Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y flwyddyn academaidd newydd (3 o 3 ebost)

27 Medi 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 27 Medi.

Annwyl Fyfyriwr,

Mae’n wythnos ymrestru bellach i lawer ohonoch chi, ac mae’n bleser gen i eich croesawu yn ôl wyneb yn wyneb, neu ar-lein os nad ydych chi wedi gallu ymuno â ni ar y campws hyd yn hyn.  Roedd yn bleser gen i hefyd gwrdd â rhai ohonoch chi yn ystod ymweliad ag un o’n neuaddau preswyl yr wythnos ddiwethaf ac roedd yn wych gweld y broses honno ar waith.

Wrth inni ddod at ein gilydd ar gyfer dechrau semester yr hydref dyma gyfle gwych i gydnabod a dathlu ein cymuned gyfoethog ac amrywiol. Gan fod mwy na 33,000 o fyfyrwyr a 8,000 o staff, sy’n cynrychioli mwy na 130 o wledydd ledled y byd, anhygoel o beth yw’r amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau rydyn ni’n eu rhannu ac mae hyn oll yn rhoi cyfleoedd dirifedi inni wneud ffrindiau, dysgu, cefnogi a thyfu gyda’n gilydd.

Hyderaf fod y ddau ebost diwethaf a anfonais wedi bod o werth o ran deall sut mae COVID-19 yn parhau i effeithio ar ein prifysgol ynghyd â’r goblygiadau wrth ichi amddiffyn eich hun a phobl eraill. Yn yr un modd, mawr obeithiaf fod yr wybodaeth i’ch helpu i ymgartrefu a chael cymorth wedi bod yn ddefnyddiol. Mae ebost heddiw yn rhoi’r newyddion diweddaraf sy’n adlewyrchu’r pynciau mwyaf perthnasol ar gyfer yr wythnos hon.

Coronafeirws COVID-19

Mae Cymru ar lefel rhybudd sero o hyd. Fodd bynnag, allwn ni ddim cymryd hyn yn ganiataol gan y bydd lefelau rhybudd yn codi os bydd Llywodraeth Cymru o’r farn bod hyn yn angenrheidiol i ddiogelu diogelwch y cyhoedd. Fel y mae pob un ohonon ni yn ei wybod, nid yw’r pandemig drosodd ac mae’r feirws yn parhau i gylchredeg, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein gilydd.

Rwy’n ymwybodol y bydd myfyrwyr yn bryderus am COVID-19 ond rwyf eisiau eich sicrhau ein bod yma i’ch helpu chi.

Er budd diogelwch pawb, os oes gennych symptomau COVID-19, mae’n bwysig eich bod yn mynd am brawf Coronafeirws a’n hunanynysu tan i chi gael eich canlyniadau. Dylech hefyd wneud yn siŵr nad ydych yn cario’r feirws heb wybod drwy ddefnyddio ein gwasanaeth sgrinio yn rheolaidd – gallwch drefnu apwyntiad mor aml ag y mynnwch.

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, mae’n bwysig eich bod yn cofrestru gyda meddyg neu’n cysylltu â’ch meddygfa i ddiweddaru’ch manylion cyswllt, fel y gallwch chi fynd i gael gofal yn rhwydd pe bai angen.

Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd os bydd yn rhaid ichi hunanynysu, ond mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i ni drwy SIMS Ar-lein, yn dilyn y canllawiau, nad ydych chi’n gadael eich llety a’ch bod yn defnyddio’r cymorth sydd ar gael.

Ers imi ysgrifennu y tro diwethaf, mae ein canolfannau brechu dros dro bellach ar agor ichi drefnu apwyntiad. Hefyd, nodyn atgoffa bod yn rhaid ichi wisgo masg wyneb yn ein hadeiladau a’n lleoedd addysgu. Dylech chi hefyd gadw at unrhyw fesurau diogelwch yn unol â chyfarwyddyd eich ysgol neu’r sefydliadau y byddwch chi’n ymweld â nhw fel rhan o’ch cwrs neu leoliad.

Os ydych chi wedi teithio o dramor byddwch chi’n gallu hawlio ad-daliad am eich cwarantîn a chostau profion. Caiff yr hawliadau eu gwneud drwy SIMS a disgwyliwn allu rhannu rhagor o fanylion am sut i wneud hawliad erbyn canol mis Hydref. Cadwch eich derbynebau a phrawf o dreuliau yn ddiogel a sylwer y bydd angen cyfrif banc y DU arnoch chi.

Os ydych chi’n bwriadu ymuno â ni yng Nghaerdydd ddydd Llun 4 Hydref 2021 neu ar ôl hynny, byddwch yn ymwybodol y bydd yn rhaid ichi ddilyn y rheolau diweddaraf ar gyfer teithio rhyngwladol.

Dechrau’r flwyddyn academaidd newydd

Yn ystod yr haf, rydyn ni wedi bod yn gwneud gwelliannau i wella eich profiad fel myfyriwr, gan gynnwys dechrau cyflwyno rhwydwaith di-wifr newydd. Bydd yn rhaid ichi gofrestru neu ailgofrestru eich dyfeisiau i sicrhau eu bod yn gweithio ar draws y campws. Mae Turnitin a Dysgu Canolog  hefyd wedi cael eu huwchraddio i’r fersiynau diweddaraf a bellach mae ganddyn nhw ryngwynebau newydd yn ogystal â rhagor o ymarferoldeb a hygyrchedd.

Rydym yn deall bod myfyrwyr yn awyddus i gael eu hamserlenni, a gallwn gadarnhau y bydd amserlenni darlithoedd ar gael erbyn diwedd yr wythnos hon ar Fy Amserlen. Gallwch chi hefyd weld eich amserlen addysgu gan ddefnyddio’r ap myfyrwyr.

Gobeithio eich bod eisoes wedi dechrau dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr. Mae ymuno â chlybiau a chymdeithasau yn ogystal â chwrdd â thîm y Gaplaniaeth yn llesol ichi, gan fod hyn yn dod â chi’n agosach at fyfyrwyr sy’n rhannu’r un diddordebau â chi, ac mae hyn yn hanfodol ichi deimlo’n rhan o’r gymuned o’ch cwmpas. Os nad ydych chi ar y campws, cadwch lygad am ddigwyddiadau ar-lein.

Gan ein bod wrthi’n trafod manteisio i’r eithaf ar eich bywyd yn fyfyriwr, bydd ein Canolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd yn agor ym mis Hydref. Os bydd angen cymorth arnoch chi neu ar ffrind, mae croeso mawr ichi gysylltu â’n timau Bywyd Myfyrwyr sy’n cynnig ystod eang o wybodaeth, gwasanaethau a digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys Iechyd a Lles Myfyrwyr, sy’n rhoi cymorth, a hynny heb farnu. Maen nhw hefyd yn gallu eich helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol.

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddechrau, rwy’n eich annog i leisio eich barn fel myfyriwr o’r diwrnod cyntaf un. Rhowch wybod inni sut rydych chi’n dod yn eich blaen drwy ddefnyddio’r drefn gwerthuso modiwlau Cipolwg Caerdydd. Byddwn ni hefyd yn rhoi manylion am ragor o gyfleoedd ichi leisio eich barn drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth a’r ffaith eich bod yn cymryd rhan.

Mawr obeithiaf y cewch y dechrau gorau i’r flwyddyn ac y gallwch chi helpu pobl eraill drwy hyrwyddo ein hymrwymiad i’r gymuned a thrwy drin pob aelod o’n cymuned â pharch, cwrteisi ac mewn ffordd ystyriol.

Bydda i’n anfon fy ebost nesaf erbyn diwedd mis Hydref. Fodd bynnag, bydda i’n cysylltu cyn hynny os bydd unrhyw ddatblygiadau mawr y dylech chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Yn y cyfamser, cadwch lygad am Newyddion Myfyrwyr a diweddariadau eraill, ac os oes gennych chi gwestiynau cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr