Wcráin, yr ymateb i Adroddiad Augar, Taith
25 Chwefror 2022Annwyl gydweithiwr,
Wrth imi ysgrifennu’r ebost hwn, mae lluoedd milwrol Rwsia yn goresgyn rhannau helaeth o’r Wcráin. Er nad oes gennym staff na myfyrwyr ar fusnes sy’n ymwneud â’r Brifysgol, yn yr ardaloedd lle mae’r ymosodiadau yn digwydd, mae gennym gydweithwyr a myfyrwyr o’r ddwy wlad yng Nghaerdydd, ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth iddynt. Mae’n rhaid bod y pryder a’r gofid i’r bobl hynny sydd â theulu a ffrindiau sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan hyn holl, yn annioddefol. Felly, mae’n gyfrifoldeb arnon ni bob un i fod mor gefnogol ag y gallwn yn yr amgylchiadau annirnadwy hyn. Mae’n werth cofio pwynt yr wyf wedi’i wneud yn aml mewn cyd-destunau eraill, sef nad yw gweithredoedd llywodraethau, nac yn wir y manylion ynghylch unrhyw wrthdaro, yn bethau y gellir beio dinasyddion gwledydd penodol amdanynt dim ond ar sail eu dinasyddiaeth neu eu cysylltiadau. Rydym am gefnogi unrhyw un sy’n cael ei effeithio, os ydynt am gysylltu â ni, ac rydym yn cymryd camau i gysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw aelod staff neu fyfyriwr y gallai fod angen cefnogaeth a chyngor arnynt. Mae’r gwrthdaro hwn – sy’n peri cymaint o ofid, wedi bod yn datblygu ers wyth mlynedd bellach, neu ers rhagor o amser, os ystyrir lleoedd eraill megis Georgia, ac mae hyn wedi bod ar ddigwydd ers peth amser. Fodd bynnag, mae’n amhosibl gwadu bod gweld y cyfan yn digwydd nawr, yn sioc aruthrol. Mae’n amhosibl gwadu hefyd bod gwrthdaro ag ymosodiadau ar y raddfa hon yn gwbl drychinebus. Mae’r gost ddynol, sydd eisoes yn uchel, yn codi’n gyflym. Mae’n amhosibl dweud pa effaith y gallai’r rhyfel hwn ei chael ar gysylltiadau rhyngwladol, yr economi, yn ogystal ag ar fywydau a bywoliaeth dinasyddion ym mhell y tu hwnt i’r rhanbarth yn y pen draw. Gallwn fod yn sicr, fodd bynnag, y bydd effaith andwyol hyn yn ddifrifol, a bydd i’w theimlo yma ac mewn mannau eraill am flynyddoedd lawer.
Gan edrych ar faterion polisi addysg uwch yma, mae llywodraeth y DU o’r diwedd wedi cyhoeddi ei hymateb i Adroddiad Augar bron dair blynedd ar ôl ei dderbyn. Efallai y byddwch yn cofio mai bwriad gwreiddiol llywodraeth Theresa May, wrth gomisiynu’r ymchwiliad hwn i gyllid prifysgolion a chymorth i fyfyrwyr yn Lloegr, bwriad a gafodd lawer o sylw (er nad yw wedi’i gadarnhau’n gyhoeddus), oedd lleihau’r cap ffioedd i £7500 a dargyfeirio rhagor o arian i addysg alwedigaethol. Bu i’r gostyngiad yn y cap ar ffioedd ymddangos, fel y dylai hefyd, yn yr adroddiad terfynol, (er nad yw cadeirydd yr ymchwiliad, Philip Augar, bellach yn cefnogi’r mesur), ond nid yw’n ymddangos yn ymateb y llywodraeth. Yn hytrach, bydd ffioedd cartref yn Lloegr yn parhau i gael eu capio ar £9250 am ddwy flynedd arall. O ystyried y gallwn ddisgwyl i’r gyfradd chwyddiant godi yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hyn yn debygol o fod yn ostyngiad mewn termau real o 10% o leiaf, ac yn ostyngiad mwy sylweddol na hynny yn fwy na thebyg. Hoffwn nodi fod yr esgid fach yn gwasgu hyd yn oed yn fwy yng Nghymru. Nid ydym wedi cael unrhyw gynnydd yn y cap ffioedd o £9000 ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o’r DU ers cyflwyno’r system yn 2012, ac mae chwyddiant eisoes wedi lleihau pŵer prynu’r swm hwnnw i ychydig dros £7000 mewn termau real. Bydd yn amlwg yn is na hynny os na fydd dim yn newid am y ddwy flynedd nesaf, ac os na fydd llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion Adolygiad Diamond ac Adolygiad Reid yn llawn, bydd y cyllid ar gyfer prifysgolion Cymru yn dod yn fwyfwy annigonol.
