Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariad am ddychwelyd ym misoedd Ionawr a Chwefror, rhwyd ddiogelwch ac ad-daliadau rhent

13 Ionawr 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 13 Ionawr.

Annwyl Fyfyriwr

Yn fy neges ddiweddaraf, soniais y byddaf yn cysylltu unwaith eto i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am nifer o faterion allweddol sy’n gysylltiedig â’n penderfyniad i wthio rhan fwyaf yr addysgu wyneb yn wyneb yn ôl tan 22 Chwefror. Bydd eich ysgol mewn cysylltiad â chi cyn bo hir ynghylch yr hyn y mae hyn yn ei olygu i’ch cwrs (os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny).

Fel yr addawyd, rwy’n rhannu gyda chi y penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar eich profiad academaidd (ac ehangach) gyda ni – ein rhwyd ddiogelwch ac ad-daliadau ar gyfer y rhai mewn llety Prifysgol. Gwnaed y newidiadau hyn gydag Undeb y Myfyrwyr, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi adborth. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer ohonoch wedi ysgrifennu ataf i neu’r Is-ganghellor, a byddwn yn cysylltu â chi cyn bo hir. Mae hyn yn golygu bod neges heddiw ychydig yn hirach na’r arfer, ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hanfodol bod gennych chi’r holl fanylion.

Dull Rhwyd Ddiogelwch
Deallaf fod hyn wedi achosi pryder ymhlith llawer ohonoch, o ystyried y tarfu arnoch. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael adborth gan ein corff myfyrwyr, gan gynnwys gan Undeb y Myfyrwyr a gynhaliodd gyfarfod agored gyda’n myfyrwyr i ddeall eu pryderon. Gwnaethom hefyd adolygu adborth cenedlaethol gan Undebau Myfyrwyr Grŵp Russell. 

O ganlyniad i’r bartneriaeth hon, rydym wedi diweddaru’r pecyn o fesurau (ein dull rhwyd ddiogelwch) i sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi o hyd yn ystod y flwyddyn heriol hon, eich bod yn cael gradd deg sy’n adlewyrchu’ch gwaith caled, a bod eich cymhwyster a’i uniondeb yn cael eu cydnabod.

Mae prif nodweddion y dull rhwyd ddiogelwch hwn ar gyfer 2020/21 yn cynnwys:

  • Bydd Byrddau Arholi yn sicrhau bod y safonau a gyrhaeddwyd gan garfannau myfyrwyr yn 2020/21 yn debyg i flynyddoedd blaenorol i sicrhau nad oes anfantais. Bydd marciau modiwlau carfan 2020/21 yn cael eu cymharu â marciau modiwlau carfannau mewn blynyddoedd blaenorol, ac os oes amrywiaeth nad oes modd ei hesbonio, caiff marciau eu graddio.
  • Ar lefel unigol, rydym hefyd wedi ailgyflwyno’r cyfle ar gyfer canlyniadau heb eu capio h.y. os byddwch yn sefyll asesiadau yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21 (ac eithrio’r cyfnod ailsefyll) ar yr ymgais gyntaf, ond yn methu’r modiwl, ni fyddwch dan anfantais oherwydd bod marciau’r asesiad ailsefyll wedi’u capio.
  • Rydym wedi gwneud newidiadau i’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol i’ch galluogi i hunan-ardystio os oes gennych amgylchiadau esgusodol, er enghraifft, estyniad awtomatig o bythefnos ar gyfer gwaith cwrs neu i ohirio arholiadau neu asesiad â therfyn amser.
  • Defnyddir rheol eilaidd ddiwygiedig o’r llynedd sy’n caniatáu i’r Bwrdd Arholi ddosbarthu graddau yn seiliedig ar broffil marciau, a byddwn hefyd, os ydyw o fudd i fyfyrwyr israddedig, yn cyfrifo marc cyfartalog gradd arall sy’n eithrio asesiadau a gwblhawyd o 16 Mawrth 2020 tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2019/20.

Ar ben hynny, wrth baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, rydym wedi cymryd nifer o gamau wrth gynllunio a pharatoi gweithgarwch addysgu ac asesu i gefnogi myfyrwyr a sicrhau na ddylent fod dan anfantais. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Dyluniwyd y trefniadau ar gyfer addysgu ac asesu i’w cyflwyno trwy gyfuniad o weithgarwch ar y campws ac ar-lein neu’n gyfan gwbl ar-lein ar gyfer rhai rhaglenni, os oes angen. Mae’r dull cyfunol hwn yn seiliedig ar fframwaith dysgu digidol i sicrhau trothwyon gofynnol ar gyfer pob modiwl ar sail addysgeg o’r hyn sy’n gweithio’n dda yn yr amgylchedd dysgu digidol.
  • Gofynnwyd i ysgolion addasu a lleihau asesiadau lle bo hynny’n berthnasol, ac ystyried dyddiadau cau a chyfnodau cyflwyno ar lefel leol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr amgylchedd dysgu digidol a’r llwyth gwaith.
  • Cyflwynwyd polisi astudio o bell hefyd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd i alluogi myfyrwyr ar lawer o raglenni gradd astudio o bell, gyda darpariaeth ar-lein yn cymryd lle gweithgarwch ar y campws. Mae dros 4,000 o fyfyrwyr wedi manteisio ar yr opsiwn hwn.

Nid ydym yn defnyddio dull algorithmig ‘marc cyfartalog B’ unigol ar gyfer modiwlau a ddilynwyd yn 2020/21. Mae hyn oherwydd, yn wahanol i 2019/20, nid oes digon o asesiadau cyn-COVID-19 wedi’u cwblhau y gellid seilio cynnydd neu ganlyniadau gradd arnynt yn ddibynadwy. Mae hyn yn gyson â phrifysgolion eraill. Mae Undebau Myfyrwyr Grŵp Russell wedi cydnabod her y sefyllfa hon, ac rydym yn croesawu hyn.

Bydd yr holl fesurau hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu hasesu’n deg. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod carfannau eleni wedi wynebu nifer sylweddol o heriau.

Rydym yn cwblhau rhai Cwestiynau Cyffredin ychwanegol a manwl ar yr uchod ar hyn o bryd, a chyhoeddir y rhain cyn bo hir.

Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi’u diogelu dan amrywiad tan ddiwedd mis Ionawr. Rydym yn adolygu’r posibilrwydd o ymestyn yr amrywiadau hyn y tu hwnt i ddiwedd mis Ionawr, a byddwn yn cyfathrebu ar wahân gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ddiweddarach y mis hwn.

Ad-daliad ar gyfer y rhai mewn llety Prifysgol
O ystyried penderfyniad yr wythnos diwethaf i ohirio dechrau addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni tan 22 Chwefror (ac eithrio rhaglenni cysylltiedig ag iechyd a rhai ymarferol lle mae angen gweithgarwch ar y campws), rydym wedi bod yn adolygu ein dull o gasglu ffioedd llety gan fyfyrwyr. 

Rydym wedi gwrando’n astud ar ein myfyrwyr ac wedi cynnal sgyrsiau adeiladol gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd ynghylch talu ffioedd llety Prifysgol o ystyried bod llawer ohonoch wedi cael cyngor i beidio â dychwelyd i’r Brifysgol am y tro.

Rwy’n falch o ddweud y byddwn yn cynnig ad-daliad rhent i’r myfyrwyr hynny yn ein preswylfeydd nad ydynt wedi dychwelyd i’w llety. Mae hyn ar gyfer y cyfnod llawn na allwch ddychwelyd.Bydd ein myfyrwyr yn Nhŷ Clodien ac Unite gan Brifysgol Caerdydd yn cael eu diogelu o dan drefniant ad-dalu rhent y mae Unite yn ei weithredu. Bydd ffioedd llety myfyrwyr sy’n cael eu rhyddhau o’u Cytundeb Llety oherwydd bod eu cais i astudio o bell wedi cael ei gymeradwyo, yn cael eu haddasu yn unol â’r gymeradwyaeth honno.

Os oes gennych hawl i’r ad-daliad hwn, bydd yn cael ei gymhwyso i’ch trydydd rhandaliad o ffioedd llety sy’n daladwy ym mis Ebrill. Byddwn yn cadarnhau’r broses ar gyfer hyn maes o law ond roeddem am i chi wybod cyn gynted â phosibl bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud. O ystyried amseriadau, bydd angen talu’ch ail randaliad fel arfer.

Ar gyfer y myfyrwyr hynny mewn llety preifat – os oes angen tystiolaeth arnoch o’r dyddiadau nad yw’n ofynnol i chi fod ar y campws, gallwn roi’r rhain i chi. Ebostiwch RegistrySupport@caerdydd.ac.uk a all roi’r cadarnhad angenrheidiol.

Byddwn yn adolygu hyn i gyd wrth baratoi ein cynlluniau ar gyfer dychwelyd i Gaerdydd, neu os bydd canllawiau’r Llywodraeth yn golygu bod angen i ni ystyried y dyddiad ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, sef 22 Chwefror.

Ein cynllun o hyd yw sicrhau bod y myfyrwyr hynny nad yw eu haddysgu yn ailddechrau tan 22 Chwefror yn dychwelyd dros gyfnod o amser i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob Prifysgol yng Nghymru. Bydd hyn ar ffurf dychwelyd i Gaerdydd i gael prawf COVID a chaniatáu amser i chi ddilyn y canllawiau ynghylch ‘ynysu ymhell cyn i’ch addysgu wyneb yn wyneb ailddechrau.  Mae hyn i gyd yn amodol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth maes o law.

Cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyhoeddiad newydd ddydd Gwener, gan ddiwygio eu canllawiau presennol ymhellach ar gyfer prifysgolion yng Nghymru. Yn y canllawiau, fe welwch gyfeiriad at fyfyrwyr y mae angen ‘dau brawf asymptomatig’ arnynt. Ond, fel y rhannwyd gyda chi eisoes, un prawf yn unig sydd ei angen ar ein myfyrwyr, trwy ein gwasanaeth sgrinio mewnol, ond pwysleisiaf unwaith eto ei fod yn hanfodol bwysig eich bod yn trefnu prawf ar gyfer y cyfnod pan fyddwch yn dychwelyd i Gaerdydd.

Teithio i Gaerdydd
Unwaith y bydd eich ysgol wedi cadarnhau dyddiad ailddechrau eich addysgu wyneb yn wyneb, sylwer:

  • Os ydych yn teithio o rywle arall yn y DU, mae Llywodraeth Cymru (a’r DU) wedi cadarnhau bod teithio at ddibenion addysgol yn esgus rhesymol dros deithio. Mae canllawiau pellach ar deithio i Gymru ar gael yma.
  • Os ydych chi’n teithio i Gymru o dramor, gwiriwch yr hyn y mae’r canllawiau’n gofyn i chi ei wneud cyn teithio
  • Yn y ddau achos, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyngor defnyddiol ar sut i deithio’n ddiogel.

Diogelwch ar y campws
Mae ein campws yn parhau i fod yn ddiogel (ac ar agor). Fodd bynnag, mae ein holl fesurau diogelwch yn dibynnu ar gydweithrediad llawn ein myfyrwyr – mae hyn yn bwysicach nag erioed o ystyried yr amrywiadau newydd o’r feirws sydd bellach yn y DU. Os ydych chi eisoes yn ôl yng Nghaerdydd, cofiwch gadw at ein mesurau diogelwch, sy’n cefnogi’r ymrwymiad cymunedol. Mae staff mewn meysydd fel ein Llyfrgelloedd yn dweud bod myfyrwyr yn fwyfwy anfodlon gwisgo gorchuddion wyneb. Mae unrhyw fyfyriwr sy’n methu â dilyn y mesur hwn, a mesurau diogelwch eraill, yn peryglu eu cydfyfyrwyr a’u staff, ac yn peryglu eu hawl i ddefnyddio cyfleusterau o’r fath yn y dyfodol.

Amgylchiadau esgusodol
Roeddwn i’n meddwl ei bod hefyd yn ddefnyddiol eich atgoffa am yr hyn i’w wneud os ydych chi’n profi amgylchiadau personol ar adeg yr asesiad, lle gallai’r amgylchiadau hynny effeithio ar ba mor barod yr ydych ar gyfer yr asesiad a’ch perfformiad ynddo.  Cewch ragor o wybodaeth am y Weithdrefn Amgylchiadau Eithriadol a’r mathau o amgylchiadau a fyddai’n cael eu hystyried yn esgusodol yma.

Os hoffech gael cyngor ynghylch llenwi’r ffurflen amgylchiadau esgusodol, gallwch ofyn am gyngor annibynnol gan y gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr drwy ffonio +44(0)29 2078 1410 neu ebostio advice@caerdydd.ac.uk

Eich cefnogi chi
Rydym yn sylweddoli pa mor anodd yw’r cyfnod hwn i chi, yr anawsterau unigryw a’r amgylchiadau eang y mae ein myfyrwyr yn eu hwynebu, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar eich iechyd meddwl a’ch lles. Rydym yma ar eich cyfer ac yn gwneud popeth i’ch helpu drwy wneud yn siŵr fod y gefnogaeth briodol ar gael. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyswllt Myfyrwyr i gael cefnogaeth a chyngor gan ein timau Cefnogi a Lles Myfyrwyr a all eich helpu i ofalu am eich iechyd a’ch lles, rheoli’ch arian, byw yng Nghaerdydd a’r DU, cefnogi’ch astudiaethau a pharatoi ar gyfer eich dyfodol
  • Mae gwybodaeth ar y Fewnrwyd am bob agwedd ar fywyd myfyrwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys arholiadau ac asesu, adnoddau dysgu digidol, polisïau’r Brifysgol a llawer mwy
  • Gwefan rhwydweithio cymdeithasol yw TalkCampus sy’n dwyn ynghyd myfyrwyr sy’n mynd drwy’r un trafferthion. Mae’n rhoi cymorth iechyd meddwl mewn man diogel lle gallwch chi siarad yn ddienw am eich pryderon.
  • Swyddfa eich ysgol neu eich tiwtor personol academaidd i drafod unrhyw bryderon sydd gennych, yn enwedig y rhai sy’n benodol i’ch ysgol neu’ch cwrs.

Rwy’n gwerthfawrogi bod hon yn neges hir ond mae’n cynnwys manylion hynod bwysig i chi eu hadolygu a’u hystyried. Yn ôl yr arfer, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy’r negeseuon hyn a Newyddion Myfyrwyr.

Cofion gorau a chadwch yn ddiogel,


Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr