Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariad i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig

8 Gorffennaf 2020
Kim Graham and Claire Morgan

Annwyl bawb,

Yn dilyn ein neges ym mis Mehefin, roeddem am roi’r newyddion diweddaraf i chi am beth ydym wedi bod yn ei wneud dros y mis diwethaf i gefnogi ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ymhellach. Mae hyn yn cynnwys helpu ein cymuned ymchwil ddechrau dychwelyd i’r campws yn ddiogel, yn ogystal â’r prosesau rydym wedi’u paratoi i weinyddu ac asesu ceisiadau am estyniadau a ariennir.

Mynediad at gyfleusterau ymchwil yn y Brifysgol

Ar ôl rhoi cam un ar waith, lle gwnaethom reoli’r broses o helpu dros 280 o ymchwilwyr yn ôl i’r Brifysgol yn ddiogel ac yn ofalus (gan gynnwys rhai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig), mae’n bleser gennyf ddweud wrthych y cytunodd uwch-reolwyr y Brifysgol, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Llun 22 Mehefin, y gallwn symud ymlaen i weithredu cam dau.

Sut bydd cam dau yn gweithio?

Yn ngham dau, byddwn yn datganoli’r cyfrifoldeb dros benderfynu pwy sy’n cael dychwelyd i’r campws i’r Ysgolion. Bydd Grŵp Isadeiledd Ymchwil y Brifysgol yn goruchwylio’r gwaith hwn er mwyn sicrhau bod ymchwilwyr yn dychwelyd i adeiladau’r Brifysgol yn raddol ac yn ofalus, gyda’r nod o gadw staff a myfyrwyr ymchwil yn ddiogel.

Meini prawf ar gyfer cam dau

Rydym wedi datblygu cyfres o feini prawf ar gyfer blaenoriaethu ymchwil. Mae’r rhain yn bwysig fel gofynion pellter cymdeithasol, ac mae’r angen i agor ystâd y Brifysgol yn raddol yn golygu na all pob ymchwiliwr fynd yn ôl i’r Brifysgol ar unwaith.

Mae’r meini prawf wedi’u dylunio i nodi’r staff a’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hynny sydd â’r angen mwyaf brys am fynediad at gyfleusterau. Byddwn yn ystyried yr anghenion canlynol ymhlith rhai eraill, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar y fewnrwyd:

  • Ymchwil sy’n cynnwys ymchwilwyr ar ddechrau gyrfa a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, yn enwedig y rhai sy’n wynebu heriau critigol i ganlyniadau eu hymchwil a’u gyrfaoedd yn y dyfodol os na fydd yr ymchwil yn ailddechrau
  • Methu gweithio o bell ar brosiect
  • Dyddiad cwblhau cyfagos arbrofion ymchwil / casglu data, sy’n golygu mai prin yw’r cyfleoedd i adolygu cynlluniau neu gyflwyno’r ymchwil yn y dyfodol
  • Mae angen mynediad at gyfleusterau ar unwaith o ganlyniad i adolygu cynlluniau ymchwil, methu â chael mynediad at gyfleusterau/cyfarpar mewn labordai cenedlaethol neu ryngwladol eraill, neu am eich bod yn rhan o dîm ymchwil integredig
  • Mae’n debygol yr amherir yn sylweddol ar y gwaith o gyflawni ymchwil yn y dyfodol os na fydd ymchwil yn dechrau neu’n parhau (naill ai’n rhan o raglen ymchwil hirdymor o fewn dyfarniad presennol neu ar y cyd â rhaglenni sydd wedi’u cyflwyno/sy’n cael eu cyflwyno neu faterion fisa/cyllid posibl ar gyfer ymchwilwyr dramor)
  • Mae angen mynediad at gyfleusterau sy’n gysylltiedig ag ymchwil dymhorol neu sy’n amser-benodol, ac mae’n debygol yr amherir ar yr ymchwil yn sylweddol os na fydd yn cyd-fynd ag anghenion amser-benodol ymchwil
  • Mae’n debygol yr amherir ar grantiau a ariennir yn allanol.

Wrth ategu’r gwaith hwn, rydym yn chwilio am ffyrdd y gall ymchwil a gweithgaredd cyfranogwr dynol gael eu hailgyflwyno’n ddiogel. Tra bod rhai treialon clinigol wedi parhau gan eu bod yn angenrheidiol, mae nawr angen i ni ddatblygu canllawiau er mwyn ehangu ein gallu i ymgysylltu â chleifion a chyfranogwyr ar draws y Brifysgol. Rydym yn cynnal rhai clinigau ar ran y GIG ac rydym wedi datblygu proses a chytuno arni i hwyluso’r broses o’u hailgyflwyno, drwy gydweithio’n agos â’r Ysgolion perthnasol.

Iechyd a Diogelwch

Iechyd a diogelwch ein cymuned ymchwil yw’r flaenoriaeth o hyd yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys cydymffurfiaeth â rheolau pellter cymdeithasol, rheoliadau iechyd cyhoeddus, cyfreithiau a chanllawiau.

Mae asesiadau risg adeiladau’n cael eu drafftio ar gyfer yr adeiladau hynny sy’n cael eu defnyddio eto ac mae Canllaw Defnyddio Adeilad hefyd yn cael ei ddatblygu i gefnogi dealltwriaeth unigolion o sut mae’r adeilad yn gweithio ac ymddygiadau disgwyliedig tra ar y safle.

Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i’n cymuned ymchwil, ac mae pob un ohonom yn awyddus i ddychwelyd i amgylchoedd cyfarwydd a chael budd o’r symbyliad deallusol o weithio ar ymchwil gyda’n gilydd.  Bydd yn cymryd amser i roi’r broses ar waith yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac ni fydd ein holl staff neu fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gallu dychwelyd ar yr un pryd.  Byddem yn ddiolchgar pe gallech fod yn amyneddgar gyda’ch Ysgol Academaidd wrth iddynt ddechrau’r gwaith o ddeall sut i sicrhau bod modd gweithio’n ddiogel mewn labordai a chyfleusterau ymchwil a phenderfynu ar y ffordd orau o gefnogi staff a myfyrwyr, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd â’r anghenion mwyaf yn y lle cyntaf.

Dyma ragor o wybodaeth am sut caiff cam dau ei reoli a’i weithredu.

Estyniadau Ariannu

Gwyddwn y gallai pandemig Covid-19 fod wedi tarfu ar eich cynlluniau ymchwil.

Mae estyniadau ariannu ar gael nawr ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf y mae eu cyfnod ariannu yn dod i ben rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021, sy’n derbyn taliad a gaiff naill ai ei dalu neu ei weinyddu gan y Brifysgol, ac mae Covid-19 wedi tarfu ar eu hastudiaethau ymchwil yn sylweddol.

Dyfernir yr estyniadau hyn fesul achos a dim ond os yw Covid-19 wedi amharu’n sylweddol arnynt, ac mae mwy o amser yn hanfodol ar gyfer cwblhau’r traethawd ymchwil. Caiff estyniadau hyd at dri mis o hyd eu hasesu yn erbyn cyfres o feini prawf sy’n ystyried yr effaith y mae pandemig Covid-19 wedi’i chael ar ymchwil unigolion.

Er mwyn rheoli’r galw a sicrhau mai’r rhai sydd â’r angen mwyaf a brosesir yn gyntaf, bydd y Brifysgol yn asesu ac yn cymeradwyo estyniadau ariannu fesul rownd. Bydd y rownd gyntaf ar gyfer y myfyrwyr hynny y mae eu harian yn dod i ben rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020.

Yn anffodus ni allwn gynnig estyniadau a ariennir i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig, gan fod y pandemig wedi cael (ac yn parhau i gael) effaith ariannol sylweddol ar y Brifysgol.

Cyn i chi ofyn am estyniad, dylech siarad â’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr am sut yr effeithiodd Covid-19 ar eich ymchwil a ph’un a oes angen estyniad er mwyn cwblhau eich gwaith ar lefel ddoethurol.

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am estyniad a’r meini prawf rydym yn eu defnyddio i asesu ceisiadau ar gael ar y fewnrwyd.

Rhaglen Cymorth Ariannol

Gall myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig nad ydynt yn gymwys ar gyfer estyniadau a ariennir, ond sy’n wynebu caledi ariannol, gael mynediad at Raglen Cymorth Ariannol y Brifysgol sy’n rhoi taliadau sy’n dibynnu ar brawf modd.

Estyniadau di-gost tri mis o hyd i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig

Ym mis Mawrth, fe wnaethom benderfynu ystyried ceisiadau am estyniadau di-gost fesul achos ar gyfer y rhai ohonoch oedd â dyddiad cau yn agosáu (30 Medi neu’n gynharach). Cafodd hwn ei ddylunio i gefnogi myfyrwyr a allai fod wedi wynebu oedi i’w hastudiaethau ymchwil oherwydd ein camau cyflym i gyflwyno cyfnod clo COVID-19.

Mae gennym ddarlun mwy eglur erbyn hyn o’r math o darfu y mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ei wynebu.  Rydym yn eich annog i weithio gyda’ch goruchwylwyr er mwyn addasu eich cynlluniau ymchwil i leddfu effaith COVID-19. Y nod yw gallu parhau â’ch ymchwil a’i chwblhau o fewn yr amserlen wreiddiol os oes modd, ond rydym yn gwybod eich bod yn poeni ynghylch cyflwyno eich traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cau o dan sylw.

Er mwyn eich helpu gyda hyn, rydym erbyn hyn wedi cytuno i roi estyniad o dri mis i derfyn amser i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd (ers mis Ebrill 2020 gan gynnwys y rhai sydd yn y cyfnod pan mae disgwyl iddynt gyflwyno eu traethodau ymchwil): estyniad di-gost yw hwn a chaiff ei nodi’n awtomatig yn eich cofnod myfyriwr. Os ydych yn gweld bod angen estyniad pellach arnoch, gallwch wneud cais yn y modd arferol.

Os yw eich dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eisoes wedi’i addasu oherwydd estyniad neu gais i ohirio, cewch chithau yr estyniad awtomatig hefyd.

Mae’r estyniad awtomatig o dri mis yn berthnasol i bob rhaglen radd ymchwil (amser llawn a rhan-amser) ar wahân i ddoethuriaethau proffesiynol sy’n cynnwys elfennau sylweddol a addysgir. Dylai myfyrwyr doethuriaethau proffesiynol barhau i wneud cais am estyniadau i ddyddiadau cyflwyno eu traethodau ymchwil ar adeg addas ac yn y modd arferol.

Casglu eiddo ac offer o’r campws

Bydd y rhai nad oes angen iddynt ddod i’r campws i ymgymryd â’u hymchwil a’u haddysgu, yn parhau i weithio gartref.
Rydym yn ceisio rhoi proses ar waith i alluogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddod a chasglu eiddo ac offer o adeiladau ar y campws, os oes angen. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn cyn bo hir.

Y wybodaeth ddiweddaraf am addysgu

Oherwydd y cyfyngiadau er lles iechyd y cyhoedd, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig darpariaeth addysg gyfunol yn 2020/21.  Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o addysgu ar y campws (megis mewn labordai, clinigol ac addysgu grwpiau bach). Ategir hyn gan ddarpariaeth ar-lein o safon uchel.

Fel Prifysgol, rydym yn cynnal ein hymrwymiad i gynnig cyfleoedd i chi i ategu’r profiad addysgu.  Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein gofynion cefnogi addysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rydym yn gobeithio rhannu ein cynlluniau am hyn maes o law.  Os bydd gennych gyfleoedd i addysgu, ar y campws neu ar-lein, hoffwn eich sicrhau y cewch hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn eich paratoi ar gyfer y profiad hwn.

Gobeithio bod y diweddariad hwn o ddefnydd i chi. Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, naill ai drwy PVC-Research@caerdydd.ac.uk (Kim Graham) neu PVC-Education@caerdydd.ac.uk (Claire Morgan). Gall Deoniaid Ôl-raddedig eich Coleg a’ch Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig gynnig help a chyngor hefyd yn ôl yr angen.