreg filltir bwysig drwy sefydlu rhaglen radd ddeuol mewn Tsieinëeg Fodern. O’r cychwyn cyntaf, mae’r rhaglen wedi’i hanelu at fyfyrwyr sy’n dymuno bod yn hyfedr mewn Tsieinëeg a diwylliant Tsieina. Yn hollbwysig, mae’r myfyrwyr yn treulio dwy flynedd yn Tsieina yn astudio ym Mhrifysgol Normal Beijing yn rhan o’u rhaglen, gan arwain at ddyfarniad deuol. Rydym i gyd yn gwybod pa mor gyffredin yw hi i fyfyrwyr o Tsieina astudio yma gyda ni ac mewn prifysgolion eraill ledled y DU a’r byd. Yr hyn sy’n llai cyffredin yw i fyfyrwyr o’r tu allan i Tsieina — ac yn enwedig o Ewrop — astudio yno. Erbyn hyn, mae carfan gyntaf o raddedigion y rhaglen arloesol hon wedi cyflawni gradd ddeuol. Mae hwn yn gyflawniad enfawr ac arwyddocaol nid yn unig i’r myfyrwyr dan sylw — sydd i’w llongyfarch yn fawr ar eu llwyddiant — ond hefyd yn ehangach i Gymru a’r DU. Mae’n hanfodol bod cyfnewid rhyng-ddiwylliannol yn golygu hynny’n union; proses ddwyffordd fydd yn creu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer perthynas ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd lawn rhwng ein gwledydd. Mae Dr Xuan Wang yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn parhau i wneud gwaith rhagorol wrth arwain y rhaglen arloesol hon ar ran Prifysgol Caerdydd. Rwy’n siŵr y byddwn yn gweld rhagor o lwyddiant yn y dyfodol, er gwaethaf yr heriau a’r troeon trwstan a allai godi fel yr hyn a gafwyd yn ystod COVID-19.
Yr wyf wedi siarad o’r blaen am Brosiect Treftadaeth Caerau. Dyma fenter cenhadaeth sifig ragorol sydd wedi arwain at berthynas glos a pharhaus rhwng yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE) ym Mhrifysgol Caerdydd a chymunedau Caerau a Threlái, sy’n gartref i fryngaer o oes yr haearn. Mae llwyddiant y prosiect hwn wedi arwain at greu Canolfan Treftadaeth Gymunedol newydd a ariannwyd gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Erbyn hyn, mae’r fenter yn cael ei hehangu o dan faner CAER Connected er mwyn cydweithio â grwpiau sy’n gweithio mewn ffordd debyg gyda chymunedau ger bryngaerau ym Mhenparcau, Ceredigion a Chroesoswallt, Swydd Amwythig. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous dros ben sy’n dangos sut y gall egni ac ymrwymiad cydweithwyr yng Nghaerdydd — a Dr Oliver Davis o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn yr achos hwn — gael effaith ddwys, barhaol ac eang ac mewn ffordd sy’n cyfuno cenhadaeth sifig ag ymchwil. Ar ben hynny, mae’n sicrhau bod ein prif strategaethau yn anelu at yr un nod ac yn dangos sut rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn, er gwaethaf yr holl sylw negyddol a roddir i brifysgolion gan rai rhannau o’r wasg.
Rwyf fel arfer yn tueddu i edrych yn ôl ar rai o brif ddigwyddiadau’r mis yn yr ebost hwn. Y tro hwn, fodd bynnag, mae’n werth edrych ymlaen at ail wythnos mis Mai, pan fydd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 yn cael eu cyhoeddi. Byddwn yn derbyn ein canlyniadau ddydd Llun 9 Mai ac yn mynd ati ar unwaith i ddechrau ar ein dadansoddiadau. Ar y dydd Mawrth, byddwn yn cael y canlyniadau ar draws y sector er mwyn inni allu gwneud cymariaethau, cyn i’r set gyfan gael ei chyhoeddi ddydd Iau 12 Mai. Go brin bod angen imi ddweud pa mor bwysig yw’r achlysur hwn yn ein rhan ni o’r sector, a byddaf yn myfyrio ar y canlyniad yn fy ebost nesaf.
Yn olaf, ac yn eithaf perthnasol, mae’n bleser gennyf allu croesawu’r Athro Roger Whitaker, ein Rhag Is-Ganghellor newydd ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter. Bydd Roger yn ymgymryd â’i rôl ar 1 Mehefin, gan olygu bydd gan Kim y cyfle i drosglwyddo’r awenau iddo yn y cyfamser. Llongyfarchiadau mawr i Roger. Rwyf yn gwybod y bydd yn gwneud gwaith rhagorol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio ag ef ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014