Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
23 Ebrill 2020
Annwyl gydweithiwr,
Mae’n ddyletswydd ar wasg rydd i ddwyn llywodraethau i gyfrif. Felly, nid yw’n syndod bod holl lywodraethau’r DU yn cael eu herio ynghylch materion sy’n ymwneud â’r coronafeirws e.e. cynnal profion a darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE). Mae hefyd yn gwbl addas bod y gwrthbleidiau yn holi ac yn cwestiynu’r llywodraeth a yw popeth posibl yn cael ei wneud i helpu’r sefyllfa. Fodd bynnag, ni ddylem anghofio ein bod yng nghanol argyfwng cenedlaethol a bod pobl, ar y cyfan, yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd dros ben. Mae beirniadaeth adeiladol yn bwysig ac o gymorth, a gall arwain at ganlyniadau gwell. Fodd bynnag, nid yw sefyllfa lle mae herio a beirniadu adeiladol yn troi’n gyfle i feio eraill yn mynd i fod o fudd i unrhyw un. Ni fydd unrhyw ymgais amlwg i sgorio pwyntiau gwleidyddol megis beio Sefydliad Iechyd y Byd am beidio â chymryd y coronafeirws o ddifrif yn ddigon cynnar, o unrhyw gymorth er mwyn lleihau’r niwed a achosir gan y feirws, nac yn arafu ei ledaeniad. Yn yr un modd, gallech fod wedi gweld penawdau fel ‘Pwy sydd i’w feio am argyfwng y coronoafeirws ym Mhrydain?’ yn The Guardian, neu lu o erthyglau eraill sy’n dadlau bod gwledydd eraill yn ymdopi’n well â’r argyfwng. Os edrychwch ar y wasg o gwmpas y byd, yr hyn sy’n ddiddorol yw bod llawer o wledydd yn dweud yr un peth; o edrych ar draws ffiniau, mae’r ymagweddau a fabwysiadwyd gan wledydd eraill yn aml yn gallu ymddangos yn fwy effeithiol. Ac eto, nid oes consensws mewn gwirionedd ar hyn o bryd o ran p’un ai agwedd fwy llac Sweden neu’r un llawer llymach yn Sbaen fydd yn gweithio orau yn y pen draw. Mae hyn yn arbennig o wir gan nad ydym yn gwybod digon am effaith gwahaniaethau demograffig, dwysedd poblogaethau a llu o newidynnau eraill i allu dod i gasgliadau cadarn. Yn anffodus, bydd y pandemig hwn yn para am amser maith eto ac nid oes unrhyw un gwybod a yw’r gwaethaf y tu ôl i ni, neu a fydd yr un broblem yn codi eto dro ar ôl tro. Hyd yn oed yn yr Almaen, lle mae’r lefelau paratoi a’r ymateb gan iechyd cyhoeddus yn cael eu hystyried fel esiamplau i bawb arall, mae’n anodd osgoi penawdau fel ‘A yw gwledydd eraill yn gwneud yn WELL na ni yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws?’, er mai ym mhapur tabloid Bild-Zeitung y gwelwyd hwn, fel y mae’r priflythrennau’n ei awgrymu. Yn yr un modd, nid y wlad hon yn unig sydd wedi cael trafferth darparu cyfarpar diogelu personol; mae’r protestiadau gan weithwyr iechyd yn UDA a chwynion tebyg mewn gwledydd eraill yn Ewrop yn enghreifftiau clir o hynny. Er bod rhaid dwyn yr awdurdodau i gyfrif mewn democratiaeth, y pwynt rwyf yn ceisio ei wneud yw bod cyhuddo’r pedair llywodraeth o fethiannau honedig yn y gorffennol wrth ymateb i’r argyfwng yn gallu bod yn wrth-gynhyrchiol ac y gallai anwybyddu ymdrechion cyfunol llawer o bobl sy’n gwneud eu gorau mewn sefyllfa anodd. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Er nad yw popeth yn gweithio’n berffaith bob amser – ceir problemau cyfathrebu o dro i dro – mae’r bartneriaeth yn parhau i fod yn ardderchog. Rydym eisoes wedi cyflawni llawer iawn gyda’n gilydd a byddwn yn parhau i gefnogi ym mha bynnag ffyrdd y gallwn.
Gan symud ymlaen, rwyf yn ymwybodol bod yr ebyst wythnosol hyn sy’n
ymwneud â’r cyfyngiadau symud yn tueddu i gyrraedd ar nos Wener. Gall
hyn achosi mwy o waith dros y penwythnos wrth ateb ymholiadau ac
ymatebion. Felly, rwyf am geisio anfon y rhain ar ddydd Iau, os oes
modd, ac mae hyn yn gwneud perffaith synnwyr yr wythnos hon gan ei bod
yn Ddiwrnod Lles yfory.
Hoffwn eich atgoffa mai cyfle i chi ofalu am eich lles eich hun yw hwn,
ac mai chi sydd i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hynny. Yn
bersonol, mae gen i ddarn i’w ysgrifennu y bydd angen imi ganolbwyntio
arno, felly byddaf yn treulio amser yn gwneud hynny yfory. Mae gen i
hefyd rywfaint o waith glanhau a thacluso i’w wneud fydd yn
gwella’r profiad o weithio gartref yr wythnos nesaf. Mae hefyd yn gyfle i
wneud ymarfer corff wrth gwrs. Gobeithio y byddwch yn gallu cael y budd
mwyaf o’r diwrnod. Os oes rhaid i chi weithio yfory er mwyn cynnal ein
gwasanaethau hanfodol, trefnwch ddyddiad arall ar gyfer eich Diwrnod
Lles gyda’ch rheolwr llinell. Ar ben hynny, gallai gweithwyr allweddol
sy’n gorfod dod i mewn ar dri diwrnod neu ragor yr wythnos fod yn gymwys
i gael lwfans; os nad ydych yn siŵr, mae cyngor ar gael yma.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnes i addo rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
am ein strwythurau rheoli diwygiedig fydd ar waith drwy gydol cyfnod yr
argyfwng presennol (nid yn ystod y cyfyngiadau caeth yn unig, ond hefyd
nes byddwn yn dychwelyd i sefyllfa fwy arferol). Os edrychwch ar y strwythur diwygiedig yma,
fe welwch fod Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a Bwrdd y Gwasanaethau
Proffesiynol yn parhau â’u gwaith arferol, ond mae gennym bellach
grwpiau sy’n gweithio ar faterion allweddol fel sut i reoli lefelau
gwahanol o gyfyngiadau, ac ystyriaethau mewn cysylltiad â gweithgareddau
craidd fel ymchwil, addysg a recriwtio myfyrwyr. Mae’r pwynt olaf yn
arbennig o bwysig oherwydd bydd ein sefyllfa
ariannol yn y flwyddyn academaidd nesaf yn dibynnu i raddau helaeth ar
beth fydd yn digwydd o ran recriwtio myfyrwyr. Byddaf yn trafod ein
rhagolygon ariannol unwaith eto yr wythnos nesaf yn ogystal â sut y bydd
angen i ni ail-lunio Y Ffordd Ymlaen 2018-23
yn y sefyllfa sydd ohoni. I bwysleisio’r pwyntiau a godais yr wythnos
ddiwethaf, bydd yn dibynnu ar gydweithio agos rhwng cydweithwyr
academaidd a’r Gwasanaethau Proffesiynol yn ogystal ag ymgynghori, lle
bo’n briodol, â swyddogion Undeb y Myfyrwyr. Drwy wneud hyn, ein nod yw
cynnig atebion ystyriol ac ymarferol y gallwn eu rhoi ar waith yn hwylus
a’u cyfathrebu’n glir.
Yn olaf, mae’r Athro Christine Bundy yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
yn arwain prosiect ymchwil pwysig sy’n edrych ar sut rydym yn oll yn
meddwl, yn teimlo ac yn ymdopi yn ystod y pandemig. Yn ôl pob tebyg bydd
pob un ohonom wedi dechrau sgyrsiau drwy nodi pa mor ryfedd yw’r oes
ohoni, a bydd y prosiect hwn yn ceisio edrych yn fanwl ar beth mae
hynny’n ei olygu mewn gwirionedd o ran sut mae’n effeithio ar bobl.
Mae’r Athro Bundy a’i chydweithwyr wedi lansio arolwg sy’n
ceisio nodi ymddygiadau ymdopi cyffredin a ffyrdd a allai helpu pobl i
gynnal neu fabwysiadu ymddygiadau iach a/neu osgoi dewisiadau nad ydynt o
les i’w hiechyd. Byddwn yn eich annog i gymryd rhan os ydych yn teimlo
eich bod
yn gallu gwneud hynny oherwydd gorau po fwyaf o ddata a gesglir er mwyn
i’r canlyniadau fod mor ddibynadwy a defnyddiol â phosibl.
Dymuniadau gorau,
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014