Newyddion yr Is-Ganghellor

Addysg Uwch a gohirio dechrau addysgu wyneb yn wyneb ymhellach

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (29 Ionawr 2021).

Annwyl gydweithiwr

Ar wahân i coronafeirws a Brexit, pynciau fy ebost diwethaf, mae cryn dipyn wedi digwydd y mis hwn ac mae cryn dipyn ar y gweill. Fe wnaeth yr Adran Addysg gyfres o gyhoeddiadau am Addysg Uwch tua diwedd mis Ionawr. Er nad yw’r rhain o reidrwydd yn berthnasol i Gymru yn uniongyrchol, gall rhai ohonynt gael sgîl-effeithiau maes o law. Fodd bynnag, ychydig iawn o wybodaeth ddefnyddiol a roddwyd. Cyhoeddiad dros dro oedd ymateb hir-ddisgwyliedig y llywodraeth i Adolygiad Augar ac, ar wahân i fynegi pryder ynghylch faint mae ariannu addysg uwch yn ei gostio a bod angen rheoli hynny, ychydig iawn o eglurder a gafwyd ynghylch bwriad llywodraeth y DU o ran ariannu prifysgolion. Bydd ymateb pellach maes o law, ond am y tro, nid oes unrhyw oblygiadau amlwg i Gymru, ac nid oes rhai uniongyrchol yn sicr. Mae’r newidiadau i’r drefn ariannu yn Lloegr (gan gynnwys cael gwared ar bwysoliad Llundain ar gyfer grantiau addysgu) yn rhai cost-niwtral, felly ni fydd yn effeithio ar fformiwla Barnett. Nid ydym yn gwybod a fydd ffioedd yn gostwng yn y dyfodol, ond nid ydym wedi gweld unrhyw beth amlwg hyd yma i awgrymu y bydd argymhelliad Auger i ostwng uchafswm y ffioedd i £7,500 yn cael ei roi ar waith yn yr adolygiad nesaf o wariant.

Mae’r ffaith nad yw Jo Johnson yn y llywodraeth mwyach, na byd gwleidyddiaeth o ran hynny, yn amlwg wedi golygu na chedwir yn gaeth at y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu. Mae hyn yn amlwg o ymateb y llywodraeth, y bu’n rhaid aros cryn amser amdano, i Adolygiad Annibynnol y Fonesig Shirley Pearce o’r Fframwaith, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Awst 2019. Yr hyn oedd fwyaf arwyddocaol yn yr ymateb oedd y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’r Fframwaith ar lefel pwnc, er gwaethaf yr argymhelliad yn yr adroddiad i wneud hynny. Mae hyn i’w groesawu o ran lleihau llwyth gwaith, ond mae’n werth nodi hefyd bod y llywodraeth yn cytuno â ‘chynnig yr Adolygiad Annibynnol mai gwella ansawdd ddylai fod yn cael y prif sylw yn y Fframwaith’. Amcan gwreiddiol Jo Johnson ar gyfer y Fframwaith oedd asesu ansawdd addysgu ac arwain penderfyniadau cyllido yn unol â’r canlyniad (fel yr ydym yn ei wneud gyda REF). Felly, mae hwn yn wahaniaeth o bwys a rhaid gofyn beth oedd yn bod ar y system flaenorol o sicrhau ansawdd a gwella trwy’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd? O gofio bod gennym ein dull ein hunain o sicrhau a gwella ansawdd yng Nghymru trwy’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd o hyd, a’r ffaith inni gael Adolygiad Gwella Ansawdd llwyddiannus dros ben yn 2020, rhaid gofyn o ddifrif a ddylem gymryd rhan yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu nesaf y tro nesaf y caiff ei gynnal, sef yn 2022 ar sail ymateb y llywodraeth.

A minnau wedi bod yn Is-Ganghellor ers dros ddegawd, mae’n ddiddorol sut mae syniadau sydd wedi’u trafod yn flaenorol a’u gwrthod yn dechrau dod i’r amlwg eto. Rwyf yn sôn yn benodol am Dderbyniadau Ôl-gymwysterau fu’n destun trafodaeth ac ymgynghoriad yn 2011, os wyf yn cofio’n iawn. Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi’r cynnig yn llawn erbyn hyn, sydd yn newid safbwynt o bwys. Fodd bynnag, mae cwestiynau i’w gofyn o hyd ynghylch sut caiff ei gyflwyno o ystyried pryd mae canlyniadau Safon Uwch yn cael eu cyhoeddi a dechrau’r flwyddyn addysgu mewn prifysgolion. Yn ôl pob sôn, mae cyflwyno Derbyniadau Ôl-gymwysterau yn flaenoriaeth, ac os bydd hyn yn digwydd yn Lloegr, go brin y gall Cymru barhau â’r system o gynigion amodol sydd wedi bod ar waith ers bodolaeth UCAS a’r corff oedd yn bodoli cyn hynny, UCCA (Cyngor Canolog y Prifysgolion ar gyfer Derbyn Myfyrwyr, a sefydlwyd ym 1961). Gan gymryd y byddant wedi ystyried y goblygiadau yn llawn, bydd rhaid inni aros am gynnig ar y mater hwn a gobeithio y caiff y llywodraethau datganoledig y cyfle i gyfrannu mewn trafodaethau ar unrhyw gynlluniau yn ddigon cynnar.

Yn ogystal â’r ansicrwydd y mae’r cyhoeddiadau hyn wedi’u creu, mae disgwyl i etholiadau’r Senedd gael eu cynnal eleni (byddai’r rhain ym mis Mai fel rheol, ond gallen nhw gael eu gohirio tan nes ymlaen yn y flwyddyn). Un peth yr ydym yn siŵr yn ei gylch yw y bydd gennym Weinidog Addysg newydd. Gyda lwc, bydd pwy bynnag fydd yn olynu Kirsty Williams yn dangos yr un gallu a sefydlogrwydd ag y gwnaeth hi dros y pum mlynedd ddiwethaf. Un ansicrwydd o bwys yw a fydd y mesur i sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn cael ei gario drosodd i’r senedd nesaf, yn enwedig o ystyried y llu o faterion dybryd sy’n deillio o coronafeirws a Brexit fydd ar agenda’r llywodraeth newydd, pa bynnag ei gwedd.

Wrth gwrs, y cwestiwn llawer mwy o’n blaenau yw sut bydd y byd yn edrych mewn chwe mis, blwyddyn, dwy flynedd? Gallwn fod yn hyderus ynghylch rhai pethau. Un ohonynt, o ran y Brifysgol a phob sefydliad addysgol o ran hynny, yw y bydd y dull cyfunol yn parhau. Bydd y dull cyfunol hwn yn berthnasol nid yn unig i ddysgu ac addysgu, ond hefyd ein ffyrdd o weithio a chwblhau ein hymchwil. Rydym yn gwybod yn fras beth mae dysgu, ymchwilio a gweithio cyfunol wedi’i olygu hyd yma. Fodd bynnag, yr her fydd ystyried sut bydd yn gweithio mewn sefyllfa, er enghraifft, lle mae rhwydd hynt i bobl gymysgu unwaith eto heb unrhyw ragofalon arbennig. Mae’n anochel y bydd y cydbwysedd rhwng rhyngweithio wyneb yn wyneb ac yn rhithwir yn newid, ac mae angen i ni feddwl i ba raddau y bydd yn newid. Bydd hyn yn amrywio yn ôl gweithgaredd a phwnc, felly mae angen cynnal y drafodaeth ym mhob Ysgol, adran ac is-adran. Nid nawr yw’r amser i ddisgwyl i bobl ymgymryd â gwaith ychwanegol. Fodd bynnag, wrth edrych ymlaen, bydd angen i ni ddechrau paratoi ein hunain ar gyfer y dyfodol mewn byd lle bydd cystadleuaeth yn dibynnu llai ar ddaearyddiaeth.

Yn ffodus, er bod dulliau addysgu o bell wedi’u mabwysiadu’n llwyddiannus, rydym yn gwybod bod myfyrwyr yn awyddus iawn i ddod i fyw ac astudio yng Nghaerdydd o hyd. Mae’r galw ar gyfer ein rhaglenni yn uchel o hyd ac rydym wedi gweld cynnydd aruthrol mewn ceisiadau mewn rhai meysydd fel gofal iechyd a phynciau cysylltiedig, cyfrifiadureg a mathemateg, sy’n galonogol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Ym meysydd ymchwil, bydd cyfleoedd i gydweithio’n rhyngwladol ac ymgymryd ag ymchwil agored yn ôl pob tebyg. Byddwn mewn byd lle bydd trosglwyddo syniadau, gwybodaeth a data yn fyd-eang yn broses haws a mwy cyfarwydd. Bydd pobl yn symud llai, nid yn unig oherwydd effaith y pandemig, ond hefyd oherwydd bydd gweithio o bell yn cael ei dderbyn yn fwy eang, ac er mwyn brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. O ran ein harferion ni, rhaid i’r Brifysgol roi sylw strategol i hyn a byddwn yn awyddus i ymgysylltu â chynifer o staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid â phosibl er mwyn trafod y materion hyn wedi i’r argyfwng presennol fynd heibio.

Mae angen rhoi sylw i un elfen arall o coronafeirws. Mae’n amlwg bod y pandemig wedi cyflymu ystod o batrymau sy’n bodoli, gan gynnwys anghydraddoldeb. Mae’r effaith ar gymdeithas wedi amrywio’n aruthrol ac mae wedi achosi niwed sy’n seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys dosbarth cymdeithasol, incwm, ethnigrwydd a rhywedd. Mae effeithiau’r pandemig yn cynnwys argyfwng o ran cynnig cyfle cyfartal ym maes ymchwil; bydd angen inni gynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb er mwyn deall sut mae wedi effeithio ar fenywod a dynion yn wahanol. Gallwn weld sut mae hyn wedi cael effaith eisoes, ac rwyf am eich sicrhau y byddwn yn cymryd y mater o ddifrif yn gyffredinol hefyd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried effeithiau’r cyfnod clo ar faterion fel cyfleoedd i gael dyrchafiad, arwain, cymryd gwyliau, a’r gallu i wneud ceisiadau am gyllid ac ysgoloriaethau ymchwil, i enwi dim ond rhai o’r meysydd posibl sydd wedi’u heffeithio. Byddwn yn ystyried y ffordd orau o fynd i’r afael â hyn ar gyfer ein staff fel ein bod yn gallu meithrin cymuned ymchwil amrywiol a chynhwysol er gwaethaf yr heriau enfawr sy’n ein hwynebu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Yn olaf, fe gofiwch imi sôn yn fy ebost yn gynharach y mis hwn y byddem yn adolygu’r sefyllfa mewn cysylltiad â’r pryderon ynghylch ailgyflwyno addysgu wyneb yn wyneb ar draws ein rhaglenni. Yn y cyfamser mae ein grŵp o gynghorwyr gwyddonol arbenigol wedi adolygu ein polisïau. Ar ôl eu mireinio maent wedi rhoi sicrwydd clir y bydd y gweithdrefnau sydd gennym ar waith yn parhau i fod yn effeithiol o ran lleihau’r risg o drosglwyddo i lefelau derbyniol. Nid yw’r feirws wedi’i drosglwyddo yn ein mannau addysgu hyd yma. Mae hyn yn wir am y sefyllfa cyn y Nadolig yn ogystal â’r rhaglenni lle mae’r addysgu wedi parhau ers y Nadolig mewn cyfnod pan wyddom fod yr amrywiad newydd wedi bod yn cylchredeg yn ein cymunedau.

Fodd bynnag, mae ystod o ffactorau i’w hystyried. Rwy’n ymwybodol iawn o ofynion addysg yn y cartref ar gydweithwyr â phlant iau, ac mae addysgu trwy ddau ddull yn arbennig o heriol. Er ein bod ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwbl hyderus bod ein campws yn ddiogel rhag covid, a bod addysgu wyneb yn wyneb yn ogystal ag ymchwil yn ein labordai yn gallu parhau os bydd pawb yn cadw at y canllawiau, rhaid inni ystyried y sefyllfa oddi ar y campws, gan gynnwys mewn preswylfeydd myfyrwyr. Ar ben hynny, gallech fod wedi gweld cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru a byddwn am sicrhau ein bod, yn ôl yr arfer, yn cyd-fynd â’r canllawiau rydym yn eu derbyn. Byddwn yn dweud mwy am hyn ddechrau’r wythnos nesaf, a bydd Ysgolion yn cadarnhau manylion ar gyfer eu rhaglenni. Fodd bynnag, gallaf ddweud nawr mai ar-lein y bydd y rhan fwyaf o’r addysgu tan Dydd 26 Mawrth (ac eithrio rhaglenni ymarferol a’r rhai sy’n gysylltiedig ag iechyd lle mae angen gweithgaredd ar y campws i fodloni deilliannau dysgu’r rhaglenni). Yn ôl yr arfer, byddwn yn cyfathrebu â myfyrwyr cyn gynted â phosibl a byddwn yn gwahaniaethu yn ôl eu hanghenion penodol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r holl gydweithwyr am eu hymrwymiad i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn cyflawni eu deilliannau dysgu ac yn gallu symud ymlaen gyda’u haddysg yng Nghaerdydd. Byddwn yn awyddus i fod yn gwbl glir ynglŷn â’r goblygiadau cyn gynted â phosibl, ac yn y cyfamser rwyf yn diolch i chi am fod yn amyneddgar.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor