Neges gan y Rhag Is-Ganghellor i’r myfyrwyr
1 Mehefin 2020Annwyl fyfyriwr,
Ysgrifennaf atoch i roi’r diweddaraf i chi ar y newidiadau sy’n cael eu rhoi ar waith yn y Brifysgol er mwyn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Yn ddiweddar, rwyf wedi cael fy mhenodi i rôl Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr (gallwch ddarllen rhagor am fy rôl yma), ac mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn o ran gwneud popeth posibl i sicrhau bod eich diogelwch a’ch lles yn dod gyntaf, wrth barhau i roi mesurau yn eu lle i’ch galluogi i barhau â’ch dysgu yng Nghaerdydd.
Diolch am eich ymgysylltiad positif wrth i ni wneud newidiadau cyflym i ddysgu o bell dros y misoedd diwethaf. Rydym ni’n gwybod bod y coronafeirws (COVID-19) wedi creu llawer o ansicrwydd i chi, o ran y newidiadau i’ch addysg nawr ond hefyd o ran y cynlluniau a’r gobeithion sydd gennych o bosibl ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Yn gyntaf, rwyf eisiau eich cysuro mai agor ein campws ym mis Medi 2020 yw ein cynllun, ac rydym yn gweithio i wneud i’r campws a’n preswylfeydd myfyrwyr gydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth. Byddaf yn dweud ychydig mwy wrthych am sut gallai hyn fod yn wahanol i bryd roeddech chi ar y campws ddiwethaf.
Cynlluniau ar y gweill i ailagor adeiladau’r campws
Ein ffocws yw creu amgylchedd diogel i chi astudio a dysgu ynddo, ac
rydym yn trafod gyda’r llywodraeth ar sut i ail-agor prifysgolion yn
ddiogel. Yng Nghaerdydd rydym ar hyn o bryd yn ystyried pob adeilad
academaidd ac yn pennu’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid
sydd eu hangen i’w ailagor, gan flaenoriaethu diogelwch staff, myfyrwyr
ac ymwelwyr. Mae’r cynllun hwn hefyd yn cynnwys y llyfrgell, labordai,
gwasanaethau TG a gofod astudio a chymdeithasol ehangach. Byddwn yn
rhoi’r diweddaraf i chi maes o law ar ein cynlluniau, ynghyd â’r mesurau
diogelwch a hylendid yr ydym yn eu rhoi ar waith.
Myfyrwyr sy’n graddio
Os ydych yn fyfyriwr israddedig yn eich blwyddyn olaf, efallai eich bod
yn ystyried canlyniad eich gradd a’ch seremoni raddio. Yn rhan o’n Polisi Rhwyd Diogelwch,
cyn bo hir byddwch yn gallu gweld eich marc ‘Cyfartaledd B’ ar SIMS yn
eich Cofnod Academaidd. Bydd pob marc ‘Cyfartaledd B’ yn rhai dros dro
nes iddynt gael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi eich Ysgol, lle byddant yn
ystyried hyn ochr yn ochr â’ch Cyfartaledd Gradd i sicrhau nad yw
unrhyw fyfyriwr dan anfantais oherwydd pandemig y coronafeirws
(COVID-19). Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth â chi drwy Newyddion Myfyrwyr pan fydd ar gael.
Mae’r Tîm Graddio hefyd yn gweithio ar opsiynau amrywiol i ddathlu eich bod chi’n graddio, ac mae hyn yn cynnwys cyfle i gael dathliad rhithwir yn yr haf. Byddwn yn cyhoeddi’r trefniadau ar gyfer hyn yng nghanol mis Mehefin.
Y flwyddyn academaidd nesaf
Gwyddwn mai un o’ch prif bryderon yw sut beth fydd eich profiad fel
myfyriwr o fis Medi ymlaen, ac rwyf eisoes wedi amlinellu sut rydym yn
bwriadu ail-agor y campws, gan sicrhau bod eich iechyd a’ch diogelwch
wrth wraidd pob un o’n penderfyniadau ar hyn.
Bydd angen hefyd edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni profiad Prifysgol Caerdydd heb gyfaddawdu ein gofynion o ran iechyd cyhoeddus. Felly, mae angen i’n dull dysgu ac addysgu fod yn hyblyg ac yn addasol, er mwyn sicrhau eich bod yn dal i gael profiad dysgu o’r radd flaenaf fydd yn eich helpu i lwyddo.
Ni fydd darlithoedd mawr yn cael eu cynnal ar y campws, felly byddwn yn
parhau â gweithgareddau a dosbarthiadau dysgu ysgogol a gwell ar-lein,
ochr yn ochr ag addysgu a dysgu ar y campws. Lle bo modd bodloni
gofynion pellter cymdeithasol, rydym yn ystyried addysgu mewn grwpiau
bach ar y campws, megis tiwtorialau neu sesiynau clinigol, stiwdio a
labordy. Mae tîm ymroddgar yn addasu ein hadeiladau ar hyn o bryd i
fanteisio i’r eithaf ar y gofod addysgu, fel y gallwn gynnal cymaint o
ddysgu ar y safle â phosibl.
Rydym hefyd yn ystyried sut i agor ein llyfrgelloedd i alluogi myfyrwyr
ac ymchwilwyr i gael mynediad at adnoddau nad ydynt ar gael ar-lein –
byddwn yn darparu gofod astudio diogel lle bo modd.
Drwy gydol y broses hon, rydym yn ymgysylltu â’n myfyrwyr ynglŷn â’u profiad o’r ffordd hon o astudio ac rydym yn adeiladu ar eu hadborth yn y deunyddiau cwrs sy’n cael eu paratoi nawr. Cyn bo hir, byddwch yn cael gwahoddiad i lenwi arolwg byr fel y gallwn dderbyn eich mewnbwn ac fel bod modd i chi gyfrannu’n uniongyrchol at lywio ein darpariaeth addysg yn y sesiwn academaidd newydd. Rydym hefyd yn gweithio gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd er mwyn ystyried agweddau eraill ar fywyd myfyrwyr yn 2020/21.
Wrth gwrs, efallai bydd rhaid i agweddau eraill ar eich astudio newid. Rydym yn gweithio gyda’n hysgolion academaidd a’r gwasanaethau cymorth i ystyried dichonolrwydd teithiau astudio, blynyddoedd tramor a lleoliadau gwaith mewn ymateb i ganllawiau’r llywodraeth yn y DU ac yn rhyngwladol. Lle nad yw hi’n bosibl cyflwyno’r gweithgareddau hyn, neu os oes newid i’r ddarpariaeth, byddwn yn agored ac yn onest gyda chi, ac yn rhannu gwybodaeth â chi yn syth. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i newidiadau yn y cwricwlwm, fydd o bosibl yn gorfod cael eu rhoi ar waith oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Rydym ni’n bwriadu cysylltu â chi ganol mis Awst i gadarnhau’r holl drefniadau er mwyn eich helpu i baratoi at ddechrau’r flwyddyn newydd.
Yn olaf, gwyddwn fod sefyllfa’r coronafeirws COVID-19 ac unrhyw ganllawiau’r llywodraeth ei sgîl yn newid yn gyflym, felly er na fyddaf yn gallu ateb pob cwestiwn sydd gennych, wrth i wybodaeth a chynlluniau ddod yn fwy eglur, byddaf yn ceisio rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi’n aml.
Rydym yn parhau i ddiweddaru ein gwybodaeth am newidiadau ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), felly cadwch lygad yn rheolaidd.
Os ydych yng nghanol eich cyfnod asesu, gobeithio ei fod yn mynd yn dda. Rwy’n edrych ymlaen at rannu rhagor o ddatblygiadau â chi maes o law.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014