Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
29 Ebrill 2020Annwyl gydweithiwr,
Yn fy ebost diwethaf fe addewais i rannu’r newyddion diweddaraf gyda chi ar ein sefyllfa ariannol. Rydych chi wedi ymateb yn rhagorol i’r heriau enfawr sydd wedi codi yn sgil Covid-19 hyd yma, ac er ein bod yn wynebu rhai heriau yn y flwyddyn ariannol bresennol (sy’n dod i ben ym mis Gorffennaf), mae’n edrych yn debygol y gallwn ymdopi â nhw. Bydd y problemau gwirioneddol yn codi yn y flwyddyn ariannol (ac academaidd) nesaf, 2020/21.
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi casglu mai’r sector addysg fydd yn gweld yr effaith mwyaf difrifol yn sgil pandemig Covid-19 o blith pob sector, gyda chwymp o 90% yn y cyfraniad gwerth ychwanegol i’r economi. Mae adroddiad London Economics a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) yn egluro’r gwirioneddau llym. Yng Nghymru, yn y flwyddyn academaidd nesaf, mae’r adroddiad yn cyfrifo y gallai wyth prifysgol Cymru gyda’i gilydd golli 13,250 o fyfyrwyr, gyda thros hanner y rhain yn rhyngwladol. Mae hyn yn trosi’n gwymp cyfunol o £98m mewn incwm, er bod hyn yn cyfeirio at incwm ffioedd dechreuwyr newydd yn unig. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai prifysgolion o’r un maint ac ehangder gweithgaredd â ni weld cwymp o 24% mewn cofrestriadau myfyrwyr blwyddyn gyntaf. Yn ogystal byddem ni’n colli incwm o breswylfeydd ac arlwyaeth, a dylem ni hefyd ddisgwyl gostyngiad mewn incwm gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd a myfyrwyr ôl-raddedig. Yn anffodus mae hyn yn golygu bod hyd yn oed y ffigur cyfartalog a geir yn yr adroddiad o £37m o golled yn debygol o fod yn dan-ddatganiad sylweddol.
Gan weithio gyda Grŵp Russell, yn gynharach y mis hwn cyflwynodd Universities UK (UUK) gynigion ar ran y sector i lywodraeth San Steffan am gymorth ariannol fyddai’n galluogi sefydliadau i chwarae eu rhan yn llawn i gefnogi adfywiad cymdeithasol ac economaidd y wlad ar ôl y pandemig. Cyfeiriodd UUK at y tebygolrwydd o ostyngiad sylweddol mewn cofrestriadau myfyrwyr o’r tu allan i’r DU, sydd ar hyn o bryd yn dod â ffioedd blynyddol o £6.9bn, lefel sylweddol o ohirio ymhlith darpar fyfyrwyr y DU a chwymp mawr yn yr incwm cenedlaethol o lety, arlwyaeth a chynadleddau, sydd ar hyn o bryd yn £790m. Nid yw’r rhain yn effeithiau y gellir eu gwrthbwyso gyda rhaglenni’r llywodraeth sydd ar gael yn gyffredinol fel y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cyfleuster Cyllid Corfforaethol, ac felly mae UUK wedi gofyn am gyllid ychwanegol sylweddol am flwyddyn er mwyn i ni allu goroesi’r cyfnod anodd hwn. Ar ben hynny, mae UUK/MillionPlus newydd gyflwyno cynnig i’r Adran Addysg/Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n edrych ar sut gall prifysgolion a’r llywodraeth gydweithio er mwyn rhoi hwb i adnoddau addysg a chadw gweithwyr allweddol.
Bydd yr effeithiau’n amrywio ym mhob prifysgol, ac rydym ni’n llunio ein modelau ein hunain o’r effaith posibl ar Gaerdydd. Er bod cyfrifiadau fel hyn yn dibynnu ar y rhagdybiaethau sy’n sail iddynt, ychydig iawn o obaith mae unrhyw ragdybiaethau rhesymol yn ei gynnig y bydd y canlyniad yn unrhyw beth ond yn heriol dros ben. Mae ein modelu’n rhagdybio ymddygiad gwahanol ar ran dechreuwyr newydd i’r myfyrwyr sy’n dychwelyd, ac mewn rhai senarios mae’n tybio erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd y byddwn yn gallu cynnwys niferoedd cyfyngedig o fyfyrwyr a staff ar y campws gan ddilyn protocolau hylendid a phellhau cymdeithasol llym, ond y bydd y rhan fwyaf o’r addysgu’n parhau i gael ei gyflwyno o bell. Gallai fod yn bosibl agor y campws mewn ffordd fwy cyfyngedig yn gynnar yn yr haf i alluogi ymchwilwyr i ddefnyddio labordai a chyfleusterau eraill, ond ni ellir gwarantu dim ar hyn o bryd.
Er bod y senarios hyn yn amrywio o ran pa mor obeithiol yw eu rhagdybiaethau, mae pob un yn gredadwy ar sail yr hyn a wyddom ar hyn o bryd. Yn anffodus, mae hyd yn oed y gorau yn eu plith yn dangos diffygion yn y flwyddyn nesaf o dros £50m os na chymerwn ni unrhyw gamau. Er bod llawer o newidynnau anhysbys, byddai golwg realistig yn rhagweld y byddwn yn colli tua 20% o’n hincwm neu £110m. Hyd yn oed pe bai’r cyllid y galwyd amdano gan UUK a Grŵp Russell yn dod i’r fei, byddai unrhyw fudd i Gaerdydd ar y gorau’n haneru’r diffyg hwnnw, a fyddai’n ein gadael mewn sefyllfa anghynaladwy o hyd.
Rydym ni mewn sefyllfa dda o’n cymharu â llawer o brifysgolion oherwydd ein bod wedi rheoli ein cyllid yn ddarbodus dros y blynyddoedd ac mae’r camau cyfunol a gymeron ni drwy Trawsffurfio Caerdydd wedi helpu’n aruthrol. Ond mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn wynebu problemau llif arian yn y flwyddyn academaidd nesaf os daw’r senarios lleiaf gobeithiol i fod. Am y rheswm hwn rydym ni’n gweithio’n agos gydag undebau’r campws i ymdrin â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’n bwysig cynnal y trafodaethau hynny o’r dechrau yn hytrach nag aros tan y byddwn yn wynebu argyfwng ariannol.
Gallaf eich sicrhau chi fy mod yn cyfathrebu’n fynych gyda gweinidogion llywodraeth Cymru a’u hymgynghorwyr. Maen nhw’n gefnogol ac yn cydymdeimlo ond maen nhw hefyd yn wynebu cyfyngiadau ariannol difrifol. Os byddwn ni’n wynebu colledion sylweddol ni fydd llywodraeth Cymru’n gallu cynnig mesurau lliniaru sylweddol oni bai bod y Trysorlys yn caniatáu’r cyllid a geisir gan UUK.
Mae llawer iawn nad ydym yn ei wybod o hyd. Dydyn ni ddim yn gwybod pryd caiff y cyfyngiadau ar symud eu llacio nac i ba raddau, pa fesurau fydd yn parhau ar waith i reoli lledaeniad y firws na sut y bydd y rhain yn effeithio ar leoliadau addysgol. Y peth da yw ein bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda’r llywodraeth ar sut i ailagor prifysgolion yn ddiogel, ond mae newidiynnau eraill fel y cyfyngiadau ar deithio na fydd gennym ni fawr o ddylanwad arnyn nhw os o gwbl. Felly er bod rhaid i ni beidio â gwneud penderfyniadau byrbwyll, rhaid i ni hefyd beidio ag oedi rhag cymryd camau pan fydd amgylchiadau’n caniatáu hynny.
Mae angen i ni weld sut y bydd pethau’n datblygu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ond rydym ni’n ddigon siŵr y byddwn yn wynebu cwymp difrifol mewn refeniw fel ein bod wedi gosod nifer o fesurau ar waith eisoes i helpu i ddiogelu ein staff presennol, yn cynnwys:
- Atal unrhyw wariant cyfalaf newydd ar adeiladu neu gyfarpar
- Rhewi pob recriwtio ar wahân i rolau hanfodol, fydd angen cael eu cymeradwyo gen i
- Adolygu ein trefniadau gwobrwyo a chydnabod i gyfyngu ar gostau
- Nodi rolau ar gyfer ffyrlo
- Adolygu a newid y ffordd rydym ni’n cyflwyno ac yn asesu llawer o’n cyrsiau
- Gostyngiadau cyflog gwirfoddol gan aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Ar y pwynt olaf, gallaf gyhoeddi fy mod wedi gofyn am 20% o ostyngiad yn fy nghyflog, ac mae aelodau eraill o’r Bwrdd hefyd wedi cytuno ar 10% o ostyngiad yn eu cyflog. Bydd enillion o’r mesurau hyn (a fydd yn parhau am bedwar mis yn y lle cyntaf) yn mynd tuag at gronfa caledi i fyfyrwyr a staff y mae Covid-19 wedi effeithio arnyn nhw.
Mae’n ddrwg gen i orfod ysgrifennu atoch mewn modd mor besimistaidd, ond mae’n bwysig ein bod yn realistig am yr argyfwng hwn, pa mor hir mae’n debygol o barhau a beth sydd angen i ni ei wneud i oroesi’r storm. Yn amlwg, bydd angen i ni ddiwygio ein strategaeth, Y Ffordd Ymlaen 2018-23 gan bwysleisio blaenoriaethau newydd, a’r pwysicaf yn eu plith fydd diogelu iechyd a lles ein myfyrwyr a’n staff. Yn gyd-ddibynnol gyda’r flaenoriaeth honno mae cynaladwyedd ariannol; mae angen i ni reoli ein cyllid yn ddarbodus er mwyn i ni allu dod allan yn gryf a chwarae ein rhan yn y cyfnod adfer. Bydd boddhad myfyrwyr, gweithgaredd ymchwil a chenhadaeth ddinesig – yn enwedig ein cyfraniad at drin yr argyfwng presennol – yn hanfodol. Os byddwn ni’n cydweithio, yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig a pharhau’n ystwyth ac yn hyblyg, byddwn yn dod drwy’r argyfwng hwn yn ddiogel, fel y mae’r Brifysgol wedi gwneud sawl tro yn y gorffennol.
Dymuniadau gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014