Skip to main content

Newyddion Aelodau’r BwrddNewyddion yr Is-GanghellorY diweddaraf am Gyfarfodau

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru a symud at ‘lefel rhybudd 2’

23 Rhagfyr 2021

Annwyl gydweithiwr

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe, roeddwn yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut rydym yn ymateb.

Rwy’n ymwybodol bod rhai ohonoch ar wyliau, felly hoffwn bwysleisio nad ydw i’n gofyn am unrhyw gamau gweithredu ar unwaith yn y neges hon. Os byddai’n well gennych rhoi’r neges o’r neilltu tan y flwyddyn newydd a’i darllen bryd hynny, mae pob croeso i chi wneud hynny.

Daeth Tasglu llai nag arfer ynghyd ddoe i adolygu ein dull presennol, a gallaf gadarnhau bod y mesurau diogelwch diweddaraf a amlinellwyd gennym yn Blas yr wythnos diwethaf, ar waith o hyd wrth i Gymru fynd i ‘lefel rhybudd 2‘ ar Ŵyl San Steffan. Mae hyn yn cynnwys annog y rhai ohonoch sy’n gallu gweithio gartref i wneud hynny tan o leiaf 10 Ionawr.

Fe wnaethom hefyd adolygu’r camau angenrheidiol i ailgyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol ar y campws. Mae’r lefel rhybudd newydd yn caniatáu ‘cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell’ mewn ‘sefydliadau addysg uwch’. Mae’r arweiniad hwn gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’i Fframwaith Rheoli Heintiau ar gyfer Addysg Uwch, yn ein galluogi i gadw ein cynlluniau presennol ar gyfer addysgu yn y flwyddyn newydd (yn amodol ar ddiweddariadau pellach gan Lywodraeth Cymru).

Wrth gwrs, bydd y rheolau sy’n ymwneud â lletygarwch yn cael eu rhoi ar waith yn ein lleoliadau ar y campws.

Buom hefyd yn trafod sylw diweddar yn y cyfryngau ynghylch dirwyon posibl am beidio â gweithio gartref. Fe gyfeiriodd y Prif Weinidog at hyn yn ystod ei Gynhadledd i’r Wasg, gan egluro nad rheol newydd yw hon, a’i bod yno i ddiogelu gweithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio dro ar ôl tro bod darpariaeth addysg yn flaenoriaeth iddi, ac rydym yn hyderus bod gan gydweithwyr sy’n gweithio ar y campws ‘esgus rhesymol’ dros wneud hynny.

Yn ogystal â’r neges hon, rydym hefyd yn anfon hysbysiad i’n myfyrwyr drwy ap y Brifysgol fel eu bod yn ymwybodol o’r newid mewn lefelau rhybudd, ac unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys y canllawiau ynghylch hunanynysu sy’n newid yn rheolaidd.

Unwaith eto, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd

Colin Riordan
Is-Ganghellor