Ond yn ôl at ymateb Augar: y tu hwnt i’r mater ariannu, mae llywodraeth y DU yn amlwg yn bwriadu dad-wneud y newidiadau a gyflwynwyd yn ystod y 2000au drwy gyflwyno mesurau i gyfyngu ar y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn addysg uwch yn Lloegr. Bydd yn ddiddorol arsylwi ar yr ymgynghoriad ar ailgyflwyno mesurau rheoli niferoedd myfyrwyr, yn enwedig sut caiff y mesurau rheoli hyn eu gweithredu yn absenoldeb y system grantiau bloc a arferai fodoli drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, sydd bellach wedi dod i ben. Bydd ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal ynghylch gosod gofynion cymhwyster gofynnol – Mathemateg a Saesneg fydd y rhain yn ôl pob tebyg – ar yr ymgeiswyr hynny sydd angen gwneud cais am fenthyciad myfyriwr. Ar wahân i’r cwestiwn ynghylch sut yn union y byddai’r gofynion hynny’n cael eu pennu a chan bwy (gan nad oedd modd ateb y cwestiynau hyn pan gawsant eu cynnig yn wreiddiol gan adolygiad Browne yn 2010, ni chawsant eu derbyn), mae’n amlwg y bydd hyn yn effeithio ar degwch: mae’n debyg, ar yr olwg gyntaf, na fyddai ymgeiswyr o gefndir cyfoethocach nad ydynt angen gwneud cais am fenthyciad myfyriwr, yn cael eu heffeithio gan y cyfyngiad hwn. Pan oeddwn yn gwneud cais am le yn y brifysgol yn y 1970au roedd angen i bawb fod â chymhwyster sylfaenol mewn Mathemateg a Saesneg, mae hyn yn ymddangos ychydig yn decach o leiaf, er bod cwestiynau ynghylch cyfle cyfartal yn parhau serch hynny. Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut bydd canlyniad yr ymgynghoriadau hyn yn effeithio ar Gymru ond bydd angen eu hystyried maes o law.
Mae’r ymateb hefyd yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd y system fenthyciadau i’r Trysorlys ac i raddedigion, o leiaf o ran cyfraddau llog, gan gynnig, fel y mae’n ei wneud, gwneud gostyngiad yn y gyfradd llog ond gosod trothwy ad-dalu newydd o £25000 y flwyddyn. Byddai ymestyn y cyfnod ad-dalu i ddeugain mlynedd—ni fyddai angen ad-dalu unrhyw ddyled sy’n weddill y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw—yn gwneud y system mor debyg i system drethu graddedigion, nes bod yn rhaid i rywun ofyn a fyddai treth briodol ar raddedigion sy’n gymwys i’w dalu, yn fwy perthnasol, ac oni fyddai hynny’n system decach? Byddai unrhyw newidiadau o’r fath yn amlwg yn effeithio ar gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun a byddai angen eu hystyried yn ofalus yma hefyd.
Gan symud at fater arall, roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu’r hyn a elwid yn wreiddiol yn Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol, i’w chynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn un i’w groesawu’n fawr, ac mae’r penderfyniad yn un sy’n haeddu clod o ran y weledigaeth y tu ôl iddi. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn i greu’r rhaglen, a elwir bellach yn Taith, o dan arweiniad cadarn Cadeirydd y Bwrdd Cynghori, Kirsty Williams, y cyn-Weinidog Addysg. Mae Taith bellach ar fin cael ei chyflwyno a bydd ceisiadau am leoliadau symudedd yn agor fis nesaf. Mae’r gwaith enfawr hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r sectorau eraill, yn enwedig ysgolion, colegau a’r sector gwirfoddol, ac rwyf am gydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan gydweithwyr yng Nghaerdydd yn hyn o beth. Fel bob amser, bu’n ymdrech gan dîm o bobl ond hoffwn ddiolch yn arbennig i Elid Morris, Eevi Laukkanen a Cerys Bartlett am arwain y prosiect, yn ogystal â Nabil Ali, Emily Daly a Huw Morris sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn ymgynghori â’r sector a drafftio polisi. Mae Rose Matthews wedi chwarae rhan allweddol yn y dasg o lunio’r prosiect ac mae cefnogaeth Sunita Farnham wedi bod yn amhrisiadwy. Ni allaf bwysleisio digon, ba mor bwysig yw sicrhau llwyddiant Taith, i Gymru, yn ogystal â’r rheiny fydd yn cymryd rhan yma fydd yn yng Nghymru a’n partneriaid rhyngwladol. Byddaf yn siŵr o roi’r newyddion diweddaraf ichi, ac yn y cyfamser rwy’n falch o groesawu Susana Galván o’r Cyngor Prydeinig yn Gyfarwyddwr Gweithredol. Bydd profiad Susana o gymorth enfawr, ac rwy’n hyderus y bydd y rhaglen wych hon yn trawsnewid llawer o fywydau yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn olaf, gan aros â’r thema ryngwladol, mae ein cysylltiad â Horizon Europe, fel un y Swistir, yn parhau i fod yn aneglur. Fel rwy wedi dweud o’r blaen, mae’n bolisi gan y llywodraeth bod y DU yn parhau i gyfrannu, ac mae’r Trysorlys wedi sicrhau bod y cyllid gofynnol — sy’n filiynau bob blwyddyn — ar gael. Roeddem yn barod i gyd-drafod â hwy dros flwyddyn yn ôl; mae’r oedi yn dod o du’r UE. Nid yw’r UE yn dymuno bwrw ymlaen nes bydd cwestiwn protocol Gogledd Iwerddon wedi’i ddatrys. Mae’r Swistir mewn sefyllfa debyg am resymau gwahanol ond cyfatebol. Mae ymgyrch y mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan ynddi wedi’i lansio — i berswadio’r gwahanol bleidiau y dylid datgysylltu’r cwestiwn hwn oddi wrth gwestiynau gwleidyddol ehangach ac, y dylai ceisio gwybodaeth, a’r buddion mae’n hynny’n ei roi i gymdeithas, fod yn llawer pwysicach nag anghytundebau o’r fath. Os hoffech wybod rhagor, enw’r ymgyrch yw Stick to Science ac mae modd i unigolion gofrestru; rwyf wedi gwneud hynny fy hun.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014