Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

21 Mai 2020

Annwyl gydweithiwr

Mewn ebost byrrach yr wythnos hon (gobeithio bod hynny’n iawn) hoffwn roi’r newyddion diweddaraf i chi am dri mater sy’n gysylltiedig â’i gilydd.

Yn gyntaf, yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ddydd Llun 18 Mai, fe gytunwyd y byddai’r Diwrnodau Lles yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mehefin. Er bod lle i wella o hyd, mae llawer wedi dweud wrtha i bod cael diwrnod i ganolbwyntio ar les ym mha bynnag ffordd sy’n gweddu i chi orau, heb gynadleddau fideo ac ebyst, wedi bod o gymorth ac wedi’u galluogi i ymdopi â’r argyfwng presennol yn llawer haws. Felly, mae’r pedwar dydd Gwener canlynol wedi’u neilltuo fel Diwrnodau Lles yn unol ag arferion blaenorol: 5 Mehefin, 12 Mehefin, 19 Mehefin a 26 Mehefin. Unwaith eto, os nad oes modd i aelod staff fanteisio ar Ddiwrnod Lles oherwydd bod disgwyl iddynt wneud gwaith hanfodol ar y safle neu i ffwrdd ohono, mae disgwyl i reolwyr ddyrannu amser i’r unigolyn ar ddiwrnod arall. Gobeithio y bydd hyn yn eich galluogi i reoli sefyllfa anodd yn haws.

Yn ail, daeth y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau (un o is-bwyllgorau pwysig y Cyngor) ynghyd ddydd Mawrth 19 Mai. Fe ystyriwyd sawl mater gan gynnwys papur gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ynghylch y gofyniad cychwynnol i arbed 10% o wariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. O ran egwyddorion sylfaenol, fe gynigiodd y Bwrdd y dylai’r Brifysgol geisio diogelu swyddi yn y lle cyntaf a bod angen proses deg a chyson. Fe gynigiwyd hefyd y dylai newidiadau gael eu gwneud drwy ymgynghori â staff ac undebau ac na fyddai cynllun diswyddo gwirfoddol oherwydd byddai hynny’n ychwanegu at y gwariant. Rydym yn siarad â chynrychiolwyr undebau’r campws ynghylch sut i ddiogelu swyddi a pharatoi ar gyfer incwm is ar yr un pryd. Wrth i’r sefyllfa o ran refeniw ffioedd ddod yn fwy eglur yn ystod yr haf, bydd gennym well syniad o ble byddwn yn sefyll. Fodd bynnag, ni allwn aros tan hynny cyn gwneud ein harbedion cychwynnol. Yn wir, mae’n edrych yn fwy na thebyg y bydd angen i ni wneud rhagor o arbedion bryd hynny. Nid yw Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru wedi dweud yn bendant na fydd rhagor o gymorth ar gael ar gyfer y sector (er, yn ddiamheuol, byddai rhai amodau ynghlwm â chael rhagor o arian), ni allwn ragdybio oni bai y ceir ymrwymiad clir mai dyna fydd yn digwydd. Mi fedraf eich sicrhau bod pob un o’n rhwydweithiau – Prifysgolion Cymru, Prifysgolion y DU a Grŵp Russell – yn gweithio’n galed iawn yn egluro ein hachos ac yn cynnig atebion posibl. Hoffwn ddweud bod gweinidogion Cymru a’r DU wedi bod yn agored iawn ac yn barod i gyfathrebu, ac maent yn deall y sefyllfa sydd ohoni. Rydym yn sylweddoli pa ofynion sydd ar y llywodraeth ac nid oes modd gwarantu unrhyw beth. Fodd bynnag, bydd y diwrnodau a’r wythnosau nesaf yn hanfodol a byddaf mewn cysylltiad â chi cyn gynted ag y byddwn yn gwybod y naill ffordd neu’r llall.

Yn olaf, fe gofiwch imi sôn am Dasglu’r Coronafeirws yn yr ebost a’r fideo a anfonais ar 7 Mai. Fe ddaeth y Tasglu ynghyd am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf. Gallwch weld yr aelodaeth gychwynnol a’r cylch gorchwyl ar fewnrwyd y staff. Caiff crynodeb o’r prif bwyntiau eu hychwanegu yn y man, ac rydym yn cyflwyno ffordd o’ch galluogi i gynnig sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut y dylem fynd ati gyda’r gwaith hwn. Mae’r gwaith hwn yn newydd i bob un ohonom a chaiff eich mewnbwn ei ystyried os nad ydyw ar yr agenda eisoes. Bydd y Tasglu yn cyflwyno argymhellion i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn rheolaidd. Eu hargymhelliad cyntaf oedd ailagor ein hadnoddau ymchwil yn raddol, a chytunwyd ar hwn yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Llun diwethaf. Bydd hyn yn digwydd mewn tri cham ac mae’n hanfodol ein bod yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru drwy ystyried ymchwil hanfodol yn unig sy’n gorfod cael ei chynnal yn adeiladau’r Brifysgol ar gyfer y cam cyntaf. Ar gyfer y cam hwn, ni allwn adael i lawer o ymchwilwyr fod yma, felly byddwn yn gofyn i Ysgolion flaenoriaethu. Wedi hynny, fe gaiff penderfyniadau eu gwneud yn ganolog ynghylch faint o bobl all fod mewn adeiladau a labordai yn unol â’r dadansoddiadau o le yr ydym wedi’u cynnal. Ni fydd yn bosibl cynnal ymchwil lle mae pobl yn cymryd rhan tan nes ymlaen yn y broses. Rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf, felly dim ond yn ystod camau 2 a 3 (ac mae’n flin gennyf na allwn roi dyddiadau pendant ar gyfer hyn eto gan ei fod yn dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru) y byddwn yn paratoi ar gyfer derbyn rhagor o bobl i wneud ymchwil ar raddfa lawer ehangach. Bryd hynny, byddwn hefyd yn edrych ar sut gallwn gefnogi nifer o grwpiau ymchwil i weithio mewn adeiladau yn ogystal â chynnal ymchwil lle mae pobl yn cymryd rhan mewn modd diogel. Rydym yn gwbl ymwybodol bod ymchwilwyr sy’n gweithio gartref yn wynebu anawsterau penodol, felly byddwn yn cynnig cyngor a chymorth i’w helpu i hwyluso hynny.

Mae’r Tasglu a’i is-grwpiau yn gweithio’n galed hefyd ar sut i ymdopi â myfyrwyr yn ddiogel ar y campws ac yn ein preswylfeydd o fis Medi ymlaen, os bydd hynny’n bosibl. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn bosibl ac fe roddaf y newyddion diweddaraf i chi wrth i gynigion gael eu cadarnhau.

Hoffwn ddiolch i gydweithwyr ar draws y Brifysgol am eu hamynedd. Er gwaethaf yr holl anawsterau, mae parodrwydd eithriadol cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i gydweithio yn parhau i greu argraff arbennig. Heb os nac oni bai, byddwn yn cyflawni’r hyn sydd orau os gallwn weithredu ar y cyd er lles pawb, a chredaf fod ein cynnydd hyd yma mewn amgylchiadau anodd dros ben yn brawf o hynny. Mwynhewch benwythnos gŵyl y banc, a byddaf mewn cysylltiad cyn diwedd y mis.

Dymuniadau gorau Colin Riordan
Is-Ganghellor