Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Gorchuddion wyneb, brechiadau, Gwasanaeth Sgrinio

30 Medi 2021

Annwyl gydweithiwr

Dyma ebost byrrach nag y byddwn yn ei ysgrifennu fel arfer ym mis Medi, yn bennaf oherwydd yr un ychwanegol ym mis Awst a chan mai cymharol ychydig, er syndod, sydd wedi newid ers hynny. Felly, dyma roi’r newyddion diweddaraf ichi am nifer y myfyrwyr. Gan fod pethau wedi tawelu rydym yn dechrau gweld darlun cliriach. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod yn debygol o gyrraedd nifer o gannoedd yn fwy na’r targed, ond bydd yn rhaid inni aros am ganlyniad y broses recriwtio ôl-raddedig a addysgir, sy’n amrywio’n fawr o’r naill Ysgol i’r llall, fel y gwyddoch rwy’n siŵr. Y newyddion da yw bod penodiadau staff mewn meysydd lle mae pwysau penodol wedi bod yn mynd yn dda, ac mae’r trefniadau cymorth eraill y soniais amdanynt y tro diwethaf yn mynd rhagddynt yn gyflym hefyd.

Yn ein gweminar i bob aelod staff tua diwedd y mis, roedd rhai cwestiynau am ein polisi ynghylch gwisgo gorchuddion wyneb (masgiau). Yn fy ebost diwethaf dywedais fod yn rhaid eu gwisgo yn y mannau hynny o’r Brifysgol y gall y cyhoedd fynd iddynt. Rwyf hefyd eisiau bod yn gwbl glir bod yn rhaid gwisgo masgiau mewn lleoliadau addysgu, er y gellir eu tynnu wrth siarad er mwyn helpu i bobl ddeall. Efallai y bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i athrawon. Fodd bynnag, dylai pawb yn y dosbarth wisgo mwgwd pan na fyddant yn siarad oni bai eu bod wedi’u heithrio. Y llynedd, roedd y myfyrwyr yn cydymffurfio’n dda iawn â’r gofyniad hwn, a byddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd unwaith eto eleni. Os na fydd myfyrwyr yn fodlon cydymffurfio, fodd bynnag, caiff staff ofyn iddynt ymadael â’r dosbarth, gan dynnu eu sylw at ein Hymrwymiad Cymunedol, os bydd angen. Byddwn yn dangos sleid amlwg mewn ystafelloedd dosbarth sy’n atgoffa pawb o’u dyletswyddau. O ganlyniad, bydd modd rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw fyfyriwr sy’n torri’r Ymrwymiad Cymunedol. Mawr obeithiaf mai prin iawn fyddai achosion o’r fath, ac mai dull pragmatig o weithio ar y cyd fyddai’r norm, ond mae’n bwysig bod yn glir am ein safbwynt ar y mater hwn.

Yr arf grymusaf sydd gennym yn erbyn y coronafeirws, wrth gwrs, yw brechu pobl. Rydym eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i bawb sydd eisiau cael eu brechu i wneud hynny, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. I’r perwyl hwnnw, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr yn y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i lansio canolfan frechu dros dro yn Undeb y Myfyrwyr, a bydd myfyrwyr yn cael gwybod am yr opsiwn hwn pan fyddant yn ymrestru. Ar ôl y cyfnod ymrestru bydd y ganolfan yn symud i neuaddau preswyl Tal-y-bont er mwyn cyrraedd cynifer o fyfyrwyr â phosibl. Bachwch ar unrhyw gyfle fydd gennych i roi gwybod i fyfyrwyr am yr opsiwn hwn, a gobeithio y gallwn, gyda’n gilydd, annog cynifer o fyfyrwyr â phosibl i gael eu brechu.

Yn yr un modd, anogwch y myfyrwyr i gael eu profi’n rheolaidd. Gall staff a myfyrwyr nad oes ganddynt unrhyw symptomau gael profion yn rhad ac am ddim yn ein Gwasanaeth Sgrinio, ac os caiff cynifer o staff a myfyrwyr â phosibl eu profi unwaith neu ddwywaith yr wythnos, byddwn yn cael gwybod yn gynt os bydd nifer yr achosion yn cynyddu’n gyflym, ac yn gallu eu hatal yn haws oherwydd hynny. Gan fod pethau bellach wedi dechrau agor, mae feirysau eraill yn cylchredeg ac efallai y bydd gan bobl fân symptomau (bod dan dipyn o annwyd ac ati) yr hoffent gael prawf PCR ar eu cyfer. Os felly, diben ein Gwasanaeth Sgrinio yw osgoi ymlediad unrhyw haint, felly mae modd ei ddefnyddio o hyd.

Rydym yn cynnal ein harferion hylendid, ac rydym yn sicrhau bod awyru yn ystafelloedd y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae ffenestri a baentiwyd ac sydd ynghau ers degawdau yn cael eu rhyddhau er mwyn gallu eu hagor, ac mae awyru mecanyddol yn cael ei osod er mwyn sicrhau bod digon o awyr iach yn gallu dod i mewn.

Gwyddom fod myfyrwyr yn awyddus iawn i ddychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, ac er ei bod yn bosibl bod rhai sesiynau yn gweithio’n well o ran addysgeg wrth  eu cynnal ar zoom neu blatfform tebyg, bydd y mesurau uchod yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i wneud llawer mwy o addysgu wyneb yn wyneb na’r hyn a oedd yn bosibl y llynedd.

Un pwynt olaf: Rwyf wedi sôn o’r blaen am ein harbenigedd mewn gwyliadwriaeth genomig sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Yr hyn y mae’n ei olygu yw y gallwn gadw llygad barcud ar amrywiolion sy’n peri pryder, ac hyd yma ymddengys bod goruchafiaeth yr amrywiolyn delta wedi sicrhau nad yw’r amrywiolion eraill yn gallu ymledu’n fwy. Fodd bynnag, byddwn yn cael gwybod yn gynnar am unrhyw newidiadau yn ôl pob tebyg, ac yn y cyfamser gallwn fod yn hyderus y bydd y cyfuniad o lefelau uchel o frechu (rhwng 80% a 90% ymhlith ein myfyrwyr ac mae’r nifer yn cynyddu), profion rheolaidd, gwisgo masgiau yn ogystal â mesurau hylendid eraill yn cynnig cryn dipyn o ddiogelwch cymunedol.

Hoffwn ddod â fy neges i ben drwy eich sicrhau bod eich ymdrechion ar y cyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn. Drwy weithio gyda’n gilydd rydym yn cyflawni’r deilliannau gorau posibl i’n myfyrwyr sy’n haeddu mwynhau bywyd prifysgol yn ogystal â gwneud camau breision yn eu haddysg. Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar fin agor (bydd y darlithoedd yn dechrau yno ar 4 Hydref) a chredaf y bydd ein myfyrwyr yn gwneud defnydd helaeth o’r holl gyfleusterau sydd yno i gymdeithasu ac ymarfer dysgu cymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ffynnu pan fyddwn yn  rhyngweithio â phobl eraill, ac er ei bod yn bwysig iawn parchu ffiniau ein gilydd, rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn barhau i wneud y gorau o’r sefyllfa (lawer gwell) sydd gennym ar hyn o bryd. Hoffwn ddiolch i bob un ohonoch chi am eich ymrwymiad i’n myfyrwyr, a dymunaf y gorau i bawb ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor