Neges gan yr Is-Ganghellor
22 Gorffennaf 2020Annwyl gydweithiwr,
Yr hyn sydd bron mor annisgwyl â’r newidiadau dramatig a achoswyd gan COVID-19 yw’r ffyrdd y mae elfennau o fywyd academaidd wedi mynd rhagddynt fel y byddent mewn unrhyw flwyddyn arall, er bod hynny wedi digwydd mewn ffyrdd gwahanol a thrwy ddulliau amgen ar adegau. Mae asesiadau israddedig wedi’u cwblhau, mae byrddau arholi wedi cwrdd, ac mae graddau wedi’u dyfarnu. Wrth imi ysgrifennu’r neges hon, rydym hyd yn oed yn cynnal seremonïau graddio (y byddaf yn sôn mwy amdanynt mewn ebost yn y dyfodol ar ôl iddynt orffen), ond caiff holl raddedigion 2020 y cyfle i fynd i seremoni go iawn pan fydd modd cynnal digwyddiadau mawr eto. Yn ôl ym mis Mawrth, roeddem yn teimlo y byddai cyflawni hyn i gyd yn dalcen caled, ac mae wedi bod mor anodd â’r disgwyl. Rwyf yn ymwybodol o’r ymdrechion enfawr oedd eu hangen i alluogi hyn, a hoffwn ddiolch i bawb o dan sylw am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u dyfeisgarwch. Mewn ebyst blaenorol, rwyf wedi nodi’r ffordd wych y mae pobl wedi dod ynghyd yn yr argyfwng hwn er mwyn cydweithio a dod o hyd i atebion cyffredin i’r problemau sy’n wynebu pob un ohonom. Bydd yn hanfodol o hyd ein bod yn cyfuno adnoddau a sylweddoli bod angen i ni helpu ein gilydd. Rwyf yn sylweddoli’r straen sydd wedi bod ar bawb ac ni fedraf orbwysleisio cymaint rwyf yn gwerthfawrogi sut mae pobl wedi mynd ati i gefnogi ei gilydd.
Hyd yn oed wrth weithio at nod cyffredin o’r fath, rwyf yn sylweddoli pa mor anodd yw dod o hyd i’r amser i wneud popeth o ystyried mai dysgu ac addysgu sydd wedi cael blaenoriaeth yn y cyd-destun newydd hwn. Mae’n bwysig dros ben bod cydweithwyr yn cael seibiant go iawn ac yn cymryd gwyliau blynyddol oherwydd bydd blwyddyn academaidd newydd yn dechrau cyn bo hir o dan amodau anghyfarwydd. Prin fydd y cyswllt wyneb yn wyneb â’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, a bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau’n parhau i gael eu cynnal o bell. Mae llawer o gydweithwyr academaidd yn aros am ganllawiau pellach ynghylch sut i gyflwyno cynnwys digidol. Rydym yn gweithio’n galed ar ddatblygu’r canllawiau ar hyn o bryd, a’n bwriad yw eu cyflwyno cyn diwedd mis Gorffennaf. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu y gallai fod gwaith ychwanegol yn gysylltiedig ag addysgu yn ystod 2020/21 nes y bydd modd ailddechrau gweithgareddau wyneb yn wyneb heb unrhyw gyfyngiadau, a bydd peth amser tan hynny yn ôl pob tebyg. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn bwysig gwneud yn siŵr bod digon o amser ar gael ar gyfer addysgu. Gallai hyn olygu rhoi llai o flaenoriaeth i ymchwil nad yw’n rhan o grant neu gontract, neu heb gysylltiad uniongyrchol â’r REF. Nid yw hyn yn ddelfrydol, ond mae’n hanfodol rheoli llwyth gwaith yn y fath fodd fel ein bod yn rhoi’r addysg a’r profiad gorau posibl i’n myfyrwyr o dan yr amgylchiadau anodd hyn, yn ogystal â gwarchod lles y staff ar yr un pryd. Felly, efallai y bydd angen i ni dderbyn bod rhaid gohirio rhywfaint o’n hymchwil am y tro. Hoffwn bwysleisio na fydd camau o’r fath yn peri unrhyw anfantais i unrhyw un. Bydd dinasyddiaeth, ymrwymiad i addysgu a dysgu ac elfennau eraill o’n hymateb i’r argyfwng yn cael eu cydnabod yn llawn mewn prosesau cyfnod prawf a dyrchafiad, a bydd y disgwyliadau arferol yn cael eu hystyried yng nghyd-destun yr hyn sy’n cael ei flaenoriaethu ar hyn o bryd. Ni all unrhyw un ddisgwyl gwneud yr addasiadau angenrheidiol a gwneud popeth arall ar yr un pryd.
Wedi dweud hynny, ac i fynd yn ôl i fy mhwynt agoriadol, mae’n braf gweld sut gallwn barhau ein gwaith fel Prifysgol mewn cynifer o ffyrdd. Er bod rhai newidiadau yn angenrheidiol, rydym yn cydnabod na fedrwn roi rhai materion pwysig o’r neilltu. Yr hyn rwyf yn ei gyfeirio ato yn yr achos hwn yw ein hymrwymiad i ehangu cyfranogiad a helpu pobl ifanc o dan anfantais i gymryd rhan mewn addysg uwch. Un o’r ffyrdd pwysicaf o wneud hyn yw drwy drefnu ysgolion haf ar gyfer grwpiau cyfranogiad isel, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig a/neu o gefndir difreintiedig. Yn amlwg, nid ydym wedi gallu cynnal ein digwyddiadau arferol eleni, felly mae ein tîm ehangu cyfranogiad wedi creu gŵyl ddigidol bythefnos o hyd dros yr haf, Gŵyl eCampus Festival. Mae’r tîm wedi cael ei arwain i raddau helaeth gan y bobl ifanc fydd yn cymryd rhan ac oedd yn gallu chwarae rôl allweddol wrth greu gŵyl sy’n seiliedig ar eu hanghenion a’u diddordebau penodol. Yn deillio o hynny mae gennym brosiect ar gyfer pobl ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig, prosiect mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Sutton i annog y rhai o gefndiroedd difreintiedig i wneud cais i astudio meddygaeth, prosiect i annog gofalwyr ifanc o dde-ddwyrain Cymru i gymryd rhan mewn addysg uwch yn ogystal â gwaith gydag aelodau o’n rhaglen Camu i Fyny ac ymgeiswyr o Gymru sydd o gefndiroedd difreintiedig sydd am wella eu sgiliau cyflwyno a chydweithio. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg bod y coronafeirws wedi cael mwy o effaith ar y rhai sydd eisoes yn wynebu anfanteision, felly mae gweithgareddau fel y rhain yn bwysicach nag erioed.
Mewn cyd-destun ehangach, fe gawsom newyddion i’w groesawu yn ddiweddar am gefnogaeth y llywodraeth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, fel y gwelwyd yn y ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar am y system mewnfudo newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau. Mae’r llywodraeth wedi cael gwared ar y polisi blaenorol oedd yn gwneud y broses o gael fisa i fyfyrwyr yn anoddach ac yn ddrytach. Erbyn hyn, mae’n amlwg bod y DU am annog myfyrwyr o bedwar ban byd i ddod yma a’u croesawu drwy’r fisa Llwybr Myfyriwr newydd. Mae’r broses ymgeisio yn cael ei symleiddio a bydd modd i ymgeiswyr gyflwyno cais chwe mis yn hytrach na thri mis cyn dechrau eu hastudiaethau. Bydd gennym fwy o ryddid i asesu sgiliau Saesneg a chymwysterau academaidd. Ni fydd angen i’r rhai sydd eisoes yn fyfyrwyr ddychwelyd i’w gwledydd genedigol i wneud cais am fath arall o fisa, ac ni fydd angen iddynt ddangos bod digon o arian ganddynt i fyw yma, gan eu bod eisoes wedi dangos hynny yn eu cais gwreiddiol. Er y bydd angen i ddinasyddion o wledydd yr UE ddilyn yr un broses o fis Ionawr 2021, ni fydd angen iddyn nhw na dinasyddion o wledydd a ystyrir fel rhai risg isel gyflwyno cymaint o ddogfennau. Fel noddwr, bydd angen i ni fonitro sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â’u hastudiaethau yn hytrach na’u presenoldeb. Bydd ailgyflwyno’r fisa ôl-astudio dwy flynedd o hyd (fisa Llwybr Graddedig, ac sy’n dair blynedd i fyfyrwyr PhD) yn cael ei groesawu’n fawr ac yn gwneud y DU yn fwy atyniadol i ddarpar fyfyrwyr. Yng nghyd-destun yr ansicrwydd a achosir gan COVID-19 a’r tensiynau rhyngwladol cynyddol, mae’r datblygiadau hyn o gymorth mawr ac yn nodi diwedd ar gyfnod anodd dros ben a ddechreuodd yn 2010. Mae adroddiad o’r enw Universities Open to the World gan Sefydliad Polisi Coleg y Brenin mewn partneriaeth â Phrifysgol Harvard, yn cynnig cipolwg ar flaenoriaethau a chynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol. Ni fyddem fel arfer yn chwilio am awgrym o gynlluniau’r llywodraeth mewn adroddiad o’r fath, ond Jo Johnson, cyn-Weinidog y Prifysgolion a Gwyddoniaeth a brawd Prif Weinidog y DU, yw awdur y papur (gwybodus a darllenadwy hwn).
Efallai eich bod yn gwybod y daeth i’r amlwg yn arolwg y staff y llynedd bod gan rai ohonoch bryderon ynghylch sut mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â staff. Rydym wedi ystyried y farn hon o ddifrif ac wedi gwneud ymdrech arbennig i wneud yn iawn am hynny, yn enwedig ers i’r argyfwng ddechrau. Yn rhan o’n hymrwymiad, byddai’n ddefnyddiol cael gwybod sut mae pobl yn teimlo erbyn hyn er mwyn gweld a ydym ar y trywydd iawn. Os hoffech roi eich barn, cliciwch yma, a dim ond ychydig funudau o’ch amser ddylai hyn ei gymryd.
Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, rwyf wedi bod yn ysgrifennu ebost o leiaf unwaith y mis ers imi ddechrau fy rôl fel Is-Ganghellor yn ôl yn 2007 (ac yn llawer amlach yn ystod yr argyfwng), ond nid wyf erioed wedi anfon un ym mis Awst, oherwydd natur y flwyddyn academaidd. Byddaf yn gwneud eithriad eleni oherwydd rydym yn disgwyl i’r cyfnod cadarnhau a chlirio roi gwybodaeth hanfodol i ni am recriwtio myfyrwyr israddedig a phatrymau posibl yn ymddygiad ymgeiswyr rhyngwladol. Byddaf yn myfyrio ychydig yn fwy bryd hynny ar gynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ond gobeithio bydd cynifer ohonoch â phosibl yn gallu cael seibiant braf yn y cyfamser.
Cofion gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014