Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Rhybudd tywydd coch wedi’i gyhoeddi yng Nghymru ar gyfer dydd Gwener, 18 Chwefror

17 Chwefror 2022

Wrth i Storm Eunice agosáu at y DU, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ‘rhybudd coch’ ar gyfer rhannau o Gymru, gan gynnwys Caerdydd ac ardaloedd cyfagos, ar gyfer dydd Gwener, 18 Chwefror. Wrth ysgrifennu’r neges hon, rydym hefyd yn deall y bydd yr holl wasanaethau trenau lleol yn cael eu canslo yfory, a bydd yr ysgolion yn yr awdurdodau lleol cyfagos ar gau hefyd.

Mae rhybudd o’r fath yn dangos ‘perygl sylweddol i fywyd’ gan fod gwyntoedd cryf iawn yn gallu difrodi strwythurau a pheri i falurion gael eu chwythu i bob cyfeiriad.

Oherwydd hynny, ac i fod mor ofalus â phosibl, rydym yn cynghori ein staff a’n myfyrwyr i beidio â dod i’r campws ddydd Gwener 18 Chwefror.

Bydd y Brifysgol ar agor o hyd ar gyfer gwasanaethau hanfodol yn unig, ond rydym yn cynghori staff yn gryf i weithio gartref lle bo hynny’n bosibl, ac i fyfyrwyr beidio â mynd i’r campws.

Bydd darlithoedd oedd wedi’u cynllunio ar gyfer dydd Gwener yn cael eu cyflwyno ar-lein lle bo hynny’n ymarferol, ac mae neges ar wahân wedi’i hanfon at fyfyrwyr y prynhawn yma.

Fel arfer, rydym yn ddiolchgar i’r cydweithwyr hynny fydd yn gweithio ar y campws yfory i gefnogi’r gwasanaethau hanfodol hynny.

Cofion gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am: