Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y flwyddyn academaidd newydd (2 o 3 ebost)

21 Medi 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 20 Medi.

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 20 Medi.

Annwyl Fyfyriwr,

Mae wythnos wedi mynd heibio ers fy ebost diwethaf, a gobeithio eich bod, fel minnau, yn edrych ymlaen at ddechrau’r flwyddyn academaidd a’r cyfle i ddal i fyny gyda myfyrwyr eraill a staff.

Rwy’n falch iawn o rannu’r newyddion ein bod wedi cael ein henw’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru gan Good University Guide 2022 The Times a The Sunday Times. Mae hyn, yn ogystal â chael ein disgrifio fel ‘cyrchfan sy’n apelio’n fawr’, yn arbennig o galonogol ac yn gosod y tôn, gyda lwc, ar gyfer blwyddyn hynod gadarnhaol i’r holl fyfyrwyr.

Wrth i lawer ohonoch chi gyrraedd a dechrau ymgyfarwyddo â bywyd myfyriwr dyma gyfle gwych imi dynnu sylw at y newyddion diweddaraf a phwysig am COVID-19 yn ogystal â rhai o’r gwasanaethau a’r mathau o gymorth yma i’ch helpu chi i ymgartrefu.

Mesurau diogelwch ynglŷn â’r Coronafeirws COVID-19 ar y campws

Gallwch chi weld ein cyngor a’n canllawiau diweddaraf am y Coronafeirws COVID-19 ar y fewnrwyd, sy’n cynnwys ein negeseuon diweddaraf:

  • Bydd addysgu wyneb yn wyneb ar y campws yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau, seminarau, gwaith labordy a gweithdai llai o faint. Bydd rhai darlithoedd ar-lein o hyd, ond pan fydd mesurau diogelwch yn caniatáu bydd modd cynnal darlithoedd mwy o faint. Byddwn ni’n parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn adolygu ein dulliau addysgu yn gyson. Ein disgwyl yw y byddwn ni’n gwneud defnydd llawn o’n lleoedd addysgu erbyn mis Ionawr 2022.
  • Bydd angen pàs COVID y GIG arnoch i allu mynd i ddigwyddiadau a chlybiau nos o ddydd Llun 11 Hydref. Dyma fanylion am sut y gallwch gael pàs COVID y GIG yng Nghymru.
  • Bydd canolfannau brechu dros dro ar agor ar y campws. Rydyn ni’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a byddwn ni’n rhoi rhagor o fanylion ac apwyntiadau y bydd modd eu trefnu ar y fewnrwyd cyn gynted ag y bydd y trefniadau hyn wedi’u cadarnhau.
  • Bydd systemau awyru mecanyddol a naturiol ar waith o hyd a bydd ein tîm Ystadau yn parhau i’w monitro fel rhan o’n mesurau diogelwch er mwyn lleihau achosion posibl o halogi yn yr awyr.

Fel y soniais yr wythnos diwethaf, gwiriwch eich ebyst yn rheolaidd a chadwch lygad am negeseuon gan eich Ysgol a fydd yn rhoi gwybod am unrhyw fesurau a threfniadau pellach sy’n benodol i’ch Ysgol a’ch rhaglen astudio.

Ymgartrefu ar y campws ac ar-lein

Mae yna ystod wych o brofiadau y gallwch chi eu mwynhau pan fyddwch chi’n cychwyn ar eich astudiaethau ac wrth ichi addasu i fywyd prifysgol. Mae gennym dimau ledled y brifysgol sy’n cynnig cefnogaeth a chyfleoedd, gyda chyfuniad o weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gael i’w ddefnyddio fel sy’n addas i chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mae gwneud ffrindiau newydd, mynd i ddigwyddiadau yn ogystal ag ymuno â chlybiau a chymdeithasau yn hanfodol ar gyfer bywyd myfyrwyr ac rydyn ni’n cynnig llawer o gyfleoedd drwy’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
  • Nid yw hiraethu am gartref yn brofiad anghyffredin a gall y newidiadau a’r heriau yn sgîl y pandemig waethygu’r teimlad hwn. Defnyddiwch y strategaethau a’r cymorth sydd gennym.
  • Mae pryderon ariannol yn ymwneud ag oedi o ran cyllid, ac mae cyllidebu a chaledi ariannol yn realiti yn achos nifer o bobl. Ar ben hyn mae’n faich nad oes neb ei eisiau ond gallwn ni eich cynorthwyo yn hyn o beth
  • Gall addasu i fywyd yn y DU a byw yn y DU fod yn wahanol iawn i fywyd dramor ac rydyn ni’n rhoi cefnogaeth i’ch helpu chi yn hyn o beth.
  • Mae cefnogaeth gan gyd-fyfyriwr yn ffordd arall o gael cefnogaeth drwy ofyn cwestiynau i gael barn myfyrwyr eraill. Dewch i wybod rhagor am ein tîm Bywyd Preswyl a Mentoriaid Myfyrwyr.

Am bynciau a chwestiynau ychwanegol mynnwch gip ar y fewnrwyd yn y lle cyntaf.

Yn olaf, mae bod â’ch cerdyn adnabod myfyriwr gyda chi yn hanfodol i ddefnyddio adeiladau’r brifysgol yn ogystal â dangos pwy ydych chi a chael defnyddio’r llyfrgell a’r adnoddau e-ddysgu. Os nad oes gennych chi un eisoes, mae’n rhaid ichi drefnu apwyntiad i gasglu eich un chi.

Yn ebost yr wythnos nesaf bydda i’n rhannu mwy o ddiweddariadau sy’n ymwneud â COVID-19 ynghyd â gwybodaeth ynglŷn ag edrych ar ôl eich hun, ymddygiad myfyrwyr yn ogystal â sut i roi eich barn i ddweud wrthon ni beth yw eich barn am eich profiad fel myfyriwr yn y brifysgol. Yn y cyfamser, os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr