Diolch yn fawr, Brifysgol Caerdydd
27 Gorffennaf 2021Diolch i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd am bopeth yr wyf wedi’i ddysgu, am eich cefnogaeth a’ch anogaeth ond, yn anad dim, am yr hwyl a’r cyfeillgarwch.
Pan gyrhaeddais Gaerdydd ym 1980 fel myfyriwr Peirianneg di-brofiad, cwympais mewn cariad â’r lle gwych hwn a’i gymuned ryfeddol ac amrywiol, ond ni ddychmygais erioed y byddai fy nghysylltiad â’r lle’n para mor hir. Ym 1980, roedd Caerdydd yn ddinas wahanol iawn. Nid oedd Bae Caerdydd yn bodoli, ond roedd Bae Teigr – ardal y dociau – yn llawn bywyd fel cymuned aml-ethnig hynaf Cymru. Gwnaeth morwyr o bob rhan o’r byd, o fwy na 50 o wahanol wledydd, ymgartrefu yng Nghaerdydd a chreu awyrgylch cyfoethog a bywiog yn ne’r ddinas. Fel myfyriwr, roedd tafarndai fel The Packet a chlybiau fel Casablanca’n ffordd wych o ddod yn gyfarwydd â’r rhan honno o’r ddinas yn gyflym. Roedd pobl yn gallu gweld perfformiadau anhygoel yn The Moon Club a Smileys, a oedd rywle o gwmpas yr Aes, ac roedd o leiaf dair sinema a chlwb Top Rank, wrth gwrs, ar Heol y Frenhines. Er hynny, daeth Royal Oak ar Broadway yn dafarn leol i mi, lle cafwyd croeso cynnes gan y dafarnwraig, Kitty, a cherddoriaeth fyw wych (gan gynnwys perfformiadau gan Tich Gwilym a Burke Shelley o Budgie) a lle cwrddais â phobl a fyddai’n dod yn ffrindiau gydol oes.
Pan raddiais o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol De Cymru (UWIST) ym 1984, dychwelais i weithio yn Rolls-Royce (a oedd wedi noddi fy ngradd-brentisiaeth), ond roeddwn yn gweld eisiau cyffro’r sy’n gysylltiedig â gwneud ymchwil labordy a darganfod. Felly, dychwelais i Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd (UWCC), enw’r Brifysgol erbyn hynny, i wneud PhD mewn Allyriad Acwstig ar gyfer Canfod Difrod – yr hyn y byddwn yn arbenigo ynddo maes o law. Ni fyddai fy mhrosiect israddedig blwyddyn olaf na’m PhD wedi bod yn bosibl heb y technegwyr labordy gwych, yr academyddion gwybodus, y gweinyddwyr ymroddedig a’r myfyrwyr brwdfrydig – mae’r rhwydwaith hwn o gefnogaeth yn ein proffesiwn yn wirioneddol anhygoel ac yn rhywbeth i’w ddathlu. Mwynheais hefyd fod yn rhan o undeb myfyrwyr gwych, i’r fath raddau y buddsoddais mewn aelodaeth oes ohoni cyn gynted ag y gorffennais fy PhD – bargen am £5, yn fy marn i, sy’n golygu y gallaf fynd i unrhyw ddigwyddiadau i fyfyrwyr sy’n cael eu cynnal yno o hyd, er mawr ddifyrrwch i’r staff diogelwch min nos.
Cymerais y sgiliau a ddysgais wrth astudio ar gyfer fy ngradd israddedig ac wrth wneud fy PhD i fy rôl ddiwydiannol yng nghwmni lleol AB Electronic Products, ac roedd bob bwriad gennyf aros yn y diwydiant. Fodd bynnag, ym 1990, cododd cyfle yn y Brifysgol i greu gradd newydd a oedd yn cyfuno llawer o elfennau Peirianneg â lleoliadau gwaith yn y diwydiant, ac roedd hyn yn rhywbeth a wnaeth fy ysbrydoli’n fawr. Felly, cymerais y cam dewr (cam ffôl, yn ôl rhai pobl ar y pryd) i ddechrau contract blwyddyn o hyd. Dyna oedd dechrau gyrfa 31 mlynedd fel academydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweithio gydag unigolion a thimau gwirioneddol anhygoel sy’n sicrhau ein bod yn addysgu i safon uchel ac yn gwneud ymchwil ragorol – dau beth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwybod bod addysg yn newid bywydau, a gallaf ddweud yn sicr bod yr addysg yr wyf wedi’i chael ym Mhrifysgol Caerdydd, fel myfyriwr ac fel aelod o’r staff, wedi newid fy mywyd yn bendant. Pan oeddwn yn 18 oed, ni fyddwn erioed wedi dychmygu’r cyfleoedd fyddai’n cael eu rhoi i mi, ac rwyf am ddiolch i’r nifer fawr o fyfyrwyr a chydweithwyr yr wyf wedi cael y pleser o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd.
Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa’n gweithio yn yr Ysgol Peirianneg, ac mae gennyf lawer o atgofion hapus o’r bobl arbennig iawn sydd wedi gweithio yno. Rwyf bob amser yn dweud bod Peirianneg, fel disgyblaeth, yn gêm i dîm, a’r ysbryd tîm rhagorol yn yr Ysgol Peirianneg sydd wedi bod yn sail i’w llwyddiant. Daeth y darlithwyr a’r technegwyr a oedd wedi fy addysgu ac fy nghefnogi, yn gydweithwyr imi. Aeth y myfyrwyr a addysgais ymlaen i fod yn academyddion. Mae’r talent cartref hwn wedi’i phlethu â’r bobl anhygoel o bob rhan o’r byd sydd wedi mwynhau ymgartrefu yng Nghaerdydd a chydweithio i ddatblygu atebion arloesol ym maes Peirianneg. Diben hyn oll yw creu cymdeithas fwy cynaliadwy, cynhwysol, diogel a ffyniannus ac ysbrydoli cenedlaethau o beirianwyr i bennu’r safonau uchaf ar gyfer rhagoriaeth dechnegol, moeseg a phroffesiynoldeb. Rwyf wedi mwynhau addysgu, yn enwedig y sesiynau ymarferol, ac wedi gwerthfawrogi’r ffaith bod yr Ysgol Peirianneg wedi cefnogi gweithgaredd Formula Student, sydd wedi rhoi profiad dysgu mor wych i lawer o’n peirianwyr. Ni fyddai fy ymchwil fy hun (canfod difrod mewn strwythurau) wedi bod yn bosibl heb waith caled y myfyrwyr a’r cydweithwyr sydd wedi gweithio a helpu ei gilydd dros y blynyddoedd, ac rwy’n wirioneddol falch o’r hyn y mae’r grŵp perfformiad strwythurol i gyd wedi’i gyflawni gyda’i gilydd.
Mae’r Brifysgol wedi gweld rhai cyfnodau heriol dros y blynyddoedd. Rydym wedi wynebu problemau ariannol a sefydliadol ond, gyda’n gilydd, rydym wedi gweithio ein ffordd drwy’r rhain, ac rwy’n credu o ddifrif, ar ôl pob newid, ein bod ychydig yn gryfach ac yn fwy abl i wireddu ein dyheadau. Mae’r Brifysgol heddiw, sy’n uchel ei pharch yn rhyngwladol ac yn un o brifysgolion Grŵp Russell, yn wahanol iawn i’r holl sefydliadau a wnaeth uno a datblygu i greu Prifysgol Caerdydd, ond rydym wedi cadw’r gwerthoedd pwysig, sef parchu a datblygu ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau ehangach rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gasgliad o unigolion sy’n croesawu grŵp amrywiol o bobl o bob rhan o’r byd i deulu Prifysgol Caerdydd ac yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn iawn ac yn gwireddu eu potensial. Ychydig o bethau sy’n rhoi mwy o foddhad i mi na chlywed gan gynfyfyrwyr ledled y byd sydd wedi mynd ymlaen i bethau gwych ym mha faes bynnag y maent wedi’i ddewis ac sydd mor falch o fod wedi astudio yma. Rwyf hefyd wrth fy modd yn clywed sgwrs ar ddamwain ynghylch sut mae rhywun ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyfrannu at rywbeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn lleol. Rwy’n credu ei bod yn eithaf rhyfeddol sut rydym yn llwyddo i gadw’r cydbwysedd hwnnw o ran effaith leol ac effaith fyd-eang, ac mae hynny oherwydd yr holl staff anhygoel yn y Brifysgol sydd â diddordeb angerddol yn yr hyn y maent yn ei wneud. Rydym hefyd yn rhagori am ein bod yn brifysgol Grŵp Russell o Gymru, ac mae ein dwyieithrwydd yn hynod ddeniadol ac ysgogol. Mae ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ yn gyfarwydd i holl gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru, ond rwy’n credu ei fod hefyd yn wir am y Brifysgol.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn gryf, yn addasu ac yn ffynnu. Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n ddoeth mewn cyfleusterau newydd er mwyn i’w phobl barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth, ac mae ganddi gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a bod yn garbon-niwtral. Mae’r patrymau tywydd rhyfedd, yn enwedig y rhai rydym wedi’u gweld eleni, yn ein hatgoffa ar frys bod yn rhaid i bob un ohonom wneud popeth y gallwn i wneud cynnydd yn gyflymach yn y maes hwn. Mae’r gwaith a wnaed ar y cyd mewn meysydd fel cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi gwella’r gweithle’n sylweddol, ond nid da lle gellir gwell. Mae iechyd, diogelwch a lles y staff a’r myfyrwyr bob amser yn flaenoriaeth, a gobeithio bod y timau sydd wedi cefnogi a gwella’r gwaith hwn, sydd wedi bod yn arbennig o hanfodol eleni, yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb am eu hymroddiad a’u hymrwymiad.
Cyn i mi fynd yn emosiynol, byddaf yn gorffen â geiriau Bendigeidfran o’r Mabinogion, “A fo ben, bid bont” sydd fwy neu lai’n golygu, “Os ydych am fod yn arweinydd, byddwch yn bont”. Mae bod yn bont yn golygu estyn allan ac ymgysylltu i alluogi eraill i gyflawni. Dyna beth mae pobl ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i wneud yn dda bob amser, a dyna pam rwyf mor falch o fod yn rhan o deulu Prifysgol Caerdydd.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014