Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariadau o’r campws gan y Rhag Is-Ganghellor

3 Awst 2020
Claire Morgan

Annwyl Fyfyriwr,

Cynhaliwyd Dathliadau Rhithwir Graddedigion 2020 yr wythnos ddiwethaf, ac rwy’n gwybod y byddwch i gyd yn ymuno â mi wrth longyfarch y rhai hynny sy’n graddio. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at yr haf nesaf, pan rydym yn gobeithio y bydd seremonïau graddio traddodiadol yn parhau ar gyfer Graddedigion 2020 a 2021.

Fel gyda gohebiaethau blaenorol, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau diweddaraf ar gyfer eich addysg a’ch profiad myfyriwr ehangach.

Ymholiadau ynglŷn â’ch canlyniadau

Bydd llawer ohonoch bellach wedi cael eich canlyniadau, ac rwy’n deall ar gyfer rhai ohonoch na fydd y rhain yn cyfateb i’r hyn roeddech yn gobeithio eu cael. Os rydych wedi cael dosbarth neu farc llwyddo is na roeddech yn ei ddisgwyl mae gan eich trawsgrifiad (sydd ar gael ar SIMS) dudalen sy’n esbonio codau’r canlyniadau a beth mae’r bwrdd arholi wedi penderfynu sydd angen i chi ei wneud nesaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch Tiwtor Personol neu Swyddfa’r Ysgol. Gallwch hefyd gael cymorth gan eich tîm Cynghori a Chefnogi Myfyrwyr os oes angen.

Ailsefyll ym mis Awst

Caiff yr amserlen ailsefyll arholiadau ei chyhoeddi ddydd Llun 3 Awst 2020. Caiff ebyst unigol eu hanfon hefyd, erbyn 5pm fan bellaf, i’ch cyfrif ebost Prifysgol Caerdydd ar gyfer y rhai hynny sydd angen ailsefyll arholiadau. Cynhelir y cyfnod ailsefyll arholiadau o ddydd Llun 17 Awst 2020 i ddydd Gwener 28 Awst 2020. Os oes angen i chi ailgyflwyno gwaith cwrs, traethodau hir ac ati, bydd eich Ysgol yn cysylltu â chi ynglŷn â’r dyddiad cau ar gyfer y dyddiadau ailgyflwyno.

Campws diogel

Byddwn yn annog pob un ohonoch i edrych ar ein tudalennau profiad campws diogel ar gyfer 2020/21 newydd sy’n (cael eu diweddaru’n rheolaidd) ac sy’n cynnwys y canlynol:

  • ffyrdd newydd o ddysgu – addysgu a dysgu, llyfrgelloedd, cymorth ar gyfer sgiliau, newidiadau i’ch amgylchiadau unigol a ffioedd a chyllid
  • llety diogel – cadw pellter cymdeithasol, llety cwarantin a chymorth a lles
  • mesurau iechyd a diogelwch – arwyddion, gorchuddion wyneb a rhoi gwybod am symptomau tebyg i’r Coronafeirws
  • gweithgareddau ar y campws – byddwch dal yn gallu defnyddio ein caffis a’n bwytai, y cyfleusterau a’r digwyddiadau chwaraeon, sydd i gyd ar gael gyda mesurau diogelwch ychwanegol.

Yn benodol, byddwch yn gweld ein bod wedi penderfynu y byddwn yn cadw’r gofyniad o bellter cymdeithasol o 2 fetr ar y campws tan o leiaf mis Ionawr 2021.

Polisi Astudio o Bell

Fel y nodwyd yn flaenorol, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’r campws ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd, lle y byddwn yn cyflwyno ein rhaglenni addysgol drwy gyfuniad o ddysgu a chymorth o ansawdd uchel ar y campws ac ar-lein.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod efallai na all rhai myfyrwyr, a hynny am reswm da, fod yn bresennol ar y campws yn 2020/21, am gyfnod byr neu estynedig. Ar gyfer y myfyrwyr hyn rydym wedi datblygu estyniad i’n polisïau arferol er mwyn darparu mynediad cyfwerth at y ddarpariaeth ar y campws lle y bo’n bosibl, er mwyn sicrhau nad yw’r myfyrwyr hyn dan anfantais yn ormodol. Noder, ni fydd astudio o bell yn bosibl ar gyfer rhai rhaglenni gan fod yn rhaid bod yn bresennol ar y campws, er enghraifft i fodloni gofynion cyrff proffesiynol.

Rydym wedi nodi amrywiaeth o amgylchiadau (yn ymwneud ag iechyd ac fel arall, ac sy’n ymwneud â COVID-19) a allai arwain at fynediad cyfyngedig at weithgarwch ar y campws i rai grwpiau o fyfyrwyr, (gweler y rhestr ar y tudalen gwe).  Os hoffech wneud cais am y ddarpariaeth hon bydd ffurflen ar-lein ar gael drwy SIMS ddiwedd mis Awst. Noder bod hyn yn disodli cyngor blaenorol i wneud cais am y broses addasiad rhesymol drwy ein swyddfa Anabledd a Dyslecsia.

Dinas Caerdydd

Cyn eich dyddiad dychwelyd disgwyliedig ym mis Medi, roeddwn i am orffen drwy amlygu sut mae’r ddinas wedi newid mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Tra bod llawer ohonoch wedi bod i ffwrdd lansiodd Cyngor Caerdydd gynllun i sicrhau mai Caerdydd yw un o ‘ddinasoedd mwyaf diogel’ y DU ac ymhlith rhai o’r mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith mae’r canlynol:

  • system unffordd i gerddwyr yng nghanol y ddinas
  • mannau croeso a gwybodaeth gyda staff
  • ardaloedd ciwio dynodedig ar gyfer siopau
  • ardaloedd yn yr awyr agored ar gyfer bariau a bwytai
  • rhaglenni lledu palmentydd.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau a’n penderfyniadau cyn gynted â phosibl a byddwn yn cysylltu â chi’n fuan iawn.

Yn y cyfamser, gobeithio eich bod yn mwynhau eich gwyliau haf ac, mewn rhai achosion, y broses o lacio’r cyfyngiadau.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr