Neges gan y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
13 Gorffennaf 2020
Annwyl Fyfyriwr,
Gobeithio i chi gael dechrau da i’ch gwyliau haf.
Yma yng Nghaerdydd, rydym wedi gweld cyfyngiadau’r cyfnod clo yn llacio ychydig, sydd wedi bod yn braf iawn i’w weld wrth i ni barhau i addasu i’r heriau a ddaw yn sgil pandemig Covid-19. Os nad ydych eisoes yn gwybod hynny, mae’n werth nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig yn wahanol i ymateb gweddill y DU. Mae Iechyd ac Addysg wedi datganoli i Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y gall Cymru wneud penderfyniadau ychydig yn wahanol i’r pandemig o’i gymharu â rhannau eraill y DU. Mae dull Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy gofalus na dull Llywodraeth San Steffan – er enghraifft, mae cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi bod ar waith am gyfnod hwy yng Nghymru na Lloegr, ac mae’r rheol pellter cymdeithasol o 2m yn parhau i fod ar waith. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymateb Llywodraeth Cymru, gallwch ddysgu mwy yma. Os hoffech wybod mwy am beth sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, cewch ragor o wybodaeth ar wefan y Senedd.

Mae ein gwaith cynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn
parhau i adlewyrchu canllawiau diweddaraf y llywodraeth ac iechyd y cyhoedd, yn
y DU, yng Nghymru ac ar gyfer Addysg Uwch. Yn ychwanegol i’m ebost diweddaraf,
mae’n bleser gennyf roi diweddariadau pellach i chi ar eich addysg a phrofiad
ehangach y myfyrwyr yma.
Canlyniadau Arholiadau
Mae’r prif gyfnod ar gyfer cynnal cyfarfodydd Byrddau Arholi yn dod i ben. Mae tîm y Gofrestrfa bellach yn prosesu eich canlyniadau, a bydd y rhain yn cael eu hanfon atoch drwy ebost cyn gynted ag y byddant wedi cael eu cadarnhau. Mae ein Byrddau Arholi wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y polisi rhwyd ddiogelwch a ddatblygwyd yn gynharach eleni yn cael ei ddefnyddio fel nad yw unrhyw fyfyriwr dan anfantais oherwydd Covid-19.
Ro’n i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol i’ch atgoffa os ydych wedi methu unrhyw fodiwlau yn Nhymor y Gwanwyn 2019/20, dan y rhwyd ddiogelwch, byddwch yn cael rhoi cynnig arall arni (ni fydd rhif yr ymgais ailsefyll yn newid). Cysylltwch â’ch Ysgol yn y lle cyntaf os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich canlyniadau.
Hoffwn eich llongyfarch yn bersonol ar gyrraedd y pwynt hwn. Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld cynifer ohonoch yn ffynnu ac yn llwyddo, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd. I’r rheiny ohonoch sy’n graddio, edrychaf ymlaen at eich gweld cyn bo hir yn y Dathliadau Rhithwir, a dathlu eich llwyddiannau ardderchog.
Eich Profiad o fod yn Fyfyrwyr
Rydym yn disgwyl eich croesawu chi gyd yn ôl i Gaerdydd yn y flwyddyn academaidd newydd, ac rydym yn parhau i gynllunio sut byddwn yn darparu gweithgareddau ar y campws yn rhan o gyfuniad rhagorol o ddarpariaeth ar y campws ac addysg ddigidol.
Bydd manylion bob rhaglen yn cael eu cadarnhau a’u rhannu gyda chi ym mis Awst.
Rydym yn awyddus i chi gyfrannu at ein gwaith cynllunio ar gyfer y flwyddyn newydd, ac fel y soniais yn fy ebost ar 29 Mehefin, mae ein Harolwg Addysg Ddigidol nawr yn fyw a hoffwn annog pob myfyriwr sy’n dychwelyd ym mis Medi i gael dweud eu dweud a chwblhau’r arolwg. Diolch i chi ymlaen llaw am ein helpu i siapio eich profiadau.
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, mae’n bwysig eich bod yn ailymgeisio am gyllid myfyrwyr ar gyfer mis Medi cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn ei dderbyn ar amser.
Partneriaeth y Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr
Ym Mhrifysgol Caerdydd mae gennym bartneriaeth gref gydag Undeb y Myfyrwyr a’r corff myfyrwyr yn gyffredinol.
Ar ben hynny, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Undeb y Myfyrwyr ac rwy’n falch o gadarnhau:
- Cyfleoedd â phellter cymdeithasol i chi ailymuno ag ystod o dros 200 o glybiau a chymdeithasau, un ai yn y Brifysgol, adeilad Undeb y Myfyrwyr, rhywle arall ar y campws neu ar-lein
- Bydd adeilad Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu ar sail 24/7 yn ystod y tymor cyntaf, gydag rhai cyfyngiadau o bosibl ar adegau oherwydd mwy o waith glanhau
- Bydd Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb (gyda phellter cymdeithasol) ac yn parhau i gynnig apwyntiadau ar-lein. Bydd Cyngor i Fyfyrwyr yn parhau i hyfforddi a chefnogi ein grwpiau cymorth dan arweiniad myfyrwyr megis Nightline a Student Minds.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Undeb y Myfyrwyr a’u cynlluniau ar gyfer 2020/21 ar Twitter Facebook ac Instagram
Chwaraeon
Hefyd, rwy’n falch o allu rhannu sut bydd chwaraeon yn dychwelyd i’n campws. Fel y byddwch wedi’i ddisgwyl mae’n siŵr, ry’n ni’n gorfod rhoi ystod o gamau ar waith er mwyn gwneud hyn yn ddiogel:
- Bydd clybiau chwaraeon yn cwrdd, hyfforddi a chystadlu yn unol â chanllawiau corff llywodraethu cenedlaethol pob camp, yn ogystal â chanllawiau’r llywodraeth. Fel ym mhob prifysgol yn y DU, mae’r rhan fwyaf o chwaraeon timau cystadleuol BUCS rhwng sefydliadau wedi cael eu gohirio tan mis Ionawr 2021. Mae rhywfaint o chwaraeon cystadleuol rhwng prifysgolion lleol yn cael ei ystyried yn ystod y tymor cyntaf, os yw’r canllawiau’n caniatáu hynny.
- Bydd amserlen ffitrwydd grŵp llawn ar waith, a bydd ein campfeydd ar agor ar gyfer ymarfer corff cardiofasgwlaidd ac ymarfer corff gyda phwysau rhydd. Bydd ein neuaddau chwaraeon hefyd ar agor i glybiau chwaraeon y Brifysgol eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau ffitrwydd (gan ddilyn rheolau pellter cymdeithasol).
- Er mwyn gwneud hyn yn ddiogel, bydd rhaid trefnu sesiynau yn y gampfa ymlaen llaw, bydd cyfyngiad ar niferoedd mewn dosbarthiadau a lleihad mewn amseroedd dosbarthiadau, bydd marciau ar y lloriau lle bo angen ac, yn yr un modd â lleoedd eraill ar y campws, byddwn yn glanhau’n drylwyr
- Fodd bynnag, bydd ein caeau awyr agored ar gau ar gyfer chwaraeon timau nes bydd y llywodraeth a/neu gyrff llywodraethu cenedlaethol yn caniatáu i chwaraeon ddychwelyd ar lefel gymunedol. Nid ydym yn gallu cadarnhau argaeledd a fforddiadwyedd lleoliadau allanol ar gyfer clybiau chwaraeon ym mis Medi eto (e.e. pyllau nofio).
- Gan fod yr amserlen addysgu wedi cael ei hymestyn i gynyddu ein hadnoddau addysgu i’r eithaf ar y campws, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd sy’n nodi na fydd prynhawniau Mercher ar gadw ar gyfer chwaraeon mwyach. Fodd bynnag, byddwn yn ymrwymo i ailgyflwyno hyn wrth i’r rheolau pellter cymdeithasol ddod yn fwy hyblyg, a phan fydd ein hamserlen addysgu arferol yn gallu dechrau eto.
Gobeithio bod yr ebyst hyn o ddefnydd i chi – byddwn yn parhau i’w hanfon i fyfyrwyr bob pythefnos dros yr haf, felly cadwch lygad ar eich ebyst a’r fewnrwyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014