Gweithredu diwydiannol, Gornest y Prifysgolion a chymorth arholiadau
27 Ebrill 2022Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 26 Ebrill.
Annwyl fyfyriwr,
Hoffwn ddechrau drwy eich croesawu’n ôl i’r campws yn dilyn gwyliau’r Pasg. Gobeithio eich bod wedi gallu cymryd amser i gael rhywfaint o orffwys y mae mawr ei angen i baratoi ar gyfer yr arholiadau sydd ar y gweill yn ddiweddarach yn y semester hwn.
Ar 13 Ebrill anfonais ebost i roi gwybod i chi am bleidlais Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) o blaid gweithredu diwydiannol y gwanwyn hwn. Ar hyn o bryd rydym yn dal i aros am ragor o wybodaeth am ba fformat y mae’r gweithredu diwydiannol yn debygol o’i gymryd a sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Hoffwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i fod ar agor drwy gydol unrhyw gamau diwydiannol, gan wneud popeth o fewn ein gallu i barhau i’ch cefnogi a lliniaru’r aflonyddwch a achosir. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl drwy ebost, mewnrwyd y myfyrwyr a Newyddion Myfyrwyr. Bydd eich ysgol yn rhoi diweddariadau uniongyrchol i chi hefyd.
Gornest y Prifysgolion 2022
Ar ôl seibiant o ddwy flynedd, mae Gornest Prifysgolion Cymru 2022 yma, gyda dros 40 o dimau chwaraeon yn cystadlu i ennill tarian a chwpan Gornest y Prifysgolion, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i bob un ohonoch a fydd yn cymryd rhan (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny!).
Diolch i’r rhai ohonoch sydd eisoes wedi mynychu digwyddiadau, ac am yr ymddygiad cyfrifol yr ydym wedi’i weld. Mae pob un ohonoch yn llysgenhadon dros ein Prifysgol, a disgwylir i chi ymddwyn mewn modd synhwyrol.
Cofiwch – ni chaniateir unrhyw alcohol y tu mewn i leoliadau Gornest y Prifysgolion, ac mae’n debygol y bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal ag alcohol yn cael ei droi allan, gydag unrhyw ymddygiad sy’n torri’r safonau sydd yn y weithdrefn ymddygiad myfyrwyr, yn destun ymchwiliad.
Arholiadau ac asesiadau
Cynhelir cyfnod arholiadau’r haf rhwng dydd Llun 16 Mai a dydd Gwener 17 Mehefin 2022. Mae eich amserlen bersonol ar gael i’w gweld yn SIMS (mae’n ymddangos o dan Fy Nghofnod Myfyriwr – Amserlen Arholiadau). Gall mewnrwyd y myfyrwyr eich helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau, cael gafael ar bapurau neu gefnogaeth yn y gorffennol, ac os oes angen, gwneud trefniadau amgen.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich holl arholiadau’n ymddangos ar yr amserlen, a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod dyddiad/amser eich arholiadau, ac yn mynd i bob un ohonynt. Cysylltwch â Swyddfa eich Ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau am amserlen eich arholiadau.
Deallaf y gall y cyfnod arholi ac asesu fod yn gyfnod arbennig o anodd a phryderus, a hynny cyn cyhoeddi gweithredu diwydiannol. Rydym am dawelu’ch meddwl, fodd bynnag, ein bod ni yma i’ch cefnogi chi drwy ei gydol. Cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr neu ewch i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr os hoffech siarad â rhywun am unrhyw bryderon arholiadau sydd gennych.
Dweud eich dweud
Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) yw eich cyfle i gynnig adborth gwerthfawr am eich profiad yn y brifysgol. Mae’r NSS yn rhoi cyfle i bob myfyriwr blwyddyn olaf siarad am bopeth, fel addysg eich cwrs, mynediad at adnoddau a chyfarpar, a llais y myfyrwyr.
Lansiwyd arolwg 2022 ar 7 Chwefror ac mae’n cau ddydd Sadwrn yma, 30 Ebrill. Os ydych yn fyfyriwr blwyddyn olaf ac nad ydych wedi cymryd rhan yn yr NSS eto, byddwn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Mae’n gwbl ddienw, a bydd eich ymatebion yn ein helpu i wneud newidiadau a gwelliannau sy’n helpu i lunio dyfodol Prifysgol Caerdydd.
Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr sy’n mentora
Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad dathlu myfyrwyr sy’n mentora y mis hwn a chael y cyfle i ddiolch i’n myfyrwyr sy’n mentora a’n hymgynghorwyr mentora am gefnogi ein myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf a meithrin teimlad gwerthfawr o gymuned. Gwirfoddolodd bron 700 o fyfyrwyr i fod yn fentoriaid a helpu eu cyd-fyfyrwyr y flwyddyn academaidd hon, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y cynllun hwn, sydd bron yn ei ddegfed flwyddyn. Gallwch gyflwyno cais o hyd i ddod yn fyfyriwr sy’n mentora yn 2022/23, ac rydym yn croesawu eich diddordeb.
Yn olaf, dymunaf y gorau i chi ar gyfer eich astudiaethau a’ch arholiadau y semester hwn. Gobeithio bod eich misoedd olaf yn y flwyddyn academaidd hon yn gynhyrchiol.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014