Nadolig, arholiadau a chefnogaeth
6 Rhagfyr 2021Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 6 Rhagfyr.
Annwyl fyfyriwr
Wrth i wyliau’r Nadolig nesáu, rwy’n ddiolchgar bod y misoedd diwethaf ar y campws wedi bod yn rhai prysurach a mwy bywiog a bob pob un ohonoch chi wedi chwarae eich rôl wrth ein helpu i reoli COVID-19.
Mae Cymru ar ‘lefel rhybudd 0’ o hyd, mae nifer yr achosion yn parhau’n gymharol isel, ac er gwaethaf Omicron, sef yr ‘amrywiolyn sy’n destun pryder’ newydd, rwy’n obeithiol o hyd ein bod, wrth inni gyrraedd 2022, yn gallu cynnig profiad academaidd ac ehangach o lawer ichi tra eich bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol.
Fodd bynnag, dim ond drwy gael eich cefnogaeth y gallwn barhau i fynd i’r cyfeiriad hwn. Mae’n rhaid i bob un ohonon ni gadw at y mesurau diogelwch sydd gennym ar waith, yn enwedig o ran gwisgo gorchuddion wyneb. Mae’n ofynnol eu gwisgo ym mhob lle cyhoeddus dan do ar y campws, ac ar ôl cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae hyn bellach yn cynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr (hyd yn oed pan fyddwch chi’n eistedd i lawr).
Teithio adeg y Nadolig
Mae’n rhaid ichi hefyd barhau i drefnu prawf wythnosol yn ein gwasanaeth sgrinio COVID-19, a hyd yn oed os na fyddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn yn rheolaidd, rydyn ni’n eich cynghori’n gryf i drefnu prawf i sicrhau na fyddwch chi’n mynd â COVID-19 tra’n teithio adeg y Nadolig.
Mae ein gwasanaeth sgrinio yn cau ar 22 Rhagfyr, ond dylech chi drefnu prawf cyn 13 Rhagfyr rhag ofn y bydd cyfnod ynysu 10 diwrnod a chyrraedd adref o hyd mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr (gan ddibynnu ar ba mor bell y bydd yn rhaid ichi deithio!). Byddwn ni’n eich atgoffa hefyd ym mis Ionawr i ddefnyddio’r gwasanaeth unwaith eto, sef trefnu prawf COVID-19 arall erbyn ichi ddychwelyd i Gaerdydd.
Os nad ydych chi eisoes wedi cael eich brechu’n llawn, rydyn ni’n argymell eich bod yn ceisio cael dos cyntaf neu ail ddos cyn teithio.
Nadolig yng Nghaerdydd
Fodd bynnag, os byddwch chi’n aros yng Nghaerdydd yn ystod y Nadolig, mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys digwyddiadau tymhorol a phethau i’w gwneud yn y ddinas, cyngor ar ddiogelwch, a sut i gael gafael ar gymorth yn ystod y cyfnod hwnnw.
Arholiadau ac asesiadau
Byddwch chi’n gwybod eisoes am yr asesiadau y mae eich Ysgol wedi eu cynllunio, ac yn achos rhai bydd hyn yn cynnwys arholiadau. Bydd eich amserlen bersonol ar gyfer arholiadau yn cael ei chyhoeddi ar SIMS ar 6 Rhagfyr. Gallwch chi hefyd ddysgu rhagor am sut i wneud trefniadau eraill, paratoi ar gyfer eich arholiadau, cael gafael ar bapurau’r gorffennol yn ogystal â chymorth o ran eich lles ar y fewnrwyd.
Ar hyn o bryd, ni fydd astudio o bell ar gael bellach ar ôl diwedd semester un, a disgwylir i bob myfyriwr sy’n astudio o bell ar hyn o bryd fod yng Nghaerdydd i fynd i sesiynau addysgu wyneb yn wyneb o ddechrau semester dau (31 Ionawr 2022). Fodd bynnag, fel sy’n digwydd fel arfer, mae hyn yn cael ei adolygu’n gyson wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU newid.
Rydyn ni’n gwrando arnoch chi
Diolch i’r 2,000 ohonoch chi a ddywedodd wrthon ni drwy Gipolwg Caerdydd sut yr oedd pethau ym mis Tachwedd. Mae eich adborth yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad gorau posibl ichi yn y brifysgol, a’n bod yn gallu gwneud newidiadau yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthon ni.
Rydyn ni’n chwilio’n gyson am ffyrdd o wella eich profiad o fod yn fyfyriwr ac rydyn ni’n cyflwyno rhagor o gyfleoedd ichi rannu adborth. Cyn bo hir, byddwn ni’n gofyn ichi werthuso’r sesiynau addysgu a gawsoch chi yn ystod y tymor hwn drwy glicio ar Wella Modiwlau (gallwch chi ddod o hyd iddo drwy’r ffenestr naid yn Dysgu Canolog).
Bydd Cipolwg Caerdydd hefyd yn dychwelyd ar adegau allweddol yn y flwyddyn academaidd ac ym mis Chwefror, bydd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn agor ar gyfer myfyrwyr israddedig yn y flwyddyn olaf. Ar ben y cyfleoedd hyn i roi adborth, byddwn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â chi drwy ein Hyrwyddwyr sy’n Fyfyrwyr, ein Cynrychiolwyr Myfyrwyr a’n prosiectau partneriaeth di-rif.
Eich cefnogi chi
Gall misoedd y gaeaf fod yn gyfnod anodd i rai, ac os oes angen rhywun arnoch chi i siarad ag ef, rydyn ni yma i helpu. Gallwch chi naill ai gysylltu â Chyswllt Myfyrwyr ar-lein neu ymweld â ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Unwaith y bydd y Brifysgol wedi cau ar gyfer y Nadolig, byddwn ni’n parhau i roi ystod o gymorth, gan gynnwys:
- adnoddau hunangymorth
- gweithdai / fideos a recordiwyd eisoes
- Siaradwch yn ddienw am sut rydych chi’n teimlo – lawrlwythwch yr ap TalkCampus
Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar gau rhwng 24 Rhagfyr a 4 Ionawr. Fodd bynnag, gallwch chi gael gafael ar yr adnoddau hyn o hyd ar-lein. Byddwn ni’n rhannu rhagor o gymorth pellach yn ystod cyfnod y Nadolig drwy Newyddion Myfyrwyr.
Gan ddymuno gwyliau Nadolig pleserus a diogel ichi a Blwyddyn Newydd Dda – a chan edrych ymlaen at eich gweld yn 2022.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014