Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Neges gan y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr

29 Mehefin 2020

Annwyl Fyfyriwr,

Yn amlwg, bydd y flwyddyn academaidd nesaf yn wahanol i unrhyw un arall. Fodd bynnag, byddwn yn barod i’ch croesawu yn ôl mewn ffordd sy’n cydbwyso eich addysg a’ch profiad myfyriwr ehangach, â’r angen i’ch cadw chi, ein staff a’r gymuned ehangach yn ddiogel. Roeddwn i am ddefnyddio’r neges hon i roi ymdeimlad i chi o sut y byddwn yn gwneud hynny, a’r mesurau rydym yn dechrau eu rhoi ar waith. Fel rwyf yn siŵr y byddech yn ei werthfawrogi, mae pandemig y Coronafeirws yn golygu y gall fod angen adolygu hyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddilyn canllawiau newidiol y llywodraeth yn y DU, Cymru ac ar gyfer Addysg Uwch.

Eich diogelwch a’ch lles

  • Yn unol â gofynion y llywodraeth, bydd angen cadw at bellter cymdeithasol drwy gampws y Brifysgol i gyd (ac ar draws y ddinas)
  • Bydd gan ein hadeiladau arwyddion clir ar gyfer llwybrau cerdded unffordd, cyfleusterau golchi dwylo ychwanegol, a chaiff pwyntiau cyffwrdd uchel (e.e. dolenni drysau) eu glanhau’n rheolaidd
  • Rydym yn disgwyl y bydd angen i bawb wisgo masgiau dros eu hwynebau yn ein hadeiladau. Fodd bynnag, wrth addysgu, ni fydd ein hacademyddion yn eu gwisgo wrth addysgu gan y gall gorchuddion wyneb ei wneud yn anodd eu deall.
  • Er mwyn gwneud y mwyaf o’r gofod, a bod yn ystyriol o iechyd a lles pawb, byddwn yn parhau i leihau nifer y bobl sydd ar y campws cymaint â phosibl. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau y gallwch gael mynediad atynt, neu eich profiad myfyriwr.

Eich astudiaethau

  • Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau addysgu bach wyneb yn wyneb ac o bellter cymdeithasol lle bo’n berthnasol, gan gynnwys gwaith labordy, addysgu clinigol a sesiynau ymarferol eraill megis y rhai hynny yn ein Hysgolion Pensaernïaeth a Cherddoriaeth
  • Bydd y rhain yn elwa o fesurau diogelwch ychwanegol, ochr yn ochr â gweithgareddau ac adnoddau addysgu a dysgu ar-lein sydd o ansawdd uchel
  • Yn fuan, byddwn yn anfon arolwg ynglŷn â’ch profiad dysgu digidol a byddwn hefyd yn recriwtio ar gyfer ein paneli mewnwelediad myfyrwyr er mwyn cael adborth ar eich profiad myfyriwr a’ch cynlluniau ar gyfer y sesiwn academaidd newydd
  • Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ar sut y gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich adnoddau dysgu ar-lein a chael cefnogaeth gyda sgiliau astudio. Bydd ein tudalen sgiliau astudio yn parhau i gael ei diweddaru ag adnoddau newydd.

Llyfrgelloedd

  • Bydd ein Llyfrgelloedd yn gweithredu gwasanaeth ‘clicio a chasglu’, gan eich galluogi i gasglu a dychwelyd llyfrau’n ddiogel, mewn un o nifer o bwyntiau casglu ar draws y campws
  • Bydd modd cadw lle ym mannau astudio ein Llyfrgelloedd ar gyfer slotiau dwy awr, a bydd gan bob un fesurau pellter cymdeithasol a diogelwch ychwanegol ar waith. Cewch ragor o fanylion am ein Llyfrgelloedd yma

Lleoliad ac astudio dramor

  • Rydym wedi gorfod gwneud rhai newidiadau i’n hystod o leoliadau a rhaglenni astudio dramor ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i roi trefniadau newydd ar waith gan ddilyn cyngor y llywodraeth o hyd
  • Yn anffodus, mae eisoes yn glir na fydd rhaglenni nad ydynt yn ymwneud ag iaith, lleoliadau rhyngwladol a chyfleoedd astudio dramor y tu allan i Ewrop a oedd i fod i ddechrau yn ystod semester 1 yn cael eu cynnal, ac rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i’w canslo. Bydd myfyrwyr a effeithiwyd gan hyn yn cael gohebiaethau penodol gan naill ai’r Tîm Cyfleoedd Byd-eang neu’n uniongyrchol gan eu Hysgol.
  • Ein bwriad yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a rhoi gwybod i chi am benderfyniadau cyn gynted â phosibl, ac yn fuan byddwn yn diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch lleoliadau ac astudio dramor er mwyn esbonio’r gwaith cynllunio sy’n mynd rhagddor a’r amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau. 

Eich cefnogi chi

  • Er mai ein nod fydd cyflawni cymaint o waith dysgu â phosibl, rydym yn gwybod na fydd rhai ohonoch yn gallu dychwelyd i’r campws os rydych yn hunan-warchod, neu’n byw â’r rhai hynny sy’n hunan-warchod. Os bydd hyn yn gymwys i chi cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia drwy ebostio disability@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2051 8888 fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu rhoi addasiadau rhesymol ar waith er mwyn eich galluogi i barhau â’ch dysgu. Byddai’n ddefnyddiol pe byddech yn gallu gwneud hyn cyn gynted â phosibl, fel bod amser i weithio gyda chi i nodi datrysiadau priodol ar gyfer eich amgylchiadau unigol.
  • Rydym yn gwybod efallai na fydd rhai myfyrwyr eraill yn gallu dychwelyd i’r campws oherwydd cyfyngiadau teithio neu, ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, efallai y bydd angen i rai hunan-warchod os oes gan aelod o’u cartref symptomau’r Coronafeirws. Rydym yn gweithio i ymestyn ein proses addasu resymol er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr sydd mewn un o’r sefyllfaoedd hyn fynediad at gynnwys digidol, lle y bo’n briodol ac ar gael, a chaiff rhagor o wybodaeth ei rhyddhau maes o law.
  • Mae Cronfa Galedi Ariannol y Brifysgol yn cael ei hadolygu fel y gall helpu myfyrwyr na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad at adnoddau dysgu ar-lein
  • Bydd ein timau Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn parhau i ddarparu cefnogaeth i bob un o’n myfyrwyr ac i fyfyrwyr sy’n byw yn llety’r brifysgol.

Diolch am eich dealltwriaeth barhaus wrth i ni weithio drwy’r cryn dipyn o waith a gyflawnir er mwyn ailagor ein campws mewn modd diogel ac effeithiol.  Wrth i fwy o benderfyniadau gael eu gwneud, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, felly parhewch i edrych ar eich ebost a’r rhyngrwyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr