Addysgu wyneb yn wyneb, hunanynysu a brechiadau
7 Ionawr 2022
Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 6 Ionawr 2022.
Annwyl fyfyriwr,
Gobeithio y cawsoch chi’r cyfle i fwynhau ac ymlacio dros wyliau’r Nadolig, a Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Cymru ar ‘lefel rhybudd 2‘ ar ddechrau 2022. Mae hyn yn golygu bod cyfyngiadau ychwanegol ar waith – e.e. mewn mannau lletygarwch – ond nid ar gyfer Addysg Uwch.
Felly, bydd eich amserlen addysgu ar gyfer dechrau 2022 yn aros yr un fath i raddau helaeth, a byddwn yn parhau i addysgu wyneb yn wyneb os mai hynny sydd wedi’i drefnu. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’ch trefniadau addysgu neu’ch profiad ehangach ar y campws ac, yn ôl yr arfer, dylech gadw golwg ar eich negeseuon ebost gan y Brifysgol yn rheolaidd. Mae hyn yn bwysig iawn os oes gennych sesiynau addysgu dros y pythefnos nesaf a/neu os ydych yn astudio ar safle Ysbyty GIG Parc y Mynydd Bychan.
Eich diogelwch chi, yn ogystal â diogelwch ein staff a’r gymuned ehangach, yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae angen eich cymorth arnom o hyd i gefnogi’r mesurau diogelwch canlynol:
- Cymerwch brawf COVID-19 cyn dychwelyd i Gaerdydd
- Daliwch ati i wisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do ar y campws, gan gynnwys yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (hyd yn oed pan fyddwch yn eistedd), oni bai bod gan eich cwrs ganllawiau gwahanol ar waith
- Defnyddiwch ein Gwasanaeth Sgrinio COVID-19 drwy drefnu prawf pan fyddwch yn dychwelyd i Gaerdydd, a pharhau i drefnu profion wythnosol
- Darllenwch y canllawiau hunanynysu diweddaraf i Gymru – maent yn newid yn rheolaidd a gallai’r rhain fod yn wahanol i ganllawiau mewn rhannau eraill o’r DU. Os oes rhaid i chi hunanynysu, rhowch wybod i ni drwy fewngofnodi i SIMS ar-lein a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael i chi ar fewnrwyd y myfyrwyr
- Defnyddiwch y codau QR wrth fynd i mewn i’r Llyfrgell a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr gan fod y rhain yn helpu i olrhain cysylltiadau. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn ailagor ddydd Llun 10 Ionawrac yn cynnig cyfuniad o wasanaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn ogystal â mannau astudio hyblyg, tra bod Llyfrgelloedd yn parhau i fod ar agor heb fod angen cadw lle astudio o flaen llaw, a heb gyfyngiadau ar fynediad i’r casgliadau
- Ac yn olaf, os nad ydych eisoes wedi cael eich brechu’n llawn – dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud o hyd i amddiffyn eich hun ac eraill rhag COVID-19. Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad i gael yr hwblyn dros y Nadolig, dylech gael apwyntiad arall erbyn 17 Ionawr 2022. Gallwch hefyd ofyn am apwyntiad drwy lenwi ffurflen Gadael Neb Ar Ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro neu gysylltu â nhw drwy ffonio +44(0)29 2184 1234.
Wrth gwrs, rydym yn parhau i fonitro’r canllawiau sy’n newid o hyd ar gyfer COVID-19, ac rydym yn barod os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o gyfyngiadau ar waith. Bydd eu cyhoeddiad nesaf yfory (7 Ionawr), a byddwn yn anfon hysbysiad atoch drwy’r ap os bydd unrhyw beth yn y neges heddiw yn newid.
Dymuniadau gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014