Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
7 Mai 2020
Annwyl gydweithiwr,
Hyd yn oed ers yr ebost a anfonais atoch wythnos yn ôl, bu nifer o ddatblygiadau pwysig. Mae’r llywodraeth wedi ymateb i gais UUK am gymorth ariannol, ac rydym wedi ystyried ymhellach sut i fynd i’r afael â’r problemau ariannol a wynebwn. Wrth i’r cyfraddau heintio a nifer y marwolaethau ostwng, mae hefyd yn amlwg ein bod yn agosáu at ddiwedd cyfnod y cyfyngiadau llym sydd wedi bod ar waith ers 23 Mawrth. Fodd bynnag mae hefyd yn glir mai yn raddol y caiff y cyfyngiadau eu llacio ac na fyddwn yn dychwelyd i’r drefn flaenorol.
Yn y cyd-destun hwn, rydym yn gwneud cynlluniau i ailagor y Brifysgol yn raddol dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, bydd cafeat sylweddol yn gysylltiedig â hynny oherwydd bydd angen cyfyngu ar y niferoedd y gallwn eu caniatáu ar y campws ar unrhyw adeg benodol. Ar hyn o bryd, credwn yn gyffredinol y dylem ddechrau agor ein cyfleusterau ymchwil a pharatoi ar gyfer ailgyflwyno addysgu wyneb yn wyneb o fis Medi os nad oes dulliau ymarferol eraill o addysgu o bell ar gael. Bydd angen i ni barhau i gyfyngu ar fynediad, felly bydd y rhai nad oes angen iddynt ddod i’r campws ar gyfer eu hymchwil, addysgu neu waith arall, yn gorfod parhau i weithio gartref. Bydd hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld. Bydd ailagor yn broses raddol a bydd angen llawer iawn o gynllunio manwl. Ar hyn o bryd, nid yw’n glir pryd byddwn yn gallu dychwelyd i sefyllfa heb unrhyw gyfyngiadau mynediad, ond gallwn dybio bydd yn cymryd blwyddyn i 18 mis o leiaf, os nad mwy na hynny.
Mae llawer iawn o ffactorau anhysbys o hyd, gan gynnwys beth fydd canllawiau a rheoliadau’r llywodraeth o ran cadw pellter cymdeithasol, gorchuddio wynebau, profion, olrhain cysylltiadau, trefniadau ynysu, ac yn y blaen. Yn amlwg, bydd angen i ni gydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau perthnasol eraill wrth i ni ystyried y materion hyn. Rydw i’n creu tasglu ar hyn o bryd y byddaf yn ei arwain yn bersonol er mwyn cydlynu pob elfen o ailagor a dod i’r penderfyniadau allweddol. Yn ogystal â phenderfynu faint o bobl fydd yn cael bod mewn adeiladau, blaenoriaethau o ran mynediad, bioddiogelwch (cyfleusterau hylendid a gweithdrefnau diheintio) a’r hyn a ddisgwylir gan y rhai sy’n dod ar y campws (gwisgo masgiau wynebau, cadw pellter cymdeithasol), bydd angen i ni sicrhau bod y cyhoedd yn ymddiried yn y camau rydym yn eu cymryd.
Mae’r holl faterion uchod yn rhai sy’n cael eu datblygu ac yn gallu newid. Felly, rydw i wedi recordio’r fideo sydd ar gael yma, yn hytrach na cheisio ysgrifennu popeth a fyddai’n arwain at ebost eithaf hirfaith. Gan fy mod i, fel y rhan fwyaf ohonom, yn gweithio gartref, gobeithio y byddwch yn maddau am y ffaith fod yr ansawdd a’r lleoliad ychydig yn anffurfiol.
Cynhaliodd y Cyngor gyfarfod ychwanegol yn gynharach yn yr wythnos oherwydd yr argyfwng. Yn y cyfarfod fe gyflwynais fersiwn ddiwygiedig o’r Ffordd Ymlaen 2018-23 sy’n ystyried y newidiadau enfawr mae pob un ohonom wedi’u profi ac y gallwn eu disgwyl yn y dyfodol. Bydd y cyfyngiadau o bwys ar ein gweithgareddau addysgu ac ymchwil yn cael effaith arwyddocaol fydd yn dod i’r amlwg yn raddol dros y misoedd nesaf. Fodd bynnag, mae’n amlwg mai dal ein tir yn ystod cyfnod anodd ddylai gael ein prif sylw dros y flwyddyn i ddod, nid ein perfformiad cymharol fel prifysgol. Felly, ni fydd materion fel ein safle ar dablau cynghrair a dangosyddion perfformiad yn flaenoriaeth am y tro. Bydd angen i ni dderbyn mai iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr a’n staff yw ein prif flaenoriaeth heb os nac oni bai, a bod cynaliadwyedd ariannol yn hanfodol er mwyn sicrhau hynny. Yn ei hanfod, rhaid i ni sicrhau bod y Brifysgol yn dod drwy gyfnod o gyfyngiadau ariannol llym sy’n mynd i bara o leiaf dwy flynedd yn ôl pob tebyg. Rhaid i ni ddod allan mor gryf â phosibl yr ochr arall er mwyn chwarae ein rhan wrth gael ein cefn atom yn sgîl effeithiau economaidd a chymdeithasol andwyol a digynsail yr argyfwng. Rhaid i ni nodi’n glir beth fydd y rôl hon a pham rydym yn bwysig er lles y llywodraeth a’n holl randdeiliaid gan gynnwys y cyhoedd, ein cymunedau lleol a’n partneriaid. Bydd angen ymagwedd strategol wahanol er mwyn cyflawni hyn fel bod ein pum maen prawf llwyddiant yn flaenllaw yn ein meddyliau. Yn ogystal ag iechyd holl aelodau’r Brifysgol a’i chynaladwyedd ariannol, bydd angen i ni ganolbwyntio ar fodlonrwydd myfyrwyr a’u profiad yn yr amgylchiadau digynsail hyn. Rhaid i ni ystyried sut i gyflawni grantiau a chontractau ymchwil yn ogystal â sut i ail-lunio ein cenhadaeth ddinesig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu’n effeithiol at y broses o wella yn dilyn argyfwng COVID-19.
Cymeradwyodd y Cyngor y cynigion a’r cam nesaf fydd ymgynghori’n eang ynghylch strategaeth y Ffordd Ymlaen. Felly, byddwn mewn cysylltiad dros yr wythnosau nesaf i roi gwybod sut y gallwch leisio eich barn a chymryd rhan yn y drafodaeth. Mae angen i bawb gydweithio er mwyn dod drwy’r cyfnod anodd i ddod, ac mae’n bwysig ein bod yn ceisio barn yn eang ynghylch sut i fynd ati i wneud hyn yn strategol.
Cyn imi orffen, hoffwn dynnu eich sylw at brosiect ymchwil a arweinir gan Dr Athanasios Hassoulas o’r Ysgol Meddygaeth. Nod y prosiect yw edrych ar effaith pandemig COVID-19 ar bobl ag arwyddion a symptomau Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD), yn enwedig y rhai â symptomau obsesiynol ac sy’n ymwneud â halogi. Gyda lwc, bydd yr ymchwil yn nodi meysydd allweddol i’w targedu er mwyn datblygu ymyriadau wedi’u teilwra a allai gael eu cyflwyno’n syth. Hoffai’r tîm recriwtio digon o bobl i gymryd rhan dros y deufis nesaf er mwyn gallu dechrau dadansoddi yn ystod yr haf. Os hoffech gymryd rhan, cewch hyd i ragor o wybodaeth ac agor yr arolwg yma.
Mae’r prosiect ymchwil yn ein hatgoffa hefyd ar adeg amserol o gostau anhysbys enfawr y pandemig. Mae pob math o effeithiau na fyddant yn amlwg yn syth, ond bydd yr argyfwng wedi amlygu rhai eraill hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys anghydraddoldebau iechyd yn ogystal â’r posibilrwydd o feio pobl o grwpiau ethnig neu wledydd penodol. Gall colli incwm hefyd gael effaith niweidiol dros ben ar deuluoedd oedd eisoes yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Nid yw’r argyfwng yn golygu y dylem anwybyddu problemau cyfredol sy’n peri llawer o bryder fel cydraddoldeb hiliol, ac rwyf yn awyddus i barhau â’n gwaith yn y meysydd hyn a rhai eraill tebyg. Nid wyf am ychwanegu at bwysau gwaith unrhyw un, ond rhowch wybod os oes gennych syniadau neu awgrymiadau ynghylch sut i symud y gwaith hwn yn ei flaen yn ystod cyfnod parhaus o addasu i fodolaeth COVID-19 yn ein byd.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014