Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cefnogi staff

21 Ionawr 2021

Darllenwch neges a anfonodd Sue Midha, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Claire Sanders, Prif Swyddog Gweithredu at yr holl staff heddiw (21 Ionawr 2021).

Annwyl bawb,

Ysgrifennwn atoch heddiw i rannu gwybodaeth am fesurau i gefnogi staff yn ystod y cam hwn o’r pandemig. Rydym hefyd am atgoffa staff ynglŷn â’r mesurau diogelwch yr ydym wedi’u rhoi ar waith ar gyfer y rhai sy’n gorfod bod ar y campws.

Rydym yn dra ymwybodol o’r pwysau, y straen a’r pryder y mae’r pandemig yn eu creu. Gwyddwn fod staff â chyfrifoldebau gofal yn ceisio gweithio ochr yn ochr ag ymdopi â gofalu am blant ac ymrwymiadau eraill o bwys. Gallai staff eraill fod yn wynebu anawsterau o ran eu lles oherwydd yr unigedd a ddaw yn sgîl y cyfnod cloi.

Trwy gydol cyfnod y pandemig, rydym wedi parhau i gynnig gwasanaethau cefnogi a gwybodaeth am les – rhagor am sut i fanteisio ar y gefnogaeth hon.

Ddoe, bu Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn trafod pwysau’r cyfnod cloi presennol a sut i gefnogi staff.  Siaradwch â’ch rheolwr llinell am unrhyw heriau rydych chi’n eu hwynebu cyn gynted ag y byddan nhw’n codi.  Bydd hyn yn eu galluogi i’ch helpu chi a thrafod addasiadau rhesymol i’ch llwyth gwaith, blaenoriaethau, oriau gwaith a sut i fanteisio ar ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael.  Felly, rydym hefyd yn annog rheolwyr llinell i ystyried:

  • adolygu ymrwymiadau cyfarfodydd a chanslo cyfarfodydd nad ydynt yn gwbl angenrheidiol, os oes modd
  • byrhau cyfarfodydd lle bo’n bosibl, er enghraifft i 45 munud yn hytrach nag awr, a lleihau nifer yr eitemau ar agendâu er mwyn gorffen mewn pryd -gallwch newid hyd diofyn cyfarfodydd yn Outlook
  • neilltuo amser i ymlacio yn ystod y diwrnod gwaith drwy annog pobl i gymryd egwyl dros amser cinio ac osgoi cynnal cyfarfodydd yn ystod y cyfnod hwn
  • parhau i gael dydd Gwener ‘di-gyfarfod’ a ‘di-ebost’, neu ailgyflwyno hynny
  • galluogi staff i ddefnyddio gwyliau blynyddol mewn ffyrdd mwy hyblyg e.e. rhannu gwyliau yn oriau er mwyn gallu cymryd rhannau o ddiwrnodau i ffwrdd
  • galluogi staff i weithio’n hyblyg y tu allan i drefniadau safonol os yw hynny o gymorth.

Os ydych chi’n gweithio yn unol â chynllun gweithio hyblyg dros dro Covid-19 ar hyn o bryd, gallwch wneud cais i ymestyn y trefniadau hyn (hyd at 31 Awst 2021) neu drafod trefniant gweithio hyblyg dros dro newydd gyda’ch rheolwr llinell.

Ar ben hynny, gall y rhai sydd â dibynyddion:

Cadw ein campws yn ddiogel

Yn Blas yr wythnos diwethaf, fe wnaethom rannu gwybodaeth am y camau rydym yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod ein campws yn ddiogel. Rydym wedi adolygu’r Asesiad Risg Sefydliadol ac wedi gallu cadarnhau bod ein rheolyddion cyfredol yn briodol ac yn gymesur. Mae’r Is-Ganghellor wedi cael cyngor ar y mater hwn gan arbenigwyr mewnol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae pawb wedi cadarnhau bod ein camau cyfredol yn effeithiol o hyd.

Mae’r oedi cyn dechrau’r rhan fwyaf o addysgu wyneb yn wyneb wedi lleihau nifer y bobl ar y campws yn sylweddol. Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion a’n hadnoddau ar y gwasanaethau yr ydym yn parhau i’w cynnig ar y campws. Rydym yn annog y staff sydd ar y campws i gael prawf wythnosol. Cofiwch hefyd y gallwch fanteisio ar y gwasanaeth yn amlach er mwyn tawelu meddwl, ar yr amod eich bod yn asymptomatig.

Mae rhai wedi gofyn inni a all staff nad ydynt yn gweithio ar y campws, neu sy’n dod i’r campws o bryd i’w gilydd, ddefnyddio’r gwasanaeth profi. Er bod gennym yr adnoddau ar hyn o bryd i gynnig y gwasanaeth hwn iddynt, rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y staff sy’n dod i’r campws yn rheolaidd. Mae cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru yn gofyn inni aros gartref os oes modd, felly nid ydym yn annog staff i deithio i’r campws i ddefnyddio’r gwasanaeth profi. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo’n arbennig o bryderus, yn asymptomatig, a byddai prawf yn tawelu eich meddwl, mae’r gwasanaeth profi ar gael ar eich cyfer, hyd yn oed os ydych yn gweithio gartref ar hyn o bryd. Rydym yn adolygu’n rheolaidd pwy sy’n cael defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae prosesau ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn helpu staff i deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel ar y campws, ac i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon unigol.   Yn yr un modd â phob mater sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, os oes gennych bryderon ynghylch gweithio ar y campws, trafodwch y rhain gyda’ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Gallwch hefyd fanteisio ar offeryn asesu risg Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithleoedd. Gall staff ofyn am gefnogaeth gan ein darparwr Iechyd Galwedigaethol pe byddai gwybodaeth ychwanegol gan Arbenigwr Iechyd Galwedigaethol o ddefnydd wrth nodi a oes angen addasiadau ai peidio.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, ni fydd yn ofynnol i’r rhai a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel unigolion sy’n gwarchod eu hunain fynd i weithio ar y campws. Rydym hefyd wedi penderfynu mynd gam ymhellach: ni fydd disgwyl i’r rhai sydd yn yr un cartref â rhywun sy’n gwarchod ei hun fynd i weithio ar y campws ychwaith.

Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod sy’n peri pryder i’r holl staff. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu ein mesurau cefnogi a diogelwch ar gyfer staff, ac yn rhoi cymaint o gymorth â phosibl i’n cymuned.

Cofion cynnes

Sue Midha, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Claire Sanders, Prif Swyddog Gweithredu