Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Y diweddaraf am y cyfnod atal

19 Hydref 2020

Darllenwch neges gan yr Is-Ganghellor a anfonwyd at y staff heddiw (19 Hydref 2020).

Annwyl gydweithiwr

Byddwch yn ymwybodol y cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn gynharach heddiw y bydd ‘cyfnod atal’ neu ‘doriad tân’ ar waith o 18:00 ddydd Gwener 23 Hydref tan 00.01 ddydd Llun 9 Tachwedd.

Fodd bynnag, ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd Prifysgol Caerdydd ar agor o hyd. Gall addysgu wyneb yn wyneb barhau, gyda chymorth y mesurau diogelwch sydd gennym ar waith. Byddem yn annog unrhyw aelodau staff academaidd neu’r gwasanaethau proffesiynol a allai fod â phryderon i’w trafod gyda Phennaeth eu Hysgol neu eu rheolwr llinell.

Gall ymchwil a gynhelir ar y campws fynd rhagddi yn yr un modd, a gall aelodau staff sy’n cyflwyno gwasanaethau ar y campws barhau i wneud hynny.

Dylai’r cydweithwyr hynny sy’n gweithio o gartref neu oddi ar y campws, barhau i wneud hynny.

Rwyf yn sylweddoli bod yr ansicrwydd parhaus a’r cyfyngiadau yn sgîl pandemig y coronafeirws yn peri cryn bryder i lawer. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi’r mesurau ychwanegol hyn er mwyn helpu i reoli lledaeniad y feirws.

Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar y fewnrwyd ar hyn o bryd, ac rwyf yn eich annog i gadw golwg ar gyngor Llywodraeth Cymru yn rheolaidd.

Ar ran pob un o fy nghydweithwyr ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, diolch i chi eto am eich gwaith caled a’ch ymroddiad parhaus.

Gobeithiaf weld llawer ohonoch ddydd Mercher yn ein gweminar nesaf i’r holl staff pan fydd cydweithwyr o GIG Cymru yn ymuno â ni.

Yn gywir

Colin Riordan
Is-Ganghellor