Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Profi a chymorth ar gyfer y coronafeirws (COVID-19)

16 Hydref 2020
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd 15 Hydref.

Annwyl Fyfyriwr,

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi cymryd rhan ym mhrofion y GIG yn Nhal-y-bont yn ddiweddar ac sydd wedi bod yn dilyn y canllawiau cysylltiedig. Mae’r Uned Profion Symudol yn Nhal-y-bont wedi profi dros 1,200 i fyfyrwyr hyd yma ac mae bellach ar gael ar gyfer pob un ohonoch yng Nghaerdydd sydd â symptomau’r coronafeirws (COVID-19) – gallwch drefnu prawf yma.

Rwyf yn ymwybodol faint o wybodaeth sy’n cael ei rhannu â chi ar hyn o bryd, ac roeddwn am roi crynodeb o’r gwahanol opsiynau profi a chefnogi sydd ar gael ar eich cyfer.

Os oes gennych symptomau
Os oes gennych symptomau’r coronafeirws (COVID-19), dylech drefnu prawf COVID-19 y GIG ar unwaith. Gallwch wneud hynny drwy:

  • Uned Profion Symudol benodedig GIG Cymru yn Nhal-y-bont, sydd ar agor i holl fyfyrwyr symptomatig Prifysgol Caerdydd tan ddydd Sul 18 – gallwch drefnu eich prawf yma.

Mae’r opsiynau profi eraill gan GIG Cymru yn cynnwys:

  • canolfan brofi newydd sy’n agor brynhawn fory (dydd Gwener 16 Hydref) ar Rodfa’r Amgueddfa
  • canolfan brofi gyrru drwodd yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
  • pecynnau profi gartref (os oes rhai ar gael)

Fel y byddwch eisoes yn ei wybod, mae’r GIG o dan gryn straen a gall yr holl wasanaethau hyn fod yn brysur dros ben (gan egluro pam mae uned profion symudol yn Nhal-y-bont). Os ydych yn parhau i gael trafferth trefnu prawf, cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr.

  • Os ydych yn byw yn Neuadd y Brifysgol ac yn dangos symptomau, gallwch hefyd fanteisio ar Uned Profion Symudol ar gampws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd, o ddydd Llun 19 Hydref. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth â phreswylwyr Neuadd y Brifysgol maes o law. Fodd bynnag – os ydych yn byw yn Neuadd y Brifysgol ac yn dangos symptomau, defnyddiwch yr opsiynau uchod, yn hytrach nag aros i gael eich profi.

Mae’n bwysig eich bod yn trefnu apwyntiad drwy ddefnyddio’r dolenni uchod cyn mynd i unrhyw un o’n lleoliadau.

Os nad oes gennych symptomau
Os nad oes gennych symptomau, gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Sgrinio. Mae hwn yn wahanol i brawf GIG Cymru, ac mae’n agored i’r holl fyfyrwyr nad ydynt yn dangos symptomau’r coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd. Fe’ch gwahoddir i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn bob pedair wythnos, a gallwch ddewis mynd i apwyntiad yn Nhŷ’r Coleg, Adeilad Hadyn Ellis neu Ganolfan Gymdeithasol Tal-y-bont (fodd bynnag, cofiwch – ni ddylech fynd os ydych yn hunanynysu). 

Canlyniadau’r profion
Mae’n cymryd o leiaf 72 awr i brosesu’r canlyniadau. 

Os ydych wedi cael eich profi ac wedi cael canlyniad positif, gobeithio byddwch chi’n gwella’n fuan. Os ydych wedi cael eich profi ac wedi cael canlyniad negyddol, ond mae angen i chi hunanynysu o hyd oherwydd bod un o’ch cyd-letywyr wedi cael canlyniad positif, cofiwch roi gwybod i ni ar SIMS. Mae hyn yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu eich cefnogi, a’ch bod yn gallu parhau i ddysgu os ydych yn ddigon iach. 

Mae’r wybodaeth rydych yn ei rhoi ar SIMS yn bwydo i mewn i ffigurau’r Brifysgol am achosion y coronafeirws, sy’n cael eu diweddaru ar ein gwefan yn ddyddiol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brofion, mae tudalen newydd ar y fewnrwyd yn rhoi rhagor o fanylion.

Ble i gael cefnogaeth
Rydym yn sylweddoli bod hunanynysu yn gallu bod yn anodd a pheri straen. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud, beth i’w ddisgwyl ac yn gallu manteisio ar gymorth, cefnogaeth a gwybodaeth briodol. Mae’n cynnwys sut i gael gafael ar wasanaethau cludo bwyd a sut i drefnu apwyntiadau cwnsela a lles ar-lein. Gallwch gysylltu â Cyswllt Myfyrwyr os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch chi.

Diolch i chi unwaith eto am eich cydweithrediad; rwy’n gwerthfawrogi’n fawr eich parodrwydd i fod yn amyneddgar a chadw at y canllawiau.

Rhowch wybod i ni am eich sefyllfa – a chofiwch gadw llygad ar eich ebyst.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr