Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

29 Mai 2020

Annwyl gydweithiwr,

Wrth i ddiwedd mis arall o’r cyfyngiadau symud ddod yn nes, o leiaf mae rhyw obaith y bydd y rheoliadau presennol yn cael eu llacio rywfaint. Wedi dweud hyn, does dim amheuaeth y bydd ychydig o amser eto nes i ni weld sefyllfa debyg i’r amodau cyn-Covid. Wrth i’r feirws ddechrau cael ei reoli fwy, gallwn ddisgwyl y bydd ffyrdd newydd o weithio a rhyngweithio yn caniatáu i ni ailagor y campws yn raddol i baratoi at dderbyn myfyrwyr, yn unol â chyngor iechyd cyhoeddus, ac wrth gwrs y protocolau pellter cymdeithasol. Byddwn yn cyfyngu ar niferoedd a gweithgareddau mewn sawl ffordd, a bydd angen i’n dull gyfuno dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb ac o bell, ond byddwn yn agor y campws os yw hynny’n bosibl. Gyda’r coronafeirws, mae hi’n anodd bod yn siŵr o unrhyw beth, ond rydym yn tybio y bydd y rheoliadau pellter cymdeithasol yn dal ar waith fel nawr, ond bydd y cyfyngiadau symud presennol yn cael eu llacio’n sylweddol. Er hyn, ni fydd yr amodau’n debyg o gwbl i unrhyw beth y byddem wedi disgwyl ei weld cyn-Covid. Ar y sail honno rydym wedi creu dogfen sy’n amlinellu’r egwyddorion a’r tybiaethau gweithio ar gyfer ein dull darparu addysg yn y flwyddyn academaidd nesaf, fydd yn cael ei hanfon at bob Ysgol ddydd Gwener. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru wrth i’r sefyllfa newid.

Mae cydweithwyr yr adran Ystadau wedi bod yn gweithio’n galed iawn i asesu capasiti ein hadeiladau pan fyddwn yn gallu eu hail-agor at ddibenion addysgu. Mae’n anochel y bydd y capasiti’n llai, a bydd y defnydd o’r adeiladau’n cynnwys rhai mesurau tebyg i archfarchnadoedd, megis systemau unffordd. Gan y bydd cyfleusterau tŷ bach yn gyfyngedig at ddibenion gofod, rydym yn ystyried gosod cyfleusterau ychwanegol y tu allan i adeiladau a defnyddio allanfeydd amgen i ganiatáu system unffordd. O ran addysgu wyneb yn wyneb, bydd capasiti’r ystafelloedd addysgu ac adeiladau yn eu cyfanrwydd yn dibynnu’n fawr iawn ar yr union reolau pellter cymdeithasol. Mae ein rheol dau fetr ni cyfwerth ag 1.5m mewn rhai gwledydd eraill, a dim ond 1m yn ôl canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Byddai’r gwahaniaethau hynny’n cael effaith fawr a bydd unrhyw newid yn sicr yn hwyluso ein gwaith cynllunio. Fel y soniais yn fy ebost ar 21 Mai, rydym eisoes yng nghanol y broses o ailagor labordai a chyfleusterau eraill i ymchwilwyr, a bydd y broses hon yn dangos y ffordd o ran sut i ddefnyddio ein hadeiladau dan yr amodau newydd hyn.

Rydym hefyd yn asesu’n ofalus capasiti ein preswylfeydd i fyfyrwyr, ac yn ystyried sut i weithio gyda darparwyr llety preifat i sicrhau iechyd a diogelwch ein myfyrwyr. Mae gennym gryn brofiad o hyn gan fod cannoedd o fyfyrwyr wedi aros yn y preswylfeydd yn ystod yr argyfwng. Mater o benderfynu sut i gynyddu’r niferoedd yw hwn, ac i ba raddau y mae hynny’n bosibl.

Ar hyn o bryd rydym yn ystyried y ffordd orau o agor ein llyfrgelloedd a galluogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i’w defnyddio er mwyn cael mynediad at adnoddau nad ydynt ar gael ar-lein. Os gallwn ddarparu gofod astudio diogel i fyfyrwyr, byddwn yn gwneud hynny. Ond fel bob amser, bydd angen i iechyd defnyddwyr y llyfrgell fod wrth wraidd y broses. Mae’n bosibl y bydd angen gweithredu system archebu fel bod modd sicrhau nad yw’r niferoedd yn uwch na chapasiti diogel, a bod pawb yn cadw at reolau pellter cymdeithasol.

Yn amlwg hefyd bydd mesurau hylendid yn bwysig iawn. Mae canllawiau’r llywodraeth ar olchi dwylo yr un mor berthnasol nawr ag yr oeddent cyn y cyfyngiadau symud, yn enwedig os yw pobl yn symud o amgylch gofod a rennir yn aml. Bydd angen i ni sicrhau bod cyfleusterau ar gael, gan gynnwys mannau gel gwrthfeirysol mewn lleoliadau cyfleus. Yn ogystal, bydd angen trefnu rhaglen reolaidd o ddiheintio mannau fydd yn cael eu cyffwrdd yn aml megis dolenni drysau a botymau.

Mae gan Brifysgol Caerdydd fantais, oherwydd mae’n debygol y byddwn yn gallu cynnig ein cyfleuster profi ein hunain er mwyn canfod lledaeniad y feirws ac asesu pa gyfran o’n poblogaeth sydd eisoes wedi cael y feirws, ac sydd ag imiwnedd o ganlyniad. Nid yw’r wyddoniaeth ynghylch hyn oll wedi’i chadarnhau eto, ond gyda lwc, bydd mwy o eglurder erbyn mis Medi. Os byddwn yn gallu un ai sgrinio neu samplu myfyrwyr a staff sy’n dod i’r campws, bydd gennym gyfle gwell i amddiffyn iechyd pawb a chanfod unrhyw achosion o’r feirws er mwyn eu rheoli. Rydym wedi gallu cynnull grŵp o arbenigwyr, sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Andrew Westwell o’r Ysgol Fferylliaeth. Maent wedi llunio cynllun manwl ac yn gweithio’n agos gyda swyddogion y llywodraeth ar y mater.

Rydym hefyd wedi elwa ar waith grŵp o arbenigwyr ar orchuddion wyneb (mygydau wyneb). Mae hyn hefyd yn waith amhrisiadwy, gan roi sail o dystiolaeth lawn gwybodaeth i ni greu polisi yn y maes pwysig hwn. Nid yn unig yw hi’n bwysig helpu i atal unrhyw ledaeniad posibl o’r feirws, ond hefyd i roi sicrwydd i fyfyrwyr a staff ein bod yn cymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau eu hiechyd a’u diogelwch. Byddem yn gweithio gydag awdurdodau iechyd y cyhoedd pe byddem yn canfod unrhyw brofion positif, er mwyn cydymffurfio â’r system olrhain ac ynysu fydd yn sicr ar waith erbyn hynny.

Byddwn hefyd yn rhoi trefniadau ar waith i roi myfyrwyr sy’n cyrraedd y wlad hon o dramor dan gwarantin, ac i ynysu unrhyw achosion posibl o’r haint.

Yn ogystal, rydym yn rhoi cryn sylw i gwestiynau ynghylch y gyfraith a chydymffurfiaeth wrth i ni weithio drwy’r trefniadau cymhleth hyn. Bydd angen i ni gydymffurfio â rheoliadau iechyd y cyhoedd drwy’r amser, yn ogystal â’r gyfraith a chanllawiau, a byddwn yn awyddus i weithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn bartner allweddol, a byddwn yn gweithio law yn llaw â’r GIG yn rhan o’n busnes arferol.

Fel y gwyddoch, y broblem fwyaf yr ydym yn ei hwynebu yw ansicrwydd. Bydd ein holl waith paratoi yn amodol ar gafeatau, ond rydym mewn sefyllfa dda i sicrhau safon dda iawn o ragofalon, ac i roi’r lefel uchaf posibl o sicrwydd i staff a myfyrwyr newydd dan yr amgylchiadau hyn.

Yn olaf, fel y soniais y tro diwethaf, bydd angen i lawer ohonom barhau i weithio o gartref er mwyn lleihau’r baich ar unrhyw drefniadau yr ydym yn eu rhoi ar waith a chyn bo hir, byddwn yn rhannu rhagor o fanylion ar sut byddwn yn hwyluso i’r hirdymor, yn hytrach na datrysiad brys nad oedd wedi’i gynllunio. Byddaf yn cysylltu â chi am hynny cyn gynted â phosibl, yr wythnos nesaf mae’n siŵr, a byddaf hefyd yn rhoi’r diweddaraf i chi ar ein hystyriaethau am y materion ariannol yr ydym yn eu hwynebu.

Dymuniadau gorau Colin Riordan
Is-Ganghellor