Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Neges gan y Prif Swyddog Ariannol a’r Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr

Annwyl gydweithiwr,

Dros y pedwar mis diwethaf, ers i raddfa effaith COVID-19 ddod i’r amlwg am y tro cyntaf, mae’r Is-ganghellor ac aelodau eraill o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi bod yn eich diweddaru am y sefyllfa yma yng Nghaerdydd mewn cyfres o ebyst. Mae ein gwaith i gefnogi ein prif ffocws — mesurau sy’n angenrheidiol i gadw staff, myfyrwyr a’n cymuned ehangach yn ddiogel drwy ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus mwyaf diweddar — wedi bod yn amlwg yn llawer o’r negeseuon hyn.

Ochr yn ochr â’r gweithgarwch hwn, ein prif flaenoriaeth arall, y byddwch hefyd yn ymwybodol ohoni, yw sicrhau cynaliadwyedd ariannol drwy gydol y pandemig, fel ein bod mewn sefyllfa gref i ffynnu mewn blynyddoedd i ddod. Wrth i ni nesáu at ddiwedd ein blwyddyn ariannol ar 31 Gorffennaf a dechrau’r cyfnod pan ddaw’r niferoedd tebygol o fyfyrwyr ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gliriach, rydym nawr yn ysgrifennu i rannu ein hamcanestyniadau diweddaraf o sefyllfa ariannol y Brifysgol yn 2020/21.

Pan ysgrifennodd yr Is-ganghellor ar 4 Gorffennaf roedd ein hamcangyfrifon realistig yn rhagweld diffyg gwerth £102m yn y flwyddyn ariannol nesaf, ar ôl rhoi’r rhaglen lleihau costau Cam Cyntaf 10%/£50m ar waith, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau rydym yn gweithredu ynddynt — yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol — yn newid yn barhaus, felly rydym yn adolygu ein rhagamcanion a’n rhagdybiaethau sylfaenol yn rheolaidd. Dyma’r newidiadau diweddaraf yn ein hamcanestyniadau:

Mae’r amcanestyniadau ar gyfer niferoedd myfyrwyr cartref yn gwella

Cyfrannodd ffioedd dysgu 45% o’n hincwm y llynedd. Er mwyn diogelu’r incwm hwnnw, mae’r Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr yn cydlynu’r ymdrech sylweddol iawn gan Golegau, Ysgolion a Gwasanaethau Proffesiynol ledled y Brifysgol i roi’r cyfle gorau inni recriwtio a denu myfyrwyr â chymwysterau addas i’n cyrsiau israddedig a meistr yr hydref hwn. Mae’r Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr wedi cael dadansoddiad o ystod eang o ddata a gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau — adborth gan ymgeiswyr Caerdydd, data ar draws y sector, arolygon allanol a grwpiau ffocws a mewnwelediad gan ein hasiantau tramor — i deilwra ein negeseuon a’n hymagwedd tuag at yr ymgeiswyr cartref a rhyngwladol. Mae’r Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr wedi cydweithio ar draws y sefydliad i ddatblygu dyddiadau dechrau newydd ar gyfer rhai rhaglenni ôl-raddedig, ein diwrnodau agored rhithwir cyntaf a strategaethau marchnata newydd a’r negeseuon sy’n cyd-fynd â marchnadoedd allweddol yn y sefyllfa sydd ohoni.

Ar yr un pryd, mae’r darlun cenedlaethol o ran ceisiadau israddedig wedi bod yn weddol sefydlog o’i gymharu â’r un adeg yn y cylch recriwtio y llynedd. Mae’r ffigurau cenedlaethol diweddaraf gan UCAS yn dangos bod gan fwy na hanner miliwn o ymgeiswyr gynigion diamod neu amodol i ddechrau eu graddau yn ystod yr hydref hwn, cynnydd o 1% o’i gymharu â’r llynedd. Cyn y pandemig roedd ein ceisiadau ein hunain wedi cynyddu’n sylweddol o gymharu â 2019. Mae ceisiadau, cynigion a’r rhai sydd wedi derbyn cynnig gan Gaerdydd yn parhau i fod yn galonogol, ond o ystyried y nifer o ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ni allwn fod yn hunanfodlon y bydd hyn yn troi i’r niferoedd cofrestru y byddem fel arfer yn eu disgwyl. Felly, rydym yn canolbwyntio nawr ar baratoi ar gyfer y prif gyfnod Cadarnhau, Clirio ac Addasu (CCA) ganol mis Awst, gan gofio’r mesurau sefydlogi y mae Llywodraeth y DU wedi’u cyflwyno, sy’n amlinellu nifer y myfyrwyr cartref/UE y gallwn eu recriwtio heb gosb ariannol. Rydym hefyd yn monitro’r sefyllfa yn y prif wledydd rydym yn recriwtio canran sylweddol o’n myfyrwyr rhyngwladol ohonynt yn agos.

Gan gofio’r holl wybodaeth hon, rydym bellach wedi diwygio’r rhagdybiaethau ynghylch nifer y myfyrwyr rydym yn eu defnyddio yn ein rhagolygon ariannol 2020/21. Ar gyfer nifer y myfyrwyr cartref/UE sy’n cofrestru, rydym nawr yn rhagweld y bydd y Brifysgol yn cyrraedd 90% o’n targed gwreiddiol ar gyfer israddedigion ac 80% ar gyfer ôl-raddedigion a addysgir; ar gyfer pob myfyriwr rhyngwladol a gofrestrir, rydym yn rhagdybio 40% o’n targed gwreiddiol. O ran peidio â pharhau, rydym yn rhagdybio y bydd 10% ychwanegol o israddedigion cartref/UE yn tynnu’n ôl ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf, heb unrhyw newid yn y blynyddoedd dilynol. At hynny, rydym yn rhagdybio y bydd 25% yn ychwanegol o fyfyrwyr israddedig rhyngwladol yn tynnu’n ôl ddiwedd eu blwyddyn gyntaf, a 15% ar gyfer y blynyddoedd dilynol. Amcangyfrifon yw’r rhain yn unig, ac, ar y cyfan, peidiwch â cheisio adlewyrchu gwahaniaethau posibl rhwng Ysgolion unigol ac o fewn iddynt.

Fel y mae’r graff hwn yn ei ddangos, gyda’r rhagdybiaethau hyn, mae ein hincwm ffioedd a ragwelir bellach yn £212.1m, sef £86.6m yn is na’n rhagamcanion cyn COVID-19.

Er gwaethaf llwyddiannau diweddar, mae incwm ymchwil a grantiau eraill yn parhau’n heriol

Er mai ffioedd dysgu yw’r ffrwd fwyaf o’n gwahanol ffrydiau incwm, mae ffynonellau gweithgareddau a chyllid eraill hefyd yn bwysig. Er enghraifft, cyfrannodd grantiau ymchwil at 22% o’n hincwm y llynedd. Yn gynnar yn y pandemig, nid yw cyllidwyr elusennol mawr fel Cancer Research UK wedi ceisio cuddio’r faith eu bod yn disgwyl lleihad gwerth 25% mewn rhoddion eleni, nac o’r goblygiadau y bydd hyn yn eu cael i’w gallu i ariannu ymchwil. Dyma un ffactor yn unig a fydd yn anochel yn cael effaith ar y grantiau ymchwil a fydd ar gael i bob prifysgol ar hyn o bryd.

Yn ogystal â’r ansicrwydd hyn, yn yr un modd â phrifysgolion eraill yng Nghymru, rydym yn dal i aros am gadarnhad gan HEFCW o’r grantiau y byddant yn eu rhoi inni o 1 Awst. Ein hamcangyfrifon gorau yw na fyddwn yn cael mwy na 75% o grant 2019/20 o £85m, a fydd yn cynnwys refeniw, cyfalaf a dyraniadau untro. Serch hynny, ar yr un pryd, mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi cyfres o grantiau a fydd yn cefnogi estyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19 i brosiectau ymchwil a ariennir gan UKRI a’r Academïau Cenedlaethol a benthyciadau llog isel y gellir eu defnyddio i gefnogi gallu ymchwil ac arloesi o fewn sefydliadau drwy gyfnod pan mae ffrydiau refeniw eraill wedi crebachu. Wrth i fanylion y mentrau hyn ddod i’r amlwg, byddwn yn cynnwys eu goblygiadau yn ein rhagamcanion ariannol.

Pa effaith mae hyn i gyd yn ei chael ar ein rhagamcanion ariannol? Gyda hyn mewn golwg, mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol bellach yn gweithio gydag amcanestyniad diwygiedig o’n sefyllfa ariannol y flwyddyn nesaf sydd, ar ôl rhoi’r rhaglen arbedion gyfredol o £50m ar waith, yn arwain at ddiffyg gweithredu gwerth £75m, fel y dangosir yn y graff isod. Er bod hwn yn well na’n rhagdybiaeth gynllunio flaenorol, amcangyfrif yn unig ydyw, a hyd yn oed os yw’n gywir, mae’n golygu y bydd angen i’r Brifysgol gynyddu ei hincwm o hyd neu ddod o hyd i arbedion pellach o ran cost er mwyn mantoli’r cyfrifon y flwyddyn nesaf.

Rydym yn parhau i weithio gyda’n hundebau ac, fel yr awgrymwyd gan y grŵp Athrawon yng Nghaerdydd, byddwn yn sefydlu panel cyllid arbenigol i adolygu ein rhagamcanion.

Pryd y bydd gennym ni fwy o sicrwydd ariannol?

Ddechrau mis Medi, pan fydd y broses CCA wedi’i chwblhau, bydd gennym arwydd mwy dibynadwy o niferoedd myfyrwyr y flwyddyn nesaf, a byddwn yn gallu diweddaru ein rhagamcanion ariannol. Fodd bynnag, oherwydd dyddiadau dechrau gohiriedig nifer o raglenni ôl-raddedig a addysgir, ni fydd gennym eglurder tan yn ddiweddarach yn y tymor cyntaf. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn eich diweddaru ar unrhyw newidiadau mawr i’n hamcangyfrifon.

Yn amlwg, rydym yn wynebu cryn dipyn o ansicrwydd o hyd, ac rydym am ddiolch i chi i gyd unwaith eto am eich ymdrechion parhaus i gynnal yr addysgu a’r ymchwil o ansawdd uchel rydym ni, ein myfyrwyr a’n cymuned ehangach yn eu cysylltu’n briodol â Phrifysgol Caerdydd.

Cofion gorau,

Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol, a’r Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg