Graddio
4 Mawrth 2022Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 4 Mawrth.
Annwyl myfyrwyr/cynfyfyrwyr
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn ac yn edrych ymlaen at eich Diwrnod Graddio ym mis Gorffennaf.
Yn dilyn ein ebost yn yr hydref a’r cyhoeddiad y byddwn yn cynnal y seremoni raddio yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, rydym yn falch o’ch hysbysu bod Cymru wedi dychwelyd i Lefel rhybudd 0 a bod cyfyngiadau COVID-19 wedi llacio. Rydym yn edrych ymlaen at y seremonïau graddio a’r cyfle i ddathlu eich llwyddiannau anhygoel, gyda miloedd o’ch cyd-raddedigion, staff y Brifysgol, cymrodyr er anrhydedd, gwesteion nodedig a’ch gwesteion.
Diwrnod Eich Seremoni Raddio
Graddedigion 2020 ddydd Iau 21 Gorffennaf 2022
- Israddedigion a raddiodd rhwng mis Awst 2019 a mis Rhagfyr 2020.
- Myfyrwyr ôl-raddedig a raddiodd rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Gorffennaf 2020.
- Y rheiny a ohiriodd gymryd rhan yn swyddogol yn 2019.
Graddedigion 2021 ddydd Gwener 22 Gorffennaf 2022
- Israddedigion a raddiodd rhwng mis Ionawr 2021 a mis Rhagfyr 2021.
- Myfyrwyr ôl-raddedig a raddiodd rhwng mis Awst 2020 a mis Gorffennaf 2021.
Graddedigion 2022 ddydd Mercher 20 Gorffennaf 2022
- Israddedigion a raddiodd rhwng mis Ionawr 2022 a mis Gorffennaf 2022
- Myfyrwyr ôl-raddedig a raddiodd rhwng mis Awst 2021 a mis Mehefin 2022.
Os ydych i fod i raddio ddwywaith – er enghraifft gyda dyfarniad israddedig ac ôl-raddedig – cewch eich gwahodd i ymuno â’r ddwy seremoni a gallwch chi ddewis mynd i un neu’r ddwy.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl
Bydd diwrnodau graddio yn dilyn yr un fformat ar gyfer pob seremoni ‘Graddedigion’:
- Bydd gwisgo gynau a thynnu lluniau swyddogol yn Neuadd y Ddinas
- Bydd derbyniadau’r Ysgolion o amgylch y Ganolfan Ddinesig ac adeiladau’r brifysgol, o ganol y bore i ddechrau’r prynhawn
- Bydd y brif seremoni yn dechrau am 18:00 a disgwylir i raddedigion gyrraedd o 15.30 ymlaen. Bydd gwesteion yn cyrraedd o 16:30 ymlaen. Rhaid i chi a’ch gwesteion fod yn eich seddi erbyn 17:45 yn barod i fwynhau ein siaradwyr a’n perfformiadau.
- Bydd y graddedigion yn eistedd fesul Ysgol Academaidd o flaen y brif lwyfan, a bydd eu gwesteion yn gwylio o’r eisteddle.
- Gan y bydd grwpiau blwyddyn cyfan yn ymuno â’i gilydd o’r newydd mewn un seremoni, ni fyddwch yn croesi’r llwyfan, ond byddwch yn sefyll ac yn dathlu fesul Ysgol o’ch lle ar y cae.
Pryd a sut i gadw lle
Byddwch yn gallu trefnu popeth sydd ei angen arnoch drwy borth archebu pwrpasol. Ym mis Ebrill, byddwn yn anfon ebost atoch i gofrestru, a byddwch yn gallu trefnu tocynnau ar gyfer y seremoni, gynau, lluniau swyddogol, tocynnau ar gyfer derbyniad yr Ysgolion a llety yn y brifysgol.
Bydd pob myfyriwr graddedig yn derbyn eu tocyn eu hunain a dau docyn rhad ac am ddim ar gyfer y seremoni raddio a derbyniad yr Ysgol. Gallwch hefyd brynu dau docyn ychwanegol ar gyfer y Seremoni am £30 y tocyn ar adeg cadw lle yn unig. Os hoffech gael mwy na phedwar tocyn ar gyfer gwestai, bydd cyfle i brynu tocynnau ychwanegol ar gyfer y seremoni , drwy’r porth archebu, yn agosach at y dyddiad.
Teithio a thrafnidiaeth
Mae sawl ffordd o deithio i Gaerdydd. Llenwch ein harolwg byr i’n helpu i gynllunio eich ymweliad. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd felly ystyriwch drafnidiaeth gyhoeddus lle bo’n bosibl.
Rhagor o wybodaeth
Bydd y manylion am ein trefniadau graddio yn cael eu rhannu ar ein gwefan a’u diweddaru’n rheolaidd wrth i wybodaeth newydd ddod i law.
Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau gwych.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